Darllediad etholiadol yr English Democrats

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Darllediad etholiadol yr English Democrats

Postiogan S.W. » Gwe 18 Ebr 2008 4:21 pm

Mr Gasyth a ddywedodd:
Sleepflower a ddywedodd:
S.W. a ddywedodd:
proseict hiliol gan un o nsylfaenwyr Fathers for Justice.

Mae hyn yn drueni. Fi'n cytuno â lot o beth sydd gan Father's for Justice i'w ddweud.

y tueni mwyaf ydi pobl sy'n taflu cyhuddiadau o hiliaeth o gwmpas yn llawer rhy hawdd. gwrth-albaniaeth efallai, ond nid hiliaeth

Sori Gasyth ti'n siarad shit yma. Y trueni mwya yn dy farn di ydy'r term anelwig 'hiliaeth'? Mae'r sentiment tu ol i neges yr EDs yn llawer fwy truenus nag hynny siawns? Licio fo neu beidio dyna'r term sy'n cael ei ddefnyddio'n swyddogol - mae sylwadau sarhaus am y Cymry, Albanwyr, Saeson fel cenedi yn dod o dan deddfau hiliaeth. Dio'n bell o fod yn berffaith ond dyna sy gennym galwa fo'n Cenedliaeth os dio'n neud ti deimlo'n well.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Re: Darllediad etholiadol yr English Democrats

Postiogan Kez » Gwe 18 Ebr 2008 8:09 pm

Taten boeth yw'r term hiliaeth - ond dwi ddim yn meddwl bod Gasyth yn siarad shit. Efallai dylsen ni gael edefyn arall er mwyn trafod hyn lle bo pobol sy'n deall y Gyfraith ac eraill sy'n deall beth yw cysylltiadau hiliol yn dod i mewn. Licswn i wbod eu barn nhw.
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: Darllediad etholiadol yr English Democrats

Postiogan mabon-gwent » Gwe 18 Ebr 2008 11:13 pm

Hedd Gwynfor a ddywedodd:
sian a ddywedodd:
Tegwared ap Seion a ddywedodd:Gan yr un sy'n sefyll i fod yn faer Llundain. Mae'n treulio hanner yr amser yn rhedeg ar yr Albanwyr! Huleriys!

Ond effeithiol.

Ydy, hynod effeithiol! Dwi'n cefnogi galwad yr English Democrats am Senedd i Loegr. Mae hyd yn oed dweud bod Yr Alban yn cael mwy na'u siar o arian mwy na thebyg yn wir (ond roedd yr ymosodiadau gwrth Alban dros ben llestri! :? )

Ro'n i'n meddwl am hwn, pan ti'n meddwl am yr olew yn y 70s roedd lot o arian na. Cymhariaeth rhwng Norwy ac yr Alban heddi, dau wlad gyda'r un hawl iddo, ond doedd yr Alban ddim yn gallu cadw fe. Wi'n cytuno bod yr Albanwyr yn derbyn mwy na'r Saeson, ond mae'n deg rili.
Rhithffurf defnyddiwr
mabon-gwent
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 111
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2008 4:00 am

Re: Darllediad etholiadol yr English Democrats

Postiogan Seonaidh/Sioni » Gwe 18 Ebr 2008 11:28 pm

Chan eil fios agam airson na English Democrats - Dw i heb glywed am yr English Democrats o'r blaen. Ond, gan mod i'n aros yn yr Alban, mae un peth yn bendant - 'does 'na ddim y fath beth fel "Tartan Taxes" sy'n cyrraedd o Westmonster. Mae treth incwm yn cael ei chodi ym Mhrydain - ac mae'r rhan addas o hynny (bydd llawer yn dweud "llai nag addas") tn cyrraedd yr Alban.

Wrth y pethau mod i wedi'w gweld yma am yr English Democrats, mae'n AMLWG eu bod yn HILIOL DROS BEN LLESTRI. Fedra'i ddim gweld y gwahaniaeth rhyngddyn nhw a'r Blaid Genedlaethol Brydeinig neu'r Ffrynt Nasiynal neu UKIP.
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Darllediad etholiadol yr English Democrats

Postiogan mabon-gwent » Gwe 18 Ebr 2008 11:42 pm

Seonaidh/Sioni a ddywedodd:Wrth y pethau mod i wedi'w gweld yma am yr English Democrats, mae'n AMLWG eu bod yn HILIOL DROS BEN LLESTRI. Fedra'i ddim gweld y gwahaniaeth rhyngddyn nhw a'r Blaid Genedlaethol Brydeinig neu'r Ffrynt Nasiynal neu UKIP.

Yn wir maen nhw. Efallai bydd hwn o ddiddordeb i chi:

http://www.lettingmonmouthshiredecide.com/

Os unrhyw diddordeb da unrhywun mewn ymgyrch i gael popeth i'r orllewin y Hafren + Amwythig a Chaer yng Nghymru? Mae lot mwy o'r Cymry yn Amwythig na Saeson yn Sir Fynwy.
Rhithffurf defnyddiwr
mabon-gwent
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 111
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2008 4:00 am

Re: Darllediad etholiadol yr English Democrats

Postiogan Seonaidh/Sioni » Sad 19 Ebr 2008 7:22 pm

O Maponos Venta, ti'n berl. Es i i'r wefan erchyll na a darllen rhyw grap am fod Went yn rhan naturiol Lloegr. Es i bellach a phwyso'r botwm "Policies". Doedd o ddim yn dweud llawer, ond yn cynnig rhyw bwys arall am bolisiau. A dyna chi - wrth glicio'r llygoden dyna be dych chi'n cael:-

Not Found
The requested URL /principals.php was not found on this server.

Additionally, a 404 Not Found error was encountered while trying to use an ErrorDocument to handle the request.

--------------------------------------------------------------------------------

Apache/2.2.8 (Unix) mod_ssl/2.2.8 OpenSSL/0.9.7a mod_auth_passthrough/2.1 mod_bwlimited/1.4 FrontPage/5.0.2.2635 PHP/5.2.5 mod_perl/2.0.3 Perl/v5.8.8 Server at http://www.englishdemocrats.org.uk Port 80

Wel, mi wnes i chwerthin! Hefyd, i'r rhai ohonoch sy'n gyfarwydd ag iaith y Saeson, dal sylw ar y gair "principals". Mae o'n golygu rhywbeth fel "prif-athrawon", yn hytrach nag "egwyddorau". Ymddengys fod y criw yna yn dwp yn ogystal a hiliol.
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Darllediad etholiadol yr English Democrats

Postiogan Madrwyddygryf » Sul 20 Ebr 2008 1:20 pm

I remember England that gave the world the English language and the democracy

Diawch, roeddwn ni meddwl mai Groegwyr oedd wedi dyfeisio democratiaeth....
Clwb Rhedeg Caerdydd. Clwb Rhedeg ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
Bob nos Lun 6:00pm tu allan i Athronfa Chwareon, Gerddi Sofia.|
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Darllediad etholiadol yr English Democrats

Postiogan Pogo » Sul 20 Ebr 2008 10:31 pm

Dwi'n cefnogi'r English Democrats.
Pogo
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 74
Ymunwyd: Sad 10 Maw 2007 5:42 pm

Re: Darllediad etholiadol yr English Democrats

Postiogan mabon-gwent » Sul 20 Ebr 2008 10:34 pm

Pogo a ddywedodd:Dwi'n cefnogi'r English Democrats.

A phob lwc i chi :lol:
Rhithffurf defnyddiwr
mabon-gwent
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 111
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2008 4:00 am

Re: Darllediad etholiadol yr English Democrats

Postiogan S.W. » Llun 21 Ebr 2008 1:50 pm

Kez a ddywedodd:
S.W. a ddywedodd:
Mr Gasyth a ddywedodd:
Sleepflower a ddywedodd:
S.W. a ddywedodd:
proseict hiliol gan un o nsylfaenwyr Fathers for Justice.

Mae hyn yn drueni. Fi'n cytuno â lot o beth sydd gan Father's for Justice i'w ddweud.

y tueni mwyaf ydi pobl sy'n taflu cyhuddiadau o hiliaeth o gwmpas yn llawer rhy hawdd. gwrth-albaniaeth efallai, ond nid hiliaeth

Sori Gasyth ti'n siarad shit yma. Y trueni mwya yn dy farn di ydy'r term anelwig 'hiliaeth'? Mae'r sentiment tu ol i neges yr EDs yn llawer fwy truenus nag hynny siawns? Licio fo neu beidio dyna'r term sy'n cael ei ddefnyddio'n swyddogol - mae sylwadau sarhaus am y Cymry, Albanwyr, Saeson fel cenedi yn dod o dan deddfau hiliaeth. Dio'n bell o fod yn berffaith ond dyna sy gennym galwa fo'n Cenedliaeth os dio'n neud ti deimlo'n well.

Taten boeth yw'r term hiliaeth - ond dwi ddim yn meddwl bod Gasyth yn siarad shit. Efallai dylsen ni gael edefyn arall er mwyn trafod hyn lle bo pobol sy'n deall y Gyfraith ac eraill sy'n deall beth yw cysylltiadau hiliol yn dod i mewn. Licswn i wbod eu barn nhw.

Wrach bod fy nefnydd o 'siarad shit' braidd yn gryf ond dwin sdicio at yr yn dwi'n ei ddweud. Cwbwl mae'r EDs yn ei wneud ydy 'pigo' ar grwp o bobl (Albanwyr yn y cyd-destyn yma'n amlwg) a rhoi'r bai arnynt nhw am be mae nhw'n ei weld fel diffyg tegwch i Loegr. Petai'r Albanwyr yn cael eu eilyddio am "Pakistanis", neu "French" bydde mwy o gwyno a cenedl ydy'r rhain yn yr un modd a'r Albanwyr. Mae'r defnydd o Jock etc yn eu posteri wedi ei ddefnyddio i iselhau'r Albanwyr, o dan ein diffiniad swyddogol o Hiliaeth does dim gwahaniaeth rhwng dweud hynny a dweud "Pakis are taking all our money".
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron