Darllediad etholiadol yr English Democrats

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Darllediad etholiadol yr English Democrats

Postiogan Cwlcymro » Llun 21 Ebr 2008 3:54 pm

Kez a ddywedodd:Taten boeth yw'r term hiliaeth - ond dwi ddim yn meddwl bod Gasyth yn siarad shit. Efallai dylsen ni gael edefyn arall er mwyn trafod hyn lle bo pobol sy'n deall y Gyfraith ac eraill sy'n deall beth yw cysylltiadau hiliol yn dod i mewn. Licswn i wbod eu barn nhw.

Mae'r gyfraith yn gweld ymosodiadau gwrth-Gymreig/Seisnig etc yn hiliol. "Racial Assault" ydy'r drosedd o ddyrnu rhywun am fod yn Sais. Mae yna sawl achos felly wedi bod (Cymro dyrnu Sais/Sais dyrnu Cymro)
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Re: Darllediad etholiadol yr English Democrats

Postiogan ceribethlem » Llun 21 Ebr 2008 4:32 pm

Cwlcymro a ddywedodd:

Mae gwahaniaeth mawr rhwng dyrnu rhywun am fod yn Gymro/Sais ayyb i ddweud pethau dilornus amdanynt. Mae nifer o bethau trahaus wedi eu dweud am y Cymry dros y blynyddoedd diwethaf (gan pobl fel Anne Robinson, Jeremy Clarkson, A.A. Gill ayyb) heb i unrhywbeth gael ei ddweud, er fod rhai (mae'n debyg) wedi cwyno i'r asiantaeth gwrth hiliaeth. Os yw hyn yn precedent, yna mae beth mae'r English Democrats yn dweud braidd yn cyrraedd y scale heb son am fynd drosti.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Darllediad etholiadol yr English Democrats

Postiogan Cwlcymro » Maw 22 Ebr 2008 8:50 am

ceribethlem a ddywedodd:

Wrth gwrs fod na wahaniaeth, dim ond atab cwestiwn kez oni ar be mae'r gyfraith yn weld fel hil - mae'r gyfraith yn gweld Cymru/Lloegr/Alban fel hiliau gwahanol
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Re: Darllediad etholiadol yr English Democrats

Postiogan ceribethlem » Maw 22 Ebr 2008 9:39 am

A fi'n dweud nagyn dy nhw ddim, gweler yr enghreifftiau rhoddais uchod.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Darllediad etholiadol yr English Democrats

Postiogan S.W. » Maw 22 Ebr 2008 11:32 am

Ond i fod yn onest Ceri yn y cyd-destun yma dydy dy ddiffiniad di o Hiliaeth ddim yn golygu dim, o dan y ddeddf mae'r Albanwyr, fel y Cymry a'r Saeson yn cael eu hamddiffyn gan y 'Race Relations Act' (1979 Diwygiedig 2000 - os dwi am fod yn smart arse! 8) ) sy'n trin y math yma o sylwadau yn yr un modd a poster yn neud sylwadau am bobl croenddu ayyb.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Re: Darllediad etholiadol yr English Democrats

Postiogan Rhys Llwyd » Maw 22 Ebr 2008 11:51 am

Y cyfweliad yma gan yr un gwr o'r English Democrats yn ddifyr achos maen dweud ar goedd ei fod e'n cefnogi Annibyniaeth i'r Alban, ei beth mawr e yn y darllediad uchod yw "what has Scotland given back to us," dau beth yn syml - olew a dŵr. A gyda'r hinsawdd yn symud fel mae e fe ddaw y de-ddwyrain a Llundain yn fwy fwy dibynnol ar yr Alban a Chymru am ddwr.:

Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Darllediad etholiadol yr English Democrats

Postiogan ceribethlem » Maw 22 Ebr 2008 12:48 pm

S.W. a ddywedodd:[Ond i fod yn onest Ceri yn y cyd-destun yma dydy dy ddiffiniad di o Hiliaeth ddim yn golygu dim, o dan y ddeddf mae'r Albanwyr, fel y Cymry a'r Saeson yn cael eu hamddiffyn gan y 'Race Relations Act' (1979 Diwygiedig 2000 - os dwi am fod yn smart arse! 8) ) sy'n trin y math yma o sylwadau yn yr un modd a poster yn neud sylwadau am bobl croenddu ayyb.

Dwi ddim yn son am fy niffiniad i o Hiliaeth, dweud ydw i fod y gyfraith ddim yn gwahanu rhwng yr Albanwyr, y Cymry a'r Saeson fel hiliau gwahanol. Pe bai pobl fel Anne Robinson, Clarkson et al wedi son am pobl croenddu neu bobl o Bacistan yn yr un modd a gwnaethont son am y Cymry yna byddai achos o hiliaeth yn eu herbyn. Mae'r ffaith fod dim achos o hiliaeth yn dangos nad yw'r gwahaniaeth hiliol rhwng y Cymry y Saeson a'r Albanwyr yn bwysig i'r gyfraith.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Darllediad etholiadol yr English Democrats

Postiogan Cwlcymro » Maw 22 Ebr 2008 1:05 pm

Cwestiwn i'r heddlu a'r CPS oedd rheini. Doedda nhw methu gwrthod dod ag achos am y rheswm mae yn erbyn Cymru oedd y sylwadau am fod y gyfraith yn hollol glir ar y mater - mae gwrth-gymreigedd neu gwrth-seisnigedd yn hiliol. Ella wir fod chdi'n gywir i ddweud y bysa rhywbeth wedi digwydd os fysa'r sylwada yn erbyn pobl ddu, ond gwahaniaeth yn medwl yr heddwas ydi hynnu, dim ym meddwl y gyfraith.

Rhaid cofio efo'r holl fusnas AR/Clarkson etc nad ydi bod yn hiliol yn drosedd yn Lloegr a Chymru, mae angen "extra element" i droi hiliaeth yn drosedd (unai ymosodiad neu "incite racial hatred" - dydi;r ffaith fod yr heddlu/CPS heb ddod ag achos am un o'r ddau beth yna ddim yn dweud nad oedd y sylwadau yn hiliol.
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Re: Darllediad etholiadol yr English Democrats

Postiogan ceribethlem » Maw 22 Ebr 2008 1:15 pm

Cwlcymro a ddywedodd:Cwestiwn i'r heddlu a'r CPS oedd rheini.
A phan oedd ffys am y peth fe ddywedon nhw nad oedd hi'n bosib i Sais fod yn hiliol yn erbyn Cymro gan eu bod yn wyn.

Efallai bod fy nghof i'n wallus (a dweud y gwir mae fy nghof i yn wallus), ond dyna fel dwi'n ei chofio hi.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Darllediad etholiadol yr English Democrats

Postiogan S.W. » Maw 22 Ebr 2008 2:50 pm

Gall unrhyw berson wneud cyhuddiad o hiliaeth yn erbyn person arall a mae gorfodaeth cyfreithiol wedyn ar yr Heddlu ac yna Gwasanaeth Erlyn y Goron yn gyntaf ymchwilio i hynny ac yna penderfynu os oes achos iw ateb. Does dim gwahaniaeth cyfreithiol yn cael ei osod os yw'r ddau genedl yn wyn fel gyda cenedlau gwledydd Prydain. Gelli di gael dy gyhuddo o hiliaeth yn erbyn Saeson hyd yn oed os wyt ti'n Gymro gwyn dy groen a vice-versa. Mae hynny'n ffaith. Dydy diffyg erlyniad yn achos Janet Street Porter, Ann Robinson, Tony Blair nag AA Gill ddim yn newid hynny, cwbwl mae'n profi yn eu cyd-destun nhw ydy nad ydynt wedi gallu profi mae bwriad eu sylwadau nhw oedd i 'iselhau' y Cymry ond yn nghyd-destun pawb ond Blair "i gael cheep laugh" oedd o. Mae Irish Travellers hefyd yn cael ei ddiffinio fel hil ar wahan, maent hyd yn oed arwahan I Irish, mae'r ddau ohonynt yr un lliw, a'r un acenion ond o safblwynt hil, maent yn hollol wahanol i Wyddelod sydd ddim yn byw mewn carafans.

Gobeithio bod hynny'n neud chydig mwy o sense, ond dwi'n amau.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai

cron