ceribethlem a ddywedodd:S.W. a ddywedodd:[Ond i fod yn onest Ceri yn y cyd-destun yma dydy dy ddiffiniad di o Hiliaeth ddim yn golygu dim, o dan y ddeddf mae'r Albanwyr, fel y Cymry a'r Saeson yn cael eu hamddiffyn gan y 'Race Relations Act' (1979 Diwygiedig 2000 - os dwi am fod yn smart arse!
) sy'n trin y math yma o sylwadau yn yr un modd a poster yn neud sylwadau am bobl croenddu ayyb.
Dwi ddim yn son am fy niffiniad i o Hiliaeth, dweud ydw i fod y gyfraith ddim yn gwahanu rhwng yr Albanwyr, y Cymry a'r Saeson fel hiliau gwahanol. Pe bai pobl fel Anne Robinson, Clarkson et al wedi son am pobl croenddu neu bobl o Bacistan yn yr un modd a gwnaethont son am y Cymry yna byddai achos o hiliaeth yn eu herbyn. Mae'r ffaith fod dim achos o hiliaeth yn dangos nad yw'r gwahaniaeth hiliol rhwng y Cymry y Saeson a'r Albanwyr yn bwysig i'r gyfraith.
Cwestiwn i'r heddlu a'r CPS oedd rheini. Doedda nhw methu gwrthod dod ag achos am y rheswm mae yn erbyn Cymru oedd y sylwadau am fod y gyfraith yn hollol glir ar y mater - mae gwrth-gymreigedd neu gwrth-seisnigedd yn hiliol. Ella wir fod chdi'n gywir i ddweud y bysa rhywbeth wedi digwydd os fysa'r sylwada yn erbyn pobl ddu, ond gwahaniaeth yn medwl yr heddwas ydi hynnu, dim ym meddwl y gyfraith.
Rhaid cofio efo'r holl fusnas AR/Clarkson etc nad ydi bod yn hiliol yn drosedd yn Lloegr a Chymru, mae angen "extra element" i droi hiliaeth yn drosedd (unai ymosodiad neu "incite racial hatred" - dydi;r ffaith fod yr heddlu/CPS heb ddod ag achos am un o'r ddau beth yna ddim yn dweud nad oedd y sylwadau yn hiliol.