Tudalen 1 o 1

Dileu Cynulliad Llunden

PostioPostiwyd: Sad 03 Mai 2008 2:58 pm
gan Cardi Bach
Pan fo etholiadau Cynulliad Cymru yn cael eu cynnal, drosodd a thro, yn ddi-ffail, ceir galwadau i ddiddymu y Cynulliad oherwydd fod 'turn-out' yn isel, ac mae'r cyfryngau yn fwy na pharod i gyfeirio at 'low turn-out', neu nifer 'siomedig', ac ambell i waith yn rhoi amser i'r Brits yma sydd am weld Cymru yn rhan o Loegr.

Ond, gyda turn-out o 45% mae'r holl gyfryngau yn dweud fod 'turn-out' yn uchel iawn! A does yna ddim galw am ddiddymu cynluuiad Llunden, a cyhuddiad ei fod yn haen arall o firocratiaeth!

:rolio:

Re: Dileu Cynulliad Llunden

PostioPostiwyd: Sad 03 Mai 2008 3:11 pm
gan Macsen
Ond yn Llundain mae'r holl newyddiadurwyr yn byw, felly mae'n fwy pwysig.

Re: Dileu Llundain

PostioPostiwyd: Sad 03 Mai 2008 4:20 pm
gan Seonaidh/Sioni
Low turn out? Dim digon yn pleidleisio? Mae dewis - fotio neu beidio - dyna ddemocratiaeth. Ymddengys fod 55% o Lundeinwyr wedi penderfynu am beidio, felly dyna fuddugoliaeth i'r anarchiaid, swn i'n credu. Fel dywedodd Ken Livingstone ei hun ar un adeg (os cofia' i'n iawn), "If voting ever changed anything they'd make it illegal". Hefyd, fel mae'r anarchiaid yn dweud, "Whoever you vote for, the government always gets in". Swn i'n hoffi gweld sustem lle na lenwir seddau oni bai am dros 50% o'r etholwyr yn pleidleisio.

Yn y cynulliadau, ie, gwell eu dileu - a chael seneddau yn eu lle, fel sy gennym ni yn yr Alban, fel sy gan Brydain yn Sain Steffan, fel sy gan Ewrop ym Mrwsel. Hefyd, dw i ddim yn credu mewn maer wedi'w ethol: i mi, mae'r maer yn debyg i'r Cwin, hy lot o pomp & circumstance ond heb bwer. Le na cheir etholiad am y maer, mae'r maer yn cael ei ddethol o blith y cyngoryddion - ac maen nhw'n dewis y cynghorydd sy wedi bod yn gynghorydd am hwy na neb arall ac sy heb wedi bod yn faer. Mae'r swydd yn un ceremonial, a dyna be ddylai hi fod.

Re: Dileu Cynulliad Llunden

PostioPostiwyd: Sad 03 Mai 2008 4:50 pm
gan krustysnaks
Gweler y llun yma o dudalen flaen y BBC - Mayor, Assembly, Councils.

Cynulliad Llundain yn dod o flaen cynghorau gweddill Prydain i gyd!

Re: Dileu Cynulliad Llunden

PostioPostiwyd: Sad 03 Mai 2008 5:03 pm
gan Macsen
Ond cofiwch bod Llundain yn le eitha mawr - tair gwaith maint poblogaeth Cymru a 1/6 poblogaeth Lloegr. Ac tra bod sut gwnaeth Joe Bloggs ar gyngor tref Cwm Sgwt o ddiddordeb i'w etholaeth, roedd pwy fyddai maer Llundain o ddiddordeb i'r rhan fwyaf o bobol.

Re: Dileu Cynulliad Llunden

PostioPostiwyd: Sad 03 Mai 2008 5:10 pm
gan Rhods
Dwi yn meddwl bod y Cardi yn dweud rhai pwyntiau teg..

Do, mi wnath 1/2 miliwn fwy o bobl pleidlesio yn etholiadau'r maer yn Llundain na'r tro diwetha , sydd yn gam ymlaen o ran democratiaeth , dyna beth oedd y cyfryngau yn pwysleisio arni. Ond pam, fel mae'r Cardi yn dweud, bod y cyfryngau yn edrych ar yr ochr negyddol pam yn edrych ar turn out etholidau ein cynulliad ni? Mae'n gwestiwn teg

O ran canlyniad yr etholiad tho - ffantastig! Da iawn Boris Johnson !!!!!!!