Diddorol Macsen, ond dwi yn amau yn fawr iawn bydde'r Albanwyr ishe annibyniaeth jyst achos bydde'r Ceidwadwyr mewn pwer yn San Steffan. Mae bod yn annibynol yn dipyn o naid a her, a ma fe yn 'big thing'. Dwi ddim yn meddwl byddair Albanwyr mor naif a hynny..Os mae Alban am fynd yn annibynol byddwn yn neud e am y rhesymau cywir (innau mae dyn yn cytuno da ai rhesymau ai pido)..dim jyst achos bod y Ceidwadwyr mewn pwer yn San Steffan..
Rhods a ddywedodd:dwi yn amau yn fawr iawn bydde'r Albanwyr ishe annibyniaeth jyst achos bydde'r Ceidwadwyr mewn pwer yn San Steffan
Na, ond gyda pethau'n reit agos yno fe allai'r peth lleiaf ei gwthio hi naill ffordd neu'r llall. Ac afresymol ai peidio dyw pobol yr Alban ddim yn hoffi'r Toriaid - mewn etholiad ar annibyniaeth fe allai eu gweld nhw'n San Steffan fod yn the straw that broke the camel's back, ys dywed y sais.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
ta waith- mae'r ffordd mae Gordon Brown yn bwrw lawr ymdrechion Wendy Alexander yn symbolaidd iawn o sut mae Llundain yn cadw lawr yr Alban a Cymru. sylwch fy mod i ddim yn dweud 'Lloegr'- oherwydd y tro yma Sgot sy'n gormesu wlad ei hun. os petai cymro yn cyrraedd uchder gordon fyddwn i ddim yn synnu i weld e'n wneud rhywbeth tebyg- fel Neil Kinnock a oedd yn gwrth-datganoli (devolution)
Dwi'm yn meddwl bod o'n deg portreadu pob ymgyrch i gadw'r undeb ynghyd fel 'cadw'r Cymry a'r Albanwyr na yn eu lle dan fawd Llundain'. Mae rhai pobol eisiau cadw'r undeb ynghyd am eu bod nhw o ddifri'n credu mai dyna fyddai orau i Gymru a'r Alban. Cysyniad newydd i rai ar y Maes ond dyna ni...
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!