Tudalen 4 o 4

Re: Darllediad etholiadol yr English Democrats

PostioPostiwyd: Maw 22 Ebr 2008 2:58 pm
gan Cwlcymro
ceribethlem a ddywedodd:
Cwlcymro a ddywedodd:Cwestiwn i'r heddlu a'r CPS oedd rheini.
A phan oedd ffys am y peth fe ddywedon nhw nad oedd hi'n bosib i Sais fod yn hiliol yn erbyn Cymro gan eu bod yn wyn.

Efallai bod fy nghof i'n wallus (a dweud y gwir mae fy nghof i yn wallus), ond dyna fel dwi'n ei chofio hi.


North Wales Police's deputy chief constable Clive Wolfendale said...Welsh people were protected under race relations legislation and that there were communities, particularly in the north west of Wales, who were as "isolated, vunerable and threatened" as ethnic communities in major cities


Ma hwnna yn yr erthygl am Heddlu GC ddim yn dod ag achos yn erbyn Blair. Efo Ann Robinson, yr unig beth gath ei ddweud yn swyddogol of "lack of evidence". Drwy edrych nol ar erthygla'r pryd allai weld dim am yr heddlu'n dweud fod gwrth-gymreigedd ddim yn hiliol am fod pawb yn wyn.

Allai sicrhau chdi fod y gyfraith yn sicr yn geld gwrth-gymreigdod neu gwrth-seisnig fel bod yn hiliol.

Re: Darllediad etholiadol yr English Democrats

PostioPostiwyd: Maw 22 Ebr 2008 4:07 pm
gan ceribethlem
Cwlcymro a ddywedodd:Ma hwnna yn yr erthygl am Heddlu GC ddim yn dod ag achos yn erbyn Blair. Efo Ann Robinson, yr unig beth gath ei ddweud yn swyddogol of "lack of evidence". Drwy edrych nol ar erthygla'r pryd allai weld dim am yr heddlu'n dweud fod gwrth-gymreigedd ddim yn hiliol am fod pawb yn wyn.
Bai fi yw hwnna, o'n i ar frys yn teipio'r peth. Nid bod y ddau (h.y. Cymry a Saeson) yn wyn oeddwn i'n golygu ond yn hytrach fod y ddau yr un peth. Fi'n cofio rhywbeth fod e' ddim yn bosib i Saes fod yn hiliol yn erbyn Cymro am mai'r "un pobl" ydym ni.

Re: Darllediad etholiadol yr English Democrats

PostioPostiwyd: Maw 22 Ebr 2008 10:01 pm
gan Cwlcymro
ceribethlem a ddywedodd:Bai fi yw hwnna, o'n i ar frys yn teipio'r peth. Nid bod y ddau (h.y. Cymry a Saeson) yn wyn oeddwn i'n golygu ond yn hytrach fod y ddau yr un peth. Fi'n cofio rhywbeth fod e' ddim yn bosib i Saes fod yn hiliol yn erbyn Cymro am mai'r "un pobl" ydym ni.


Dydi hunna ddim yn wir ddo. Er fod cymru a season yr un hil wrth drafod geneteg, o ran y gyfraith mae nhw'n hiliau gwahanol ffwl stop. Dwi wedi edrych nol ar erthygla adag Ann Robisnon a Tony Blair a dosnam son yn unman am fethu ei cyhuddo o fod yn hiliol gan ei bod nhw rhyn hil.Ma'r heddwas yngwneud hi'n glir mai fel arall mai yn y dyfyniad o'r ymchwiliad mewn i Blair

North Wales Police's deputy chief constable Clive Wolfendale said...Welsh people were protected under race relations legislation


Mae na nifar o achosion wedi bod lle mae rhywun wedi cael ei ffendio'n euog o racial assault am drawo rhywun am ei bod nhw'n Gymro/Sais (dwi'n gwbo nad yda ni yn sharad am hitio rhywun yn fama, ond dangos ydwi fod y tag "hiliol" yn cael ei ychwanegu gen yr heddlu/CPS/llys os ydy'r ymosodiad wedi digwydd achos cymreictod/seisnigrwydd.)

Re: Darllediad etholiadol yr English Democrats

PostioPostiwyd: Maw 29 Ebr 2008 8:47 pm
gan Madrwyddygryf
Dwi wedi clywed bod o wedi tynnu allan o'r ras nawr. Dyna beth mae'r blaid yn dweud:

English Democrats a ddywedodd:Unfortunately - and this is not a subject I would have wanted to air publicly had it not been for the statement released by Matt O'Connor this morning seeking to blame us - it became apparent that there were problems with Matt's candidacy arising from his own personal problems, not least following his disappearance from the campaign for several days, to the extent that I advised him to seek professional counselling regarding alcohol abuse, which he did. Matt did not disclose this problem to us when he urged us to select him as our candidate.

Despite this counselling, Matt again went missing last Saturday; - neither his office nor his partner seemed to know of his whereabouts and he could not be contacted at home. Indeed the Party prepared a statement last night raising concerns at his disappearance, as we were becoming genuinely worried for his safety.

Re: Darllediad etholiadol yr English Democrats

PostioPostiwyd: Maw 29 Ebr 2008 10:44 pm
gan Prysor
S.W. a ddywedodd:Ond i fod yn onest Ceri yn y cyd-destun yma dydy dy ddiffiniad di o Hiliaeth ddim yn golygu dim, o dan y ddeddf mae'r Albanwyr, fel y Cymry a'r Saeson yn cael eu hamddiffyn gan y 'Race Relations Act' (1979 Diwygiedig 2000 - os dwi am fod yn smart arse! 8) ) sy'n trin y math yma o sylwadau yn yr un modd a poster yn neud sylwadau am bobl croenddu ayyb.


Ffwcio'r ddeddf! Y ffaith ydi, a'r pwynt ydi, nid be ydi hil a be sydd ddim yn hil, ond be ydi hiliaeth a be sy ddim yn hiliaeth.

Roedd hiliaeth yn bodoli cyn i twittering wine-drinkers politicali corect Islington basio deddf i ledu'r diffiniad i gynnwys y ffasiwn nonsans a galw rhywun yn Taff, Jock, ffycin Sais, sheepshagger, haggis-muncher, neu be bynnag.

Hiliaeth yw'r gred fod un hil (ac mi dderbyniwn 'cenedl' yma hefyd) yn israddol i'r llall - y syniad a'i ganlyniadau gweithredol. Mae rhagfarn hiliol sy'n deillio o'r gred sylfaenol hon, yn un o'r canlyniadau hefyd.

Ond mae galw 'racial stereoteiping' a cymryd y ffycin piss yn hiliol (h.y. yn yr un dosbarth a chanlyniadau erchyll y syniad fod un hil yn israddol i'r llall), yn difrio'r miliynnau o bobl croenddu, sipsiwn, Iddewon ac eraill sydd wedi dioddef hiliaeth go iawn.

"Cafodd fy hen daid ei chwipio i farwolaeth pan yn gaethwas. Cafodd fy nhad ei ladd gan y Ku Klux Klan. Cafodd fy mrawd ei guro i farwolaeth gan y cops, poerwyd ar fy mam ar y stryd, carcharwyd fi am oes am gwffio'n nol."

"Alla i gydymdeimlo, mêt. Ges i fy ngalw'n 'sheepshagger' unwaith, a mae AA Gill yn fy ngalw i'n 'pugnacious little troll'... a mae Tony Blair yn galw fi'n 'fucking Welsh'..."


Comprende?

O ran yr English Democrats - gad iddyn nhw weiddi dros y lle. Os dio'n mynd i greu rhwygiadau cenedlaethol yn yr undeb Prydeinig, ac achosi twf mewn ymwybyddiaeth Albanaidd a Seisnig, yna ffycin gret. Da chi'n dallt os aiff yr Alban ffordd ei hun, y bydd rhaid i Loegr fynd ei hun. Mae hynny'n golygu fydd Cymru'n gorfod cael senedd â phwerau llawn, o leiaf. Llawenhewch y ffycars :lol:

Re: Darllediad etholiadol yr English Democrats

PostioPostiwyd: Mer 30 Ebr 2008 8:08 am
gan garynysmon
Spot on Prysor.

Re: Darllediad etholiadol yr English Democrats

PostioPostiwyd: Mer 30 Ebr 2008 10:03 am
gan S.W.
Cytuno hefo lot o'r hyn wyt ti'n ei ddweud yn dy ffordd unigryw diflewyn ar dafod dy hyn Prysor.

Mae rhywun yn galw fi'n Sheep Shagger yn gwbl gwahanol i casau Iddew am ei fod yn Iddew neu person croenddu am ei fod yn groenddu. Yn bersonol does ffwc o bwys gen i be ma AA Gill yn ddweud na Jeremy Clarkson (oni bai bod on siarad am geir) na unrhyw pleb aralll. Os di rhywun yn galw fi'n sheep shagger mae genai llond hosan o ymatebion i hynny heb ffonio'r CRE neu Eleri Carrog.

Ond, o weld y darllediad yma, ac o weld posteri pathetic yr English Democrats yn etholiadau 'Maeryddol' Llundain swn i dal i ddadlau bod rhain yn disgyn ar ochr hiliaeth i'r ddadl - hyd yn oed os dwin anwybyddu am eiliad y ddeddf a'r pobl o Islington ayyb am wan. Be mae'r posteri yn bennaf ond hefyd y darllediad yn ei wneud ydy creu drwg deimlad tuag at cenedl arall. Bydde modd llawer gwell o ymosod ar yr arian honedig sy'n cael ei wario ar yr Alban ar draul y trethdawlyr yn Llundain heb fynd lawr y trywydd 'Ye Poor Olde English' vs Jocks.

Mae nifer fawr o bobl wedi dioddef hiliaeth lot gwaeth na ni'r Cymry, does dim gwadu hynny a byddwn i byth am eiliad am gymharu pethau fel hyn i'r Almaen Natsiaidd ayyb ond dwi yn dadlau yn y cyd-destun yma hiliaeth ydy'r posteri yma. Cyfeirio at genedl ydy galw rhywun yn Paki neu'n Chink hefyd, Sa nhw byth yn rhoi poster fel yne i fyny nafsen.

Re: Darllediad etholiadol yr English Democrats

PostioPostiwyd: Sul 25 Mai 2008 8:47 pm
gan LLewMawr
mae'r EDs yn hawlio Gwent fel rhan o Loegr. felly nhw'n gallu pisio nôl dros clawdd Offa!!