Darllediad etholiadol yr English Democrats

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Darllediad etholiadol yr English Democrats

Postiogan Tegwared ap Seion » Iau 17 Ebr 2008 6:55 pm

Gan yr un sy'n sefyll i fod yn faer Llundain. Mae'n treulio hanner yr amser yn rhedeg ar yr Albanwyr! Huleriys!

Aelwyd yr Ynys
Clera - Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru

Sdwff ni a dim rhyw sothach ail-law Seisnig
Rhithffurf defnyddiwr
Tegwared ap Seion
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3443
Ymunwyd: Maw 22 Chw 2005 5:26 pm
Lleoliad: Môn

Re: Darllediad etholiadol yr English Democrats

Postiogan sian » Iau 17 Ebr 2008 7:11 pm

Tegwared ap Seion a ddywedodd:Gan yr un sy'n sefyll i fod yn faer Llundain. Mae'n treulio hanner yr amser yn rhedeg ar yr Albanwyr! Huleriys!


Ond effeithiol.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Darllediad etholiadol yr English Democrats

Postiogan Hedd Gwynfor » Iau 17 Ebr 2008 7:35 pm

sian a ddywedodd:
Tegwared ap Seion a ddywedodd:Gan yr un sy'n sefyll i fod yn faer Llundain. Mae'n treulio hanner yr amser yn rhedeg ar yr Albanwyr! Huleriys!


Ond effeithiol.


Ydy, hynod effeithiol! Dwi'n cefnogi galwad yr English Democrats am Senedd i Loegr. Mae hyd yn oed dweud bod Yr Alban yn cael mwy na'u siar o arian mwy na thebyg yn wir (ond roedd yr ymosodiadau gwrth Alban dros ben llestri! :? ) Y broblem sydd gyda fi gyda'r ED yw bod eu polisiau i gyd yn asgell dde, a'u bod yn gwrthod cydnabod Cernyw fel gwlad.

Trueni nad oes mwy o bobl fel y bachan yma i gael yn Lloegr - http://charliemarks.wordpress.com/
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Darllediad etholiadol yr English Democrats

Postiogan Rhys » Gwe 18 Ebr 2008 8:19 am

Mae eu posteri newydd braidd yn heriol hefyd :ofn:
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Darllediad etholiadol yr English Democrats

Postiogan S.W. » Gwe 18 Ebr 2008 11:36 am

Mae nhw'n fwy nag heriol Rhys, mae nhw'n hiliol.

Sy'n dangos yn ei dro y math o blaid ydy'r EDs, proseict hiliol gan un o nsylfaenwyr Fathers for Justice.

Mae ne lot di gwilltio yn yr Alban am y posteri yma. Yn un peth mae nhw'n gwilliau llwyr - mae'r Alban yn cyfrannu mwy nag mae'n ei dderbyn gan y Trysorlys.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Re: Darllediad etholiadol yr English Democrats

Postiogan Sleepflower » Gwe 18 Ebr 2008 12:42 pm

S.W. a ddywedodd:
proseict hiliol gan un o nsylfaenwyr Fathers for Justice.



Mae hyn yn drueni. Fi'n cytuno â lot o beth sydd gan Father's for Justice i'w ddweud.
Rhithffurf defnyddiwr
Sleepflower
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1442
Ymunwyd: Iau 20 Tach 2003 6:23 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Darllediad etholiadol yr English Democrats

Postiogan Mr Gasyth » Gwe 18 Ebr 2008 12:54 pm

Sleepflower a ddywedodd:
S.W. a ddywedodd:
proseict hiliol gan un o nsylfaenwyr Fathers for Justice.



Mae hyn yn drueni. Fi'n cytuno â lot o beth sydd gan Father's for Justice i'w ddweud.


y tueni mwyaf ydi pobl sy'n taflu cyhuddiadau o hiliaeth o gwmpas yn llawer rhy hawdd. gwrth-albaniaeth efallai, ond nid hiliaeth
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Re: Darllediad etholiadol yr English Democrats

Postiogan Kez » Gwe 18 Ebr 2008 1:02 pm

Mr Gasyth a ddywedodd:
y trueni mwyaf ydi pobl sy'n taflu cyhuddiadau o hiliaeth o gwmpas yn llawer rhy hawdd. gwrth-albaniaeth efallai, ond nid hiliaeth


Cytunaf. Mae lot o bobol yn cymysgu rhwng hiliaeth, rhagfarn a xenophobia.
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: Darllediad etholiadol yr English Democrats

Postiogan Rhods » Gwe 18 Ebr 2008 1:17 pm

Be bynnag yw'r 'termau priodol', ma'r holl peth yn rong. Heb cymryd lot o ddiddordeb yn yr' English Democrats' (neu be bynnag ma nhw yn galw eu hunain), so sain gwbod yn union be ma nhw wedi dweud ond ta waith, ma barnu person ar sail o pa wlad maent yn dod yn unig yn beth ffiaidd a pheryglus. Dim ots pa wlad maent yn dod - Cymru, Alban, Lloegr, Iwerddon, Ffrainc etc.etc - mae'n rhaid i ni gyd barchu ein gilydd, er yn anffodus, yn aml , dyw hynny ddim yn digwydd.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhods
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1266
Ymunwyd: Gwe 06 Ion 2006 2:17 pm

Re: Darllediad etholiadol yr English Democrats

Postiogan Rhys » Gwe 18 Ebr 2008 2:18 pm

Dyma un o'r posteri, mae'r ddau arall yn cynnwys lluniau o Albanwyr mewn cilt ac mae awgrym o wneud rhywbeth digon cas i'w ceilliau nhw.
ED.jpg
Poster yr English Democrats ar gyfer etholiadau Maer Llundain
ED.jpg (26.44 KiB) Dangoswyd 3333 o weithiau

Heblaw am y gwaith Photoshop gwael, mae'r neges yn gwbwl amherthnasol i ymgyrch maer Llundain hyd y gwela i achos does gan Awdurdod Llundain ddim pwerau dros godi trethi incwm nac ychwaith ar ddyfarnu faint o arian sy'n cael ei wario yn yr Alban.

Tra bod gwir angen plaid sy'n lleisio anhegwch cyfansoddiadol DG (sydd yn y bôn yn atal Saeson rhag ymarfer unrhyw genedlaetholdeb sifig Seisinig), mae'r blaid yma'n ymddangos yn llawn ffyliaid. Mae eu sialens o argyhoeddi'r cyhoedd i ystyried eu hunain yn Saeson yn hytrach na Phrydeinwyr (yr union frwydr sydd wedi ei hymladd yng Nghymru a'r Alban ers dros 80 blynedd) yn un digon anodd fel mae hi o ystyried agwedd y cyfryngau Llundeinig, ond mae stynts fel hyn, yn ogystal a sefyll yn etholiadau Cynulliad Cymru ond yn mynd i wenud i bobl feddwl mae crancs ydynt. Yn anffodus mae unrhyw blaid Saesnig yn tueddu denu dilynwyr asgell dde a gwrth dramorwyr.

Sy'n dangos yn ei dro y math o blaid ydy'r EDs, proseict hiliol gan un o sylfaenwyr Fathers for Justice.

Dwi'n meddwl mai dim ond yn ddiweddar y daeth aelod blaenllaw o Fathers4Justice yn rhan o'r blaid, ac fe arweiniodd hyn at ymgeisydd gwreiddiol y blaid ar gyfer bod yn faer Llundain i adael y blaid a ffurfio plaid cenedlaetholgar Saesneg arall o'r enw Free England Party. Dwi ddim yn siwr os mai wedi llyncu mûl oedd o achos hwn wedyn oedd am fod yn ymgeisydd maer newydd neu rhywbeth ehangach am gyfeiriad ac agweddau gwrth-Albanaidd a gwrth-Gymreig y blaid. Beth bynnag, mae tôn y dyn hwn yn swnio'n llawer mwy cymhedrol, ond yn anffodus o ddarllen amcanion y blaid mae'n swnio'n union run fath a'r English Democrats.
1. The creation of a sovereign English nation state, the formation of a governmental system with an elected upper and lower house, and a Bill of Rights. Fixed term 4 year parliaments.

2. Suspension of immigration until the current mess is rectified, regaining of national borders, faster deportation of illegals, released foreign prisoners, those who are considered dangerous by the security services, and failed asylum seekers.

3. Increased prison capacity, full term sentences served by convicted criminals, abolition of the parole board, mandatory sentences for offences such as burglary and drink driving, introduction of cumulative sentencing.

4. Introduction of Medicare scheme, to encourage people to have regular checks for things such as eyesight, dental, blood pressure, diabetes, smear tests, etc.

5. Creation of trade training colleges for students of 14 and upwards, creation of sports colleges.

6. Tax cut of 2p in the £ after departure from the EU. Application to join EFTA. Investment in projects to help England become a world leader in science and technology.

7. Exploration of all renewable energy usages to reduce the nation's dependency on fossil fuels.

8. Improved public transport schemes, including tram and light rail systems. Re-nationalisation of public transport where practicable to ensure public transport is run as a service not a business.

9. Strategic location of government projects to areas of high unemployment, such as MoD, the Royal Mint and DVLA.


Ond os mai dyma'r math o bethau sy'n poeni pleidleiswyr Lloer, yna pam ddim eu mabwysiadu fel polisi mae'n debyd. Yn amlwg mae nhw'n flin bod swyddfeydd yr asiantaeth yrru a'r bathdy wedi eu lleoli yng Nghymru!
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Nesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron