Dwi yn derbyn nawr mai nid na yw y bwriad , ond mae defnyddio'r fath eiriau yn gallu cael ei weld fel ymosodiad - falle y byddai yn syniad gofyn i rhywun sydd wedi/yn diodde - gweld be ma nhw yn feddwl am disgrifio rhywun ar afiechyd anhwylder bwyta yn 'gont tew'? Gallai dy sicrhau fe fydde nhw yn gweld e yn offensif ac yn ymosodiad. Rhaid bod yn ofalus iawn fel ma pobl yn geirio pethe yn enwedig ar mater sensetif fel hyn. Galwch fi yn PC os chi ishe, ond jyst yn esbonio'r ffeithiau, na gyd.
O ran Precsott ei hun, dwi yn gallu gweld arf y ddadl bod e yn ceisio gwerthu llyfr, ond tasa'r brigad anti Prescott sydd yn gwbod bach iawn am y salwch, ond yn gweld y mymryn o realiti o'r dioddefaint erchylla a phoenus mae pobl ag anhwylderau bwyta yn dioddef, falle fe fydd yna bach mwy o gydymdeimlad tuag ato. Oce, falle bod e di bod yn anonest yn y gorffennol, deud celwydd ac ie, yn meddwl am ei hun, (sydd ironically yn symtoms clir o salwch anhwylderau bwyta), ond person yw e r'un fath a ni ar diwedd y dydd.
A peth arall, odi defnyddio termau fel 'cont' yn rhan o drafodaeth aeddfed ymysg oedolion cyfrifol? Iawn i anghytuno, bod yn galed mewn dadl etc etc - ond defnyddio termau fel hyn i ddisgrfio pobl? Dwi ddim yn meddwl.
Ond eniwe, digon am hyn nawr falle. Efallai y byddai yn syniad yn y dyfodol cael trafodaeth difrifol ar y maes am afiechydon anhwylderau bwyta