John Prescott

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: John Prescott

Postiogan Rhods » Maw 22 Ebr 2008 11:08 am

Dwi yn derbyn nawr mai nid na yw y bwriad , ond mae defnyddio'r fath eiriau yn gallu cael ei weld fel ymosodiad - falle y byddai yn syniad gofyn i rhywun sydd wedi/yn diodde - gweld be ma nhw yn feddwl am disgrifio rhywun ar afiechyd anhwylder bwyta yn 'gont tew'? Gallai dy sicrhau fe fydde nhw yn gweld e yn offensif ac yn ymosodiad. Rhaid bod yn ofalus iawn fel ma pobl yn geirio pethe yn enwedig ar mater sensetif fel hyn. Galwch fi yn PC os chi ishe, ond jyst yn esbonio'r ffeithiau, na gyd.

O ran Precsott ei hun, dwi yn gallu gweld arf y ddadl bod e yn ceisio gwerthu llyfr, ond tasa'r brigad anti Prescott sydd yn gwbod bach iawn am y salwch, ond yn gweld y mymryn o realiti o'r dioddefaint erchylla a phoenus mae pobl ag anhwylderau bwyta yn dioddef, falle fe fydd yna bach mwy o gydymdeimlad tuag ato. Oce, falle bod e di bod yn anonest yn y gorffennol, deud celwydd ac ie, yn meddwl am ei hun, (sydd ironically yn symtoms clir o salwch anhwylderau bwyta), ond person yw e r'un fath a ni ar diwedd y dydd.

A peth arall, odi defnyddio termau fel 'cont' yn rhan o drafodaeth aeddfed ymysg oedolion cyfrifol? Iawn i anghytuno, bod yn galed mewn dadl etc etc - ond defnyddio termau fel hyn i ddisgrfio pobl? Dwi ddim yn meddwl.

Ond eniwe, digon am hyn nawr falle. Efallai y byddai yn syniad yn y dyfodol cael trafodaeth difrifol ar y maes am afiechydon anhwylderau bwyta
Rhithffurf defnyddiwr
Rhods
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1266
Ymunwyd: Gwe 06 Ion 2006 2:17 pm

Re: John Prescott

Postiogan Rhys Llwyd » Maw 22 Ebr 2008 11:18 am

Cytuno gyda Rhodri fan hyn, boed i chi feddwl fod Prescott yn dew neu beidio (oce mae e) nid oedd yr edefyn yma yn le i wneud joc am hynny. Maen afiechydon bwyta yn broblem fawr ac maen broblem sy'n effeithio Cymru yn fwy acute oherwydd y prinder o lefydd i drin y broblem yma yng Nghymru. Dwi'n cofio pan oeddw ni yn ysgol slawer dydd roedd rhaid i deulu cyfan adael Aberystwyth a symud i fyw i Birmingham er mwyn bod o fewn pellter rhesymol i ganolfan oedd yn medru trin a rhoi gofal i'w merch.

Anaddas tost oedd codi reiat ysgaf yn yr edefyn yma. Diolch am dynny sylw at hyn Rhods.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: John Prescott

Postiogan Darth Sgonsan » Maw 22 Ebr 2008 2:03 pm

Rhys Llwyd a ddywedodd:Anaddas tost oedd codi reiat ysgaf yn yr edefyn yma. Diolch am dynny sylw at hyn Rhods.


Jeezus Craaaaist, paid a chymryd dy hun o ddifri was...'Con Tew' ddywedws yn rhannol canys Cont Tew ydys John Prestatyn Presgott, ond hefyd oherwydd mai CON ydy'r bolycs bylimia yma. Mae o'n defnyddio anhwylder/salwch er mwyn enyn cydymdeimlad.

(ymddiheuriadau am fynd dros ben llestri, parch i bawb yn yr edefyn yma
Golygwyd diwethaf gan Darth Sgonsan ar Mer 23 Ebr 2008 8:37 am, golygwyd 1 waith i gyd.
He who makes a beast of himself gets rid of the pain of being a man
Darth Sgonsan
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 736
Ymunwyd: Llun 23 Mai 2005 9:43 am
Lleoliad: yn pesgi ar farwolaeth mamwlad dlawd

Re: John Prescott

Postiogan Mr Gasyth » Maw 22 Ebr 2008 4:29 pm

Mae o'n defnyddio anhwylder/salwch er mwyn enyn cydymdeimlad.


Ai dyme awyt ti'n feddwl ma pob bylimic yn neud?

Wir yr, ma rhai sylwade yn yr edefyn yma'n dangos ein bod ni dal i fod yn yr oes cerrig lle ma salychau meddwl yn y cwestiwn.

Tase fo wedi deud ei fod wedi bod yn diodde o gancr, fase neb wedi gneud hwyl ar ei ben o nac amau ei gymhellion, beth bynnag eu barn cyffredinol o'r dyn.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Re: John Prescott

Postiogan Darth Sgonsan » Mer 23 Ebr 2008 8:42 am

Mr Gasyth a ddywedodd:
Mae o'n defnyddio anhwylder/salwch er mwyn enyn cydymdeimlad.


Ai dyme awyt ti'n feddwl ma pob bylimic yn neud?
.


na. Ar wahan i bobol enwog efo llyfr i'w werthu dwi'm yn gweld llawar o neb yn gwneud sioe o'u salwch.
Nid pardduo bulimics fel pobol sydd ddim yn sal go-iawn ydw i, jesd lladd ar Presgot am ddefnyddio salwch difrifol fel arf i werthu llyfr
He who makes a beast of himself gets rid of the pain of being a man
Darth Sgonsan
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 736
Ymunwyd: Llun 23 Mai 2005 9:43 am
Lleoliad: yn pesgi ar farwolaeth mamwlad dlawd

Re: John Prescott

Postiogan krustysnaks » Mer 23 Ebr 2008 10:48 am

Tase Prescott eisiau tynnu sylw at ei lyfr, dwi'n siwr gallai wedi rhyddhau rhywbeth diddorol am Blair neu Brown neu dweud mwy am ei affêrs neu rywbeth. Dwi'n meddwl bod Prescott yn wirioneddol ddewr i gyfaddef ei fod yn bulimic. Ydych chi wedi ystyried pa mor anodd mae'n rhaid oedd gweld lluniau o'i hun yn bwyta a chlywed jôcs ynglŷn â bwyd drwy'r amser tra bod ganddo broblem wirioneddol ddifrifol gyda bwyta?
Rhithffurf defnyddiwr
krustysnaks
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2967
Ymunwyd: Mer 14 Ebr 2004 8:05 pm
Lleoliad: yng nghôl J M Keynes

Re: John Prescott

Postiogan Ray Diota » Mer 23 Ebr 2008 11:02 am

krustysnaks a ddywedodd:Tase Prescott eisiau tynnu sylw at ei lyfr, dwi'n siwr gallai wedi rhyddhau rhywbeth diddorol am Blair neu Brown neu dweud mwy am ei affêrs neu rywbeth. Dwi'n meddwl bod Prescott yn wirioneddol ddewr i gyfaddef ei fod yn bulimic. Ydych chi wedi ystyried pa mor anodd mae'n rhaid oedd gweld lluniau o'i hun yn bwyta a chlywed jôcs ynglŷn â bwyd drwy'r amser tra bod ganddo broblem wirioneddol ddifrifol gyda bwyta?


weeeel, galle fe ddim rili... h.y. bydde'r cynta'n niweidio'r llywodraeth a'r ail yn niweidio'i briodas...

Dwi ddim cweit yn deall pam odd rhaid celu hyn pan odd e'n weithredol fel gwleidydd...? s'dim cywilydd yn y peth nagoes? ma'n gymhariaeth od, dwi'n gwbod, :? ond pam odd rhaid i Blair aros tan ymddeol i droi'n gatholig...?

Ma'n dangos faint odd y jawled yn meddwl am ddelwedd...
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: John Prescott

Postiogan S.W. » Mer 23 Ebr 2008 11:13 am

Rhods a ddywedodd:Dwi yn derbyn nawr mai nid na yw y bwriad , ond mae defnyddio'r fath eiriau yn gallu cael ei weld fel ymosodiad - falle y byddai yn syniad gofyn i rhywun sydd wedi/yn diodde - gweld be ma nhw yn feddwl am disgrifio rhywun ar afiechyd anhwylder bwyta yn 'gont tew'? Gallai dy sicrhau fe fydde nhw yn gweld e yn offensif ac yn ymosodiad. Rhaid bod yn ofalus iawn fel ma pobl yn geirio pethe yn enwedig ar mater sensetif fel hyn. Galwch fi yn PC os chi ishe, ond jyst yn esbonio'r ffeithiau, na gyd.

O ran Precsott ei hun, dwi yn gallu gweld arf y ddadl bod e yn ceisio gwerthu llyfr, ond tasa'r brigad anti Prescott sydd yn gwbod bach iawn am y salwch, ond yn gweld y mymryn o realiti o'r dioddefaint erchylla a phoenus mae pobl ag anhwylderau bwyta yn dioddef, falle fe fydd yna bach mwy o gydymdeimlad tuag ato. Oce, falle bod e di bod yn anonest yn y gorffennol, deud celwydd ac ie, yn meddwl am ei hun, (sydd ironically yn symtoms clir o salwch anhwylderau bwyta), ond person yw e r'un fath a ni ar diwedd y dydd.

A peth arall, odi defnyddio termau fel 'cont' yn rhan o drafodaeth aeddfed ymysg oedolion cyfrifol? Iawn i anghytuno, bod yn galed mewn dadl etc etc - ond defnyddio termau fel hyn i ddisgrfio pobl? Dwi ddim yn meddwl.

Ond eniwe, digon am hyn nawr falle. Efallai y byddai yn syniad yn y dyfodol cael trafodaeth difrifol ar y maes am afiechydon anhwylderau bwyta


Ti'n iawn Rhods dydy Cont ddim yn ffordd aeddfed o drafod faint o gont ydy Prescott. Doedd o'm i fod yn aeddfed i fod yn onest. Ond eto, doedd neb yn beirniadu'r salwch nag pobl sy'n dioddef o'r salwch yma. Beirniadu Prescott oeddem ni.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Re: John Prescott

Postiogan Seonaidh/Sioni » Mer 23 Ebr 2008 9:00 pm

Bai Rhods am godi'r pwnc a bai sawl arall am gymryd y piss. Mae nifer o broblemau gan nifer o wleidyddion o bob plaid. Ar wahan i broblem ego enfawr, dydy'r problemau hynny ddim yn ymwneud a gwleidyddiaeth.
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: John Prescott

Postiogan Ray Diota » Iau 24 Ebr 2008 10:01 am

Seonaidh/Sioni a ddywedodd:Bai Rhods am godi'r pwnc a bai sawl arall am gymryd y piss. Mae nifer o broblemau gan nifer o wleidyddion o bob plaid. Ar wahan i broblem ego enfawr, dydy'r problemau hynny ddim yn ymwneud a gwleidyddiaeth.


nac ydyn? pam, felly, gollodd Charles Kennedy ei swydd fel arweinydd y Libs?
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 25 gwestai

cron