Darth Sgonsan a ddywedodd:SerenSiwenna a ddywedodd:Rhods a ddywedodd:Rhaid i mi ddweud, bo fi yn rili parch beth nath John Prescott ar y penwythnos -
Cytuno. Cyn iddo ddeud hyn i gyd roedd pawb yn meddwl fod e'n fyni gwneud 'fat gibes' amdanno...ond rwan mae'n bosib gweld faint mae hyn wedi effeithio arno fe, bod yn y 'public eye' ag ati. Mae e llawer iawn fwy anodd i ddynion cyfaddef problemau fel hyn - druan ohonno fe a gobeithio geith e yr help mae e angen.
trio gwerthu llyfr ma'r Con Tew, a dio'n haeddu'r un gronyn o gydymdeimlad. Yda chi wedi anghofio fod o'n Aflonyddwr Rhywiol Olympaidd, Brenin Y
Grope Tsiep? Gath Y Thico getawe efo snobyddiaeth wyrdroedig am flynyddoedd, a'r eising ar y gacan oedd y ffor' nath o drio gorseddu ei fab i'w olynu - gan ddangos dirmyg llwyr at ddemocratiaeth.
a gwyngalchiad powld fydd yr hunangofiant - photo mawr lliw o John a Pauline ar ddydd eu priodas, a dim son am Tresi Templ
os oedd o'n bylimic am ddeng mlynedd, sud ffac nath o aros mor dew?
Mae yn anffodus dy fo yn ymateb fel hyn. Gobitho bod ti yn teimlo yn hapus da dy hun am disgrifio person ar afiechyd erchyll yma yn 'con tew'.
Y cyngor sydd gen i i ti Darth Sgonsan, yw bod ti yn gwbod y ffeithiau am bwlimia, cyn siarad y fath nonsens.- mae'n amlwg o dy sylwadau nag wyt ti.
Roeddwn yn digwydd siarad da un o fy ffrinidau neithiwr sydd wedi dioddef or salwch yma. Fe ddywedodd i ei hunain bod hyn yn ddatblygiad pwysig yn y nod o ceisio helpu pobl sydd yn diodde o bwlimia ac anhwyldreau bwyta yn gyffredinnol. Mae bwlimia yn gweithio yn yr un ffordd ag alcoholiaeth. Addiction yw hi. Yn y r'un modd y mae'r alcoholig yn yfed er mwyn boddi ei deimladau/iselder ysbryd, mae'r bwlimic yn gor-bwyta, a taflu fyny, a ma hynny yn diwedd yn mynd mas o rheolaeth cyn troi yn addiction. Mae tystiolaeth wedi dangos yn glir fod y salwch yn genetic neu hefyd yn gallu bod yn adwaith i pethau anffodus ddigwyddodd i berson pam yn ifanc e.e.abiws rhywiol/ffisegol.
Mae yn amlwg bod gweithredoedd John Prescott yn y gorffennol yn symptom o'i salwch. Sgennai i ddim ots, fel ma rhai yn awgrymu ei bod yn dod mas a hyn er mwyn gwerthu ei lyfr. Y ffaith yw bod e di dod ar pwnc ar yr agenda ym Mhrydain,ac yn mynd i ddod a gobaith i filoedd ar filoedd o bobl sydd yn diodde'r afiechyd. A odi e yn edrych am gydymdeimlad a c empathi? Wel wrth gwrs ei fod e! Ar ol blynyddoedd o gael ei wawdio da'r wasg, mae Prescott hefyd yn ymateb i hyn, ac yn esbonio rhesymau am ei weithredoedd.
Falle bod e di neud camgymeriadau yn y gorffennol, ac ie, ar brydiau wedi bod yn anonest, ond hei, plis peidied neb defnyddio'i salwch fel ffordd o'i ymosod. Trwy neud hynny, ma person yn ymosod ar y miloedd ar filoedd sydd yn/wedi diodde'r afiechyd.
Ac am sylwadau diweddara Huw, wel , os mai dyna'r fath o gymdeithas da ni yn byw mewn, da ni yn byw mewn cymdeithas trist, creulon iawn.