Llafur yn cefnogi refferendwm ar Annibyniaeth i'r Alban

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Llafur yn cefnogi refferendwm ar Annibyniaeth i'r Alban

Postiogan Hogyn o Rachub » Maw 06 Mai 2008 8:19 am

Y broblem, efallai, ydi bod yr UE yn gofyn i drothwy o 55% gael ei fodloni i sefydlu gwladwriaethau newydd (neu'n ei argymell, i fod yn fanylach - dyma gafwyd ym Montenegro). Er nad oes rheidrwydd ar y llywodraeth yn yr Alban i wneud hyn, mae cael dros 55% yn hytrach na 50% yn eithaf her.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Llafur yn cefnogi refferendwm ar Annibyniaeth i'r Alban

Postiogan Macsen » Maw 06 Mai 2008 8:21 am

Rhods a ddywedodd:Os maent yn colli, humiliation llwyr -be bydde nhw wedyn yn gwneud tasa Alban yn gwrthod holl pwrpas eu bodolaeth?

Hmm, dim cweit, Rhods. Plaid wleidyddol ydi'r SNP nid grwp lobio un issue, ac mae eu blwyddynt gyntaf wedi bod yn llwyddiant er gwaetha'r ffaith nad ydi nhw'n annibynol. Hyd yn oed pe bai'r Alban ddim o blaid annibyniaeth dwi'n siwr y byddai gan yr SNP lot i'w gyfrannu. :gwyrdd:
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: Llafur yn cefnogi refferendwm ar Annibyniaeth i'r Alban

Postiogan Rhods » Maw 06 Mai 2008 8:52 am

Point taken. Falle ti yn iawn Macsen - fe fydde yn yffarn o ergyd drwm iddynt os nad ydynt yn ennill, ond fel ti yn dweud, fe fydd dal da nhw cyfraniad pwysig i wleidyddiaeth Alban....
Rhithffurf defnyddiwr
Rhods
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1266
Ymunwyd: Gwe 06 Ion 2006 2:17 pm

Re: Llafur yn cefnogi refferendwm ar Annibyniaeth i'r Alban

Postiogan Macsen » Maw 06 Mai 2008 9:21 am

Dwi'm yn siwr a fyddai fo'n ergyd drwm, ti'n gweld. Ychydig flynyddoedd yn ol doedd annibyniaeth ddim hyd yn oed yn cael ei ystyried, a nawr mae nhw wedi cyraedd pwynt lle fydden nhw'n cynnal refferendwm. Ond mae'r mater ar y bwrdd nawr a does dim modd ei anwybyddu. Hyd yn oed pe bai nhw'n colli, faint fyddai yna tan y refferendwm nesaf? Deg mlynedd, ugain ar y mwyaf? Amser byr iawn mewn hanes cenedl.

Y pwynt ydi, mae annibyniaeth i'r Alban yn edrych fel mater o amser yn fwy an dim. Ac wedi 300 mlynedd, dwi'n meddwl bod y cenedlaetholwyr wedi dysgu amynedd.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: Llafur yn cefnogi refferendwm ar Annibyniaeth i'r Alban

Postiogan Ray Diota » Maw 06 Mai 2008 9:45 am

Macsen a ddywedodd:Dwi'm yn siwr a fyddai fo'n ergyd drwm, ti'n gweld. Ychydig flynyddoedd yn ol doedd annibyniaeth ddim hyd yn oed yn cael ei ystyried, a nawr mae nhw wedi cyraedd pwynt lle fydden nhw'n cynnal refferendwm. Ond mae'r mater ar y bwrdd nawr a does dim modd ei anwybyddu. Hyd yn oed pe bai nhw'n colli, faint fyddai yna tan y refferendwm nesaf? Deg mlynedd, ugain ar y mwyaf? Amser byr iawn mewn hanes cenedl.

Y pwynt ydi, mae annibyniaeth i'r Alban yn edrych fel mater o amser yn fwy an dim. Ac wedi 300 mlynedd, dwi'n meddwl bod y cenedlaetholwyr wedi dysgu amynedd.


amen. mae gorfodi'r blaid lafur i mewn i gornel ar fater y refferendwm yn fuddugoliaeth yn ei hun. dim ond crasfa go iawn fyddai'n ganlyniad gwael i'r SNP... a dwi'm yn gweld hynna'n digwydd...

Meddyliwch, erbyn adeg cynnal y refferendwm, bydd 'da ni Old Etonian naill ai'n Brif Weinidog ar Brydain, neu'n debygol iawn o fod yn Brif Weinidog, a bydd perthnasedd ei lywodraeth i'r Alban yn nesa' peth i ddim...

Dwi'm am ddweud y bydd y refferendwm yn dweud 'ie' i annibyniaeth ar y cynnig cynta ond bydd y canlyniad yn ddigon agos i gadw'r mater yn fyw ac ym meddyliau'r bobl am y blynyddoedd sy'n dilyn...
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: Llafur yn cefnogi refferendwm ar Annibyniaeth i'r Alban

Postiogan Rhods » Maw 06 Mai 2008 9:46 am

Macsen a ddywedodd: Hyd yn oed pe bai nhw'n colli, faint fyddai yna tan y refferendwm nesaf? Deg mlynedd, ugain ar y mwyaf?


Dwi ddim yn gwbod. Y peth pwysig yw fe fydd e fyny i'r bobl - yr outcome tecach a fwya cyfiawn gellir gael.
Cawn wel pwy fydd yn ennill y ddadl yng nghanlyniad y refferendwm.

Ma Llafur yn dechrau cynhesu ir syniad o gael refferendwm, ai mater o amser fydd e , tan i Ceidwadwyr a Rhyddfrydwyr Alban i gefnogi'r alw am refferendwm?

Game on wedyn....
Rhithffurf defnyddiwr
Rhods
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1266
Ymunwyd: Gwe 06 Ion 2006 2:17 pm

Re: Llafur yn cefnogi refferendwm ar Annibyniaeth i'r Alban

Postiogan ceribethlem » Maw 06 Mai 2008 2:16 pm

Rhods a ddywedodd:
Macsen a ddywedodd: Hyd yn oed pe bai nhw'n colli, faint fyddai yna tan y refferendwm nesaf? Deg mlynedd, ugain ar y mwyaf?


Dwi ddim yn gwbod. Y peth pwysig yw fe fydd e fyny i'r bobl - yr outcome tecach a fwya cyfiawn gellir gael.
Cawn wel pwy fydd yn ennill y ddadl yng nghanlyniad y refferendwm.

Ma Llafur yn dechrau cynhesu ir syniad o gael refferendwm, ai mater o amser fydd e , tan i Ceidwadwyr a Rhyddfrydwyr Alban i gefnogi'r alw am refferendwm?

Game on wedyn....
Neu a yw Llafur yn cynhesu at y syniad o refferendwm er mwyn pellhau eu hunain o'r Ceidwadwyr? Mae'r Rhyddfrydwyr yn newid eu meddwl fel y gwynt, felly sdim dal beth newn nhw ei gredu.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Llafur yn cefnogi refferendwm ar Annibyniaeth i'r Alban

Postiogan aled g job » Maw 06 Mai 2008 2:58 pm

Mae tro pedol Wendy Alexander yn arwydd go glir o sut mae'r gwynt yn chwythu o ran dyfodol y Blaid Lafur Brydeinig o dan Gordon Brown. Hynny ydi, mae Llafur yr Alban wedi gweld mai'r hyn sy'n wynebu'r Alban yn 2010 yw Llywodraeth Geidwadol o dan David Cameron ac y bydd apel yr SNP am annibyniaeth gymaint cryfach oherwydd hynny. Mae Wendy Alexander a'i dilynwyr felly wedi penderfynu bod rhaid cyflwyno trydydd opsiwn i'r Albanwyr cyn hynny , sef y llwybr canol rhwng y ddau begwn uchod. Mae'n swnio'n symudiad digon clyfar ar un ystyr ond mae'n amheus iawn gen i os y bydd hi'n llwyddo.
Dwi ddim yn meddwl bod modd i Lafur yr Alban ymddihatru eu hunain rhag y dynged anorfod sy'n wynebu Gordon Brown, (yn enwedig o gofio mai Albanwyr yn cynrychioli seddau Albanaidd ydi'r ddau wleidydd yn y swyddi pwysicaf yn y llywodraeth) a'r narratif amlycaf o ddigon dros y 24 mis nesaf yn yr Alban fydd clafychiad llafurus a phoenus y Blaid Lafur ynghyd a checru a thantro mewnol wrth i'w helodau seneddol weld y creigiau o'u blaen.Dwi ddim yn meddwl y bydd Plaid Lafur yr Alban yn gallu cyflwyno stori arall i ddadwneud y niwed a ddaw wrth i'r stori gyntaf ddatblygu a chyflymu.
Ac yn wir, y perig mawr i Blaid Lafur yr Alban wrth geisio cychwyn trafodaeth am annibyniaeth yn gynt yn hytrach nag hwyrach ydi eu bod nhw yn rhoi mwy o hwb i achos annibyniaeth ac yn cadarnhau'r prosiect mwy na heb! A gyda stoc Gordon Brown ei hun wedi cyrraedd y gwaelod, mi fyddai'n stand-off syml rhwng Alex Salmon a Wendy Alexander yn y bon a dwi'n eithaf siwr pwy enillith y ddadl syniadol yn fanno!
Dydi hynny ddim i ddweud i sicrwydd y byddai'r Alban yn pleidleisio dros annibyniaeth, ond iesgob annwyl, allai'r amgylchiadau presennol ddim bod yn fwy ffafriol i'r SNP. Dwi jest yn gobeithio y cawn ninnau gyfle i wyntyllu'r pwnc yma yng Nghymru hefyd yn sgil datblygiadau yn yr Alban!
Aled G Job
aled g job
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 102
Ymunwyd: Llun 26 Medi 2005 8:33 am

Re: Llafur yn cefnogi refferendwm ar Annibyniaeth i'r Alban

Postiogan Rhods » Maw 06 Mai 2008 4:59 pm

aled g job a ddywedodd:Dydi hynny ddim i ddweud i sicrwydd y byddai'r Alban yn pleidleisio dros annibyniaeth, ond iesgob annwyl, allai'r amgylchiadau presennol ddim bod yn fwy ffafriol i'r SNP. Dwi jest yn gobeithio y cawn ninnau gyfle i wyntyllu'r pwnc yma yng Nghymru hefyd yn sgil datblygiadau yn yr Alban!


Dwi yn cytuno bod yr initative da'r SNP ar y foment, a ma nhw yn mynd trwy rhyw fath o honeymoon period (diolch yn rhannol i'r barnett formilwla le ma nhw di cael deal gwych a trethdalwyr Lloegr yn talu am y freebies neis ma nhw di gael - prescriptions am ddim, ffis myfrwyr yn cael ei talu, gofal catre am ddim etc etc :winc: )...Falle bod y pleidiau Prydeinig yn ofni canlyniad refferendwm ac yn ofni crfyder yr SNP - ond os ma nhw yn dweud yn cyhoeddus bod nhw yn meddwl bydde pobl Alban yn gwrthod annibyniaeth, pam felly ofni refferendwm? :rolio:

Ar dy bwynt ola, be wyt ti yn awgrymu - refferndwm ar annibyniaeth yng Nghymru?! Sori i ddweud hyn, ond tasa na un, fyddai yn 'na' syfrdannol tybiwn i - 75/80% yn dweud 'Na' - byddai hynny yn politcal suicide ir pro-annibynol lobi yng Nghymru. ond os am glywed llais y bobl, ffer enyff, ond tybiwn i na fyddai'r ymateb yn neis iawn..... :rolio:
Rhithffurf defnyddiwr
Rhods
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1266
Ymunwyd: Gwe 06 Ion 2006 2:17 pm

Re: Llafur yn cefnogi refferendwm ar Annibyniaeth i'r Alban

Postiogan Macsen » Maw 06 Mai 2008 5:03 pm

Mae Wendy eisiau refferendwm cyn 2010 achos ei fod o'n edrych yn debygol y bydd y Toriaid yn mynd i mewn i lywodraeth yn San Steffan bryd hynny. Mae'r Alban yn fwy tebygol i bledleisio dros annibyniaeth gyda'r Toriaid yn San Steffan na gyda Llafur yn San Steffan - ac os yw yr Alban yn mynd yn annibynol sut yn union mae Llafur am ennill San Steffan yn ol?

Dyma'r ddau bosibilrwydd:

2010 - Etholiad cyffredinol: Toriaid yn ennill pwer yn San Steffan
2010 - SNP yn cynnal refferendwm ar yr un dyddiad neu ychydig fisoedd wedyn. Well gan yr Alban annibyniaeth na'r Toriaid.
3010 - Y Toriaid dal mewn pwer achos sdim lot o siap ar Lafur yn Lloegr.

neu

2009 - Llafur wedi gwthio am refferendwm ar annibyniaeth. Llafur dal mewn pwer yn San Steffan, dim gymaint o awydd gan y bobol am annibyniaeth.
2010 - Etholiad cyffredinol: Y Toriaid yn dod i mewn i bwer. Methiant yr SNP a'r awydd i gadw'r Toriaid mas yn arwain at swing i Lafur.
2024 - Llafur yn dod yn ol mewn i bwer yn San Steffan diolch yn rhannol i bledleisiau'r Alban, sydd dal yn rhan o Brydain.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron