John Prescott

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

John Prescott

Postiogan Rhods » Llun 21 Ebr 2008 9:53 am

Rhaid i mi ddweud, bo fi yn rili parch beth nath John Prescott ar y penwythnos - sef cyfadde bod e di diodde o bwlimia. Mae di bod yn dewr iawn i gyfadde beth nath e. Mae hyn yn mynd i ddod a gobaith dwi yn teimlo i filoedd ar filoedd o bobl sydd yn diodde or salwch meddyliol erchyll yma, i bidio bod yn embares am hyn, ac i fod yn agored a dod dros y salwch, yn lle'i chuddio a parhau i diodde.

Mae'n beth da pam bod gwleidyddion/selebs yn dod allan a'u problem yn y gobaith o helpu eraill. Mae David Coulthard, y raswr Fformiwla 1, wedi cyfadde bod e di diodde o bwlimia, a nawr John Prescott. Roeddwn yn gwrando ar Five Live bore ma , a be oedden nhw yn drafod? Bwlimia/Anhwylderau bwyta. Roedd nifer a oedd wedi diodde neu yn diodde'r salwch, yn ffonio mewn i drafod hyn. Oherwydd dewrder John Prescott, (am heddi oleia) mae bwlimia/anhwylderau bwyta yn cael ei drafod fel y pwnc rhif 1 ym Mhrydain yn y cyfryngau, ac hefyd ar tudalennau blaen y papurau newydd.

Dwi rioed wedi cytuno yn wleidyddol a John Prescott - ond hei, ma hynny ym amherthnasol pam ma fe yn dod i hyn. Dwi yn dymuno yn dda iddo i'r dyfodol a bod e yn parhau i wella o'r salwch.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhods
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1266
Ymunwyd: Gwe 06 Ion 2006 2:17 pm

Re: John Prescott

Postiogan huwwaters » Llun 21 Ebr 2008 12:05 pm

Dwi'n meddwl ei fod yn amnesic bulimic. Sef stwffio'i hun wedyn anghofio taflu fyny.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Re: John Prescott

Postiogan Mihangel Macintosh » Llun 21 Ebr 2008 12:16 pm

Dwi'n meddwl fod y sdori ma yn sic.
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Re: John Prescott

Postiogan SerenSiwenna » Llun 21 Ebr 2008 12:21 pm

Rhods a ddywedodd:Rhaid i mi ddweud, bo fi yn rili parch beth nath John Prescott ar y penwythnos - sef cyfadde bod e di diodde o bwlimia. Mae di bod yn dewr iawn i gyfadde beth nath e. Mae hyn yn mynd i ddod a gobaith dwi yn teimlo i filoedd ar filoedd o bobl sydd yn diodde or salwch meddyliol erchyll yma, i bidio bod yn embares am hyn, ac i fod yn agored a dod dros y salwch, yn lle'i chuddio a parhau i diodde.

Mae'n beth da pam bod gwleidyddion/selebs yn dod allan a'u problem yn y gobaith o helpu eraill. Mae David Coulthard, y raswr Fformiwla 1, wedi cyfadde bod e di diodde o bwlimia, a nawr John Prescott. Roeddwn yn gwrando ar Five Live bore ma , a be oedden nhw yn drafod? Bwlimia/Anhwylderau bwyta. Roedd nifer a oedd wedi diodde neu yn diodde'r salwch, yn ffonio mewn i drafod hyn. Oherwydd dewrder John Prescott, (am heddi oleia) mae bwlimia/anhwylderau bwyta yn cael ei drafod fel y pwnc rhif 1 ym Mhrydain yn y cyfryngau, ac hefyd ar tudalennau blaen y papurau newydd.

Dwi rioed wedi cytuno yn wleidyddol a John Prescott - ond hei, ma hynny ym amherthnasol pam ma fe yn dod i hyn. Dwi yn dymuno yn dda iddo i'r dyfodol a bod e yn parhau i wella o'r salwch.


Cytuno. Cyn iddo ddeud hyn i gyd roedd pawb yn meddwl fod e'n fyni gwneud 'fat gibes' amdanno...ond rwan mae'n bosib gweld faint mae hyn wedi effeithio arno fe, bod yn y 'public eye' ag ati. Mae e llawer iawn fwy anodd i ddynion cyfaddef problemau fel hyn - druan ohonno fe a gobeithio geith e yr help mae e angen.
Rhithffurf defnyddiwr
SerenSiwenna
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 602
Ymunwyd: Gwe 10 Chw 2006 2:58 pm
Lleoliad: Cilgwri

Re: John Prescott

Postiogan Darth Sgonsan » Llun 21 Ebr 2008 12:34 pm

SerenSiwenna a ddywedodd:
Rhods a ddywedodd:Rhaid i mi ddweud, bo fi yn rili parch beth nath John Prescott ar y penwythnos -

Cytuno. Cyn iddo ddeud hyn i gyd roedd pawb yn meddwl fod e'n fyni gwneud 'fat gibes' amdanno...ond rwan mae'n bosib gweld faint mae hyn wedi effeithio arno fe, bod yn y 'public eye' ag ati. Mae e llawer iawn fwy anodd i ddynion cyfaddef problemau fel hyn - druan ohonno fe a gobeithio geith e yr help mae e angen.


trio gwerthu llyfr ma'r Con Tew, a dio'n haeddu'r un gronyn o gydymdeimlad. Yda chi wedi anghofio fod o'n Aflonyddwr Rhywiol Olympaidd, Brenin Y Grope Tsiep? Gath Y Thico getawe efo snobyddiaeth wyrdroedig am flynyddoedd, a'r eising ar y gacan oedd y ffor' nath o drio gorseddu ei fab i'w olynu - gan ddangos dirmyg llwyr at ddemocratiaeth.
a gwyngalchiad powld fydd yr hunangofiant - photo mawr lliw o John a Pauline ar ddydd eu priodas, a dim son am Tresi Templ

os oedd o'n bylimic am ddeng mlynedd, sud ffac nath o aros mor dew?
He who makes a beast of himself gets rid of the pain of being a man
Darth Sgonsan
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 736
Ymunwyd: Llun 23 Mai 2005 9:43 am
Lleoliad: yn pesgi ar farwolaeth mamwlad dlawd

Re: John Prescott

Postiogan huwwaters » Llun 21 Ebr 2008 2:04 pm

"There is honour among thieves, but not among politicians."

Dwi'n meddwl ma gan pawb deud be bynnag ma nhw isio amdano, fat jibes, cydymdeimlo etc. Fo sy'n rhoi ei hun mewn swydd cyhoeddus, be ma pobol yn deud yw rhan o'r swydd.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Re: John Prescott

Postiogan Rhods » Llun 21 Ebr 2008 2:29 pm

Darth Sgonsan a ddywedodd:
SerenSiwenna a ddywedodd:
Rhods a ddywedodd:Rhaid i mi ddweud, bo fi yn rili parch beth nath John Prescott ar y penwythnos -

Cytuno. Cyn iddo ddeud hyn i gyd roedd pawb yn meddwl fod e'n fyni gwneud 'fat gibes' amdanno...ond rwan mae'n bosib gweld faint mae hyn wedi effeithio arno fe, bod yn y 'public eye' ag ati. Mae e llawer iawn fwy anodd i ddynion cyfaddef problemau fel hyn - druan ohonno fe a gobeithio geith e yr help mae e angen.


trio gwerthu llyfr ma'r Con Tew, a dio'n haeddu'r un gronyn o gydymdeimlad. Yda chi wedi anghofio fod o'n Aflonyddwr Rhywiol Olympaidd, Brenin Y Grope Tsiep? Gath Y Thico getawe efo snobyddiaeth wyrdroedig am flynyddoedd, a'r eising ar y gacan oedd y ffor' nath o drio gorseddu ei fab i'w olynu - gan ddangos dirmyg llwyr at ddemocratiaeth.
a gwyngalchiad powld fydd yr hunangofiant - photo mawr lliw o John a Pauline ar ddydd eu priodas, a dim son am Tresi Templ

os oedd o'n bylimic am ddeng mlynedd, sud ffac nath o aros mor dew?



Mae yn anffodus dy fo yn ymateb fel hyn. Gobitho bod ti yn teimlo yn hapus da dy hun am disgrifio person ar afiechyd erchyll yma yn 'con tew'.

Y cyngor sydd gen i i ti Darth Sgonsan, yw bod ti yn gwbod y ffeithiau am bwlimia, cyn siarad y fath nonsens.- mae'n amlwg o dy sylwadau nag wyt ti.

Roeddwn yn digwydd siarad da un o fy ffrinidau neithiwr sydd wedi dioddef or salwch yma. Fe ddywedodd i ei hunain bod hyn yn ddatblygiad pwysig yn y nod o ceisio helpu pobl sydd yn diodde o bwlimia ac anhwyldreau bwyta yn gyffredinnol. Mae bwlimia yn gweithio yn yr un ffordd ag alcoholiaeth. Addiction yw hi. Yn y r'un modd y mae'r alcoholig yn yfed er mwyn boddi ei deimladau/iselder ysbryd, mae'r bwlimic yn gor-bwyta, a taflu fyny, a ma hynny yn diwedd yn mynd mas o rheolaeth cyn troi yn addiction. Mae tystiolaeth wedi dangos yn glir fod y salwch yn genetic neu hefyd yn gallu bod yn adwaith i pethau anffodus ddigwyddodd i berson pam yn ifanc e.e.abiws rhywiol/ffisegol.

Mae yn amlwg bod gweithredoedd John Prescott yn y gorffennol yn symptom o'i salwch. Sgennai i ddim ots, fel ma rhai yn awgrymu ei bod yn dod mas a hyn er mwyn gwerthu ei lyfr. Y ffaith yw bod e di dod ar pwnc ar yr agenda ym Mhrydain,ac yn mynd i ddod a gobaith i filoedd ar filoedd o bobl sydd yn diodde'r afiechyd. A odi e yn edrych am gydymdeimlad a c empathi? Wel wrth gwrs ei fod e! Ar ol blynyddoedd o gael ei wawdio da'r wasg, mae Prescott hefyd yn ymateb i hyn, ac yn esbonio rhesymau am ei weithredoedd.

Falle bod e di neud camgymeriadau yn y gorffennol, ac ie, ar brydiau wedi bod yn anonest, ond hei, plis peidied neb defnyddio'i salwch fel ffordd o'i ymosod. Trwy neud hynny, ma person yn ymosod ar y miloedd ar filoedd sydd yn/wedi diodde'r afiechyd.

Ac am sylwadau diweddara Huw, wel , os mai dyna'r fath o gymdeithas da ni yn byw mewn, da ni yn byw mewn cymdeithas trist, creulon iawn.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhods
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1266
Ymunwyd: Gwe 06 Ion 2006 2:17 pm

Re: John Prescott

Postiogan S.W. » Llun 21 Ebr 2008 2:41 pm

Siawns bod y boi yn Gont Tew er gwaetha'i salwch honedig Rhods?

Cytuno nad yw'n salwch i gymryd y piss allan ohono ond os dio'n gont (ffaith) ac yn dew (ffaith) be ydy o?
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Re: John Prescott

Postiogan Rhods » Llun 21 Ebr 2008 2:50 pm

Pathetig
Rhithffurf defnyddiwr
Rhods
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1266
Ymunwyd: Gwe 06 Ion 2006 2:17 pm

Re: John Prescott

Postiogan huwwaters » Llun 21 Ebr 2008 2:53 pm

Rhods a ddywedodd:Ac am sylwadau diweddara Huw, wel , os mai dyna'r fath o gymdeithas da ni yn byw mewn, da ni yn byw mewn cymdeithas trist, creulon iawn.


Ma bywyd wedi bod yn galed ers y cychwyn. Tydio ddim am newid rwan.

Yr oedd George Bush arfer a bod yn alcoholic, ond y ffaith yr oedd ganddo'r 'salwch' ma ddim yn golygu rhaid i bobol meddwl dwywaith cyn galw fo'n rwbeth dan yr haul.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Nesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 16 gwestai