Tudalen 3 o 3

Re: Dim hawliau i ddwy chwaer

PostioPostiwyd: Gwe 02 Mai 2008 12:21 am
gan rooney
dim eglurhad? pam fod dwy chwaer ddim yn deilwng o'r "hawliau" chi mor awyddus i'w rhoi i bobl hoyw?

Re: Dim hawliau i ddwy chwaer

PostioPostiwyd: Gwe 02 Mai 2008 12:33 am
gan rooney
Mr Gasyth a ddywedodd:Hefyd, hwn oedd cyfiawnder Prydain hefyd, neu fasen nhw ddim wedi mynd i Ewrop yn y lle cynta


methu dweud os mae joc, neu naif yw'r neges yma
nid yw pobl Prydain ERIOED wedi cael cyfle i bleidleisio am ein perthynas gyda'r Ewropeaid ers yr 1970au
miliynau o Brydeinwyr dal ddim yn deall pam fod ni'n cael ein rhedeg o Frwsel pan mae dim ond cytundeb busnes sydd angen
a gwarth i dy blaid smalio fod nhw o blaid Cymru annibynol pan nhw ddim

Re: Dim hawliau i ddwy chwaer

PostioPostiwyd: Gwe 02 Mai 2008 8:04 am
gan ceribethlem
Prysor a ddywedodd:hei, ceri, mae'r sambuccas 'ma'n lyfli :D

Fi 'di llosgi top ngheg :lol:

Re: Dim hawliau i ddwy chwaer

PostioPostiwyd: Sad 03 Mai 2008 6:01 pm
gan Rhods
Tydw i ddim wedi edrych ar achos y ddwy chwaer, felly gallai ddim neud sylw ar hynny. Ond hoffwn wybod, ble ma Rooney yn dod o, pam y mae yn son am hawliau i bartneriaid hoyw?

Dwi yn falch iawn ein bod yn byw mewn cymdeithas heddi ble y mae yna hawliau cyfreithiol cyfartal i gyplau hoyw.

Mae homoffobia dal yn treiddio yn ein cymdeithas yn anffodus, ond rhaid brwydro yn erbyn hyn a sicrhau bod ffieidd-dra homoffobia yn cael ei stampio mas o'n cymdeithas ni unwaith ac am byth.

Re: Dim hawliau i ddwy chwaer

PostioPostiwyd: Sad 03 Mai 2008 6:11 pm
gan Blewyn
murray hewitt a ddywedodd:Dwin meddwl mai inheritance tax yw un o'r trethi tecach sydd yn bodoli, oce mae i weld braidd anheg yn yr achos yma ond yn gyffredinol maen dreth teg iawn ac siomiant oedd clwad bod llafur yn dwyn polisi'r toriaid ac yn codi'r threshold lle mae pobl yn gorfod talu'r treth. Dyma un o'r ffyrdd gorau o "re-distibution" rhwng bobl gyfoethog a phobl tlawd.

Tybed be sa'n digwydd petaet yn tynnu'r arian o'r banc wythnos cyn marw a llosgi'r lot ?

Re: Dim hawliau i ddwy chwaer

PostioPostiwyd: Sad 03 Mai 2008 6:13 pm
gan murray hewitt
Blewyn a ddywedodd:
murray hewitt a ddywedodd:Dwin meddwl mai inheritance tax yw un o'r trethi tecach sydd yn bodoli, oce mae i weld braidd anheg yn yr achos yma ond yn gyffredinol maen dreth teg iawn ac siomiant oedd clwad bod llafur yn dwyn polisi'r toriaid ac yn codi'r threshold lle mae pobl yn gorfod talu'r treth. Dyma un o'r ffyrdd gorau o "re-distibution" rhwng bobl gyfoethog a phobl tlawd.

Tybed be sa'n digwydd petaet yn tynnu'r arian o'r banc wythnos cyn marw a llosgi'r lot ?


Ta ta i'r arian dwin cymyd, be di dy bwynt di?

Re: Dim hawliau i ddwy chwaer

PostioPostiwyd: Sul 13 Gor 2008 8:39 pm
gan Blewyn
Dwi'm yn cofio, r'on i'n chwil. :wps: