Nol yn mis Hydref, pam odd pawb yn darogan etholiad cyffredinol, cyn i Gordon Brown chickeno allan i alw un, roedd pawb bron yn meddwl mai Llafur fydd yn ennill - i fod yn onest, roeddwn ni yn ofni ni hefyd. Ond ar ol etholiadau yr wythnos diwetha, dwi am y tro cynta yn teimlo bod y mwd yn newid a bod Prydain yn barod i rhoi cyfle unwaith eto ir Ceidwadwyr llywodraethu.
Dwi yn deall y ddadl bod etholiadau lleol yn gwbl wahanol i etholiad cyffredinol, ond dwi yn meddwl gwnaeth Llafur mor wael, gyda pleidlais o 24% (3ydd tu ol ir Rhyddfrydwyr) ar Toris ar 44% ei fod e yn mynd i arwain at fuddugoliaeth i Cameron and co. Rhaid cofio, gwnath John Major yn hyd yn oed yn well na Gordon Brown yn etholiadau llywodraeth lleol yn 95, gyda 25% a da ni gyd yn gwbod y canlyniad yn 97. Dim jyst ni, ma pethe yn mynd i waethygu heb os, dros y 12 mis nesa, gyda stad yr economi etc. Mae'r dyddiau diwetha di bod yn enfawr ir Ceidwadwyr ac roedd Boris Johnson yn ennill yr etholiad yn Llundain yn hwb enfawr iddynt ac yn ergyd seicolegol fawr i Brown and co.
Sgennai ddim crystal ball, ond rydw i yn hyderus iawn yn teimlo bod y Ceidadwyr yn mynd i ennill, heb os.
Os ma Brown yn aros, it s a cert. Os gwnaiff Llafur ei sacio a rhoi rhywun fel Milliband mewn, bydd da nhw gwell siawns, ond ydyn nhw rili yn mynd i neud na? I doubt it.
Mae'n ddyddiau hapus i Ceidwadwyr Cameron,