Tudalen 1 o 1

Stori Bach i Ddydd Sant Siors

PostioPostiwyd: Mer 23 Ebr 2008 10:47 pm
gan mabon-gwent
Ro'n i mewn gwers heddiw, ac roedd yr athro ar y cyfrifiadur.
Gwelodd e'r peth gwgl am Sant Siors, a dywedodd e:

"O yeah, its Saint George's day today"

Dywedodd bachgen,

"St. George killed the Welsh Dragon didn't he sir"

Atebodd

"No, for three reasons:

1. St George came form Armenia, which is in the middle of nowhere
2. Dragons don't exist
3. All Englishmen are pillocks"

Gofynodd y bachgen (sy'n saison)

"How do you say that in Welsh sir?"

Doedd e ddm yn gallu ateb. Ro'n i'n mor falch clywed "how do you say that in welsh".

Unrhyw profiadau eraill yn dangos cybôl ffig-genedlgarwch?

Re: Stori Bach i Ddydd Sant Siors

PostioPostiwyd: Iau 24 Ebr 2008 8:51 pm
gan Seonaidh/Sioni
Annheg iawn! Dydy Armenia ddim ynghanol nunlle - mae gen i ewythr a'i dad o wedi dod o Armenia. Hefyd, rydw i wedi gweld dreigiau ar y tele, sef "Draig Komodo". Ac, rhaid cyfaddef, mae na rai Saeson sy ddim yn billocks. Ond ymddengys fod yr athro 'na yn dipyn o billock - heb hyd yn oed fod yn Sais.

Re: Stori Bach i Ddydd Sant Siors

PostioPostiwyd: Sul 27 Ebr 2008 7:13 pm
gan rooney
yw dreigiau wedi bodoli?

Re: Stori Bach i Ddydd Sant Siors

PostioPostiwyd: Sul 27 Ebr 2008 7:46 pm
gan mabon-gwent
Seonaidh/Sioni a ddywedodd:Ond ymddengys fod yr athro 'na yn dipyn o billock - heb hyd yn oed fod yn Sais.


Mae e'n iawn rili, ond set in his ways. Ar ddiwedd y dydd pwy sy ddim?

rooney a ddywedodd:yw dreigiau wedi bodoli?


Mae'n dibynnu, draig y faner, nac ydy; Komodo, Margaret Thatcher, ydy.

Re: Stori Bach i Ddydd Sant Siors

PostioPostiwyd: Llun 28 Ebr 2008 10:44 am
gan Cwlcymro
rooney a ddywedodd:yw dreigiau wedi bodoli?


Do, yn ol y beibl.