Blewyn a ddywedodd:......gwelwn gyfnod o annhyfiant mewn prisiau tai Prydain yn hytrach na cwymp.
Mi wnawn ni anghofio fod prisiau wedi cwympo tua 7% yn barod ers y llynnedd......I edrych i'r dyfodol.....mae banciau yn gwrthod benthyg i bobl heb fod ganddynt flaen-dal. Felly, dim rhagor o'r morgeisi 125% Mae pob un ohonynt o fel dwi'n deall yn mynnu fod benthycwyr yn debyg o allu talu'r morgais yn ol....nid fel y blynydde blaenorol lle rhoddwyd benthyciad i unrhyw un oedd yn gallu arwydd ei enw bron. Mae nhw wedi llosgi eu bysedd. Pob un ohonynt....rhai mwy nau gilydd....yn y DU a'r UDA. Wedyn mae gyda ti'r cwmniau adeiladu mawrion ee Redrow, Wimpey, sydd wedi diswyddo miloedd o weithwyr.....hy adeiladwyr ayyb. Dim gwaith iddynt o achos does neb yn prunnu achos does neb bron yn gallu cael benthyciad i dalu am bocs esgidiau sy'n costio £200, 000! Wedyn, mae pris olew yn torri record newydd bron yn wythnosol heb son am fwyd, nwy, trydan, dwr, treth y cyngor, mwnforion o Chiana (gan fod eu cyflogau hwy yn codi). Dwi'n gwybod am sawl asiantaeth dai sydd wedi gorfod gollwng gweithwyr ac yn gwybod am dau gwmni cyfreithwyr sydd wedi gorfod gollwng cyfreithwyr 'fyd.....rhai oedd yn ymwneud a matterion tai. Mi wnaeth prisiau tai ychwanegu pob blwyddyn am tua 12 mlynedd.....roedd yn rhaid prynnu ty. Dwi'n gwybod am sawl un oedd yn eu ugeiniau cynnar oedd rhaid cael ty.....ers pryd mae pobl yn eu ugeiniau cynnar wedi gallu afforddio prynnu ty? Mae nhw'n galw e'n 'mania'.....ac mae'r rhain yn creu swigod. Ac, yn y diwedd, mae pob swigen yn bostio! Mae rhai wedi dweud taw hon (i bobl Prydain) yw mam pob swigen gan fod pob un a'i gi wedi benthyg o'u sodlau i'w corryn (morgeisi neu/a cardiau crydyd).....gan gynnwys Mr Prudence Brown (y llwyodraeth)
Rwy'n gweld heddi fod chwyddiant am fid Fehefin wedi codi eto felly ni fydd gostyngiad mewn cyfraddau llog yn debygol.
Wyt ti Blewyn yn siwr taw cyfnod o anhyfiant welwn ni?