gan Seonaidh/Sioni » Sad 03 Mai 2008 4:20 pm
Low turn out? Dim digon yn pleidleisio? Mae dewis - fotio neu beidio - dyna ddemocratiaeth. Ymddengys fod 55% o Lundeinwyr wedi penderfynu am beidio, felly dyna fuddugoliaeth i'r anarchiaid, swn i'n credu. Fel dywedodd Ken Livingstone ei hun ar un adeg (os cofia' i'n iawn), "If voting ever changed anything they'd make it illegal". Hefyd, fel mae'r anarchiaid yn dweud, "Whoever you vote for, the government always gets in". Swn i'n hoffi gweld sustem lle na lenwir seddau oni bai am dros 50% o'r etholwyr yn pleidleisio.
Yn y cynulliadau, ie, gwell eu dileu - a chael seneddau yn eu lle, fel sy gennym ni yn yr Alban, fel sy gan Brydain yn Sain Steffan, fel sy gan Ewrop ym Mrwsel. Hefyd, dw i ddim yn credu mewn maer wedi'w ethol: i mi, mae'r maer yn debyg i'r Cwin, hy lot o pomp & circumstance ond heb bwer. Le na cheir etholiad am y maer, mae'r maer yn cael ei ddethol o blith y cyngoryddion - ac maen nhw'n dewis y cynghorydd sy wedi bod yn gynghorydd am hwy na neb arall ac sy heb wedi bod yn faer. Mae'r swydd yn un ceremonial, a dyna be ddylai hi fod.
A bheil thu gam aithneachadh?