Cymedrolwr: Mr Gasyth
Rhods a ddywedodd:Os maent yn colli, humiliation llwyr -be bydde nhw wedyn yn gwneud tasa Alban yn gwrthod holl pwrpas eu bodolaeth?
Macsen a ddywedodd:Dwi'm yn siwr a fyddai fo'n ergyd drwm, ti'n gweld. Ychydig flynyddoedd yn ol doedd annibyniaeth ddim hyd yn oed yn cael ei ystyried, a nawr mae nhw wedi cyraedd pwynt lle fydden nhw'n cynnal refferendwm. Ond mae'r mater ar y bwrdd nawr a does dim modd ei anwybyddu. Hyd yn oed pe bai nhw'n colli, faint fyddai yna tan y refferendwm nesaf? Deg mlynedd, ugain ar y mwyaf? Amser byr iawn mewn hanes cenedl.
Y pwynt ydi, mae annibyniaeth i'r Alban yn edrych fel mater o amser yn fwy an dim. Ac wedi 300 mlynedd, dwi'n meddwl bod y cenedlaetholwyr wedi dysgu amynedd.
Macsen a ddywedodd: Hyd yn oed pe bai nhw'n colli, faint fyddai yna tan y refferendwm nesaf? Deg mlynedd, ugain ar y mwyaf?
Neu a yw Llafur yn cynhesu at y syniad o refferendwm er mwyn pellhau eu hunain o'r Ceidwadwyr? Mae'r Rhyddfrydwyr yn newid eu meddwl fel y gwynt, felly sdim dal beth newn nhw ei gredu.Rhods a ddywedodd:Macsen a ddywedodd: Hyd yn oed pe bai nhw'n colli, faint fyddai yna tan y refferendwm nesaf? Deg mlynedd, ugain ar y mwyaf?
Dwi ddim yn gwbod. Y peth pwysig yw fe fydd e fyny i'r bobl - yr outcome tecach a fwya cyfiawn gellir gael.
Cawn wel pwy fydd yn ennill y ddadl yng nghanlyniad y refferendwm.
Ma Llafur yn dechrau cynhesu ir syniad o gael refferendwm, ai mater o amser fydd e , tan i Ceidwadwyr a Rhyddfrydwyr Alban i gefnogi'r alw am refferendwm?
Game on wedyn....
aled g job a ddywedodd:Dydi hynny ddim i ddweud i sicrwydd y byddai'r Alban yn pleidleisio dros annibyniaeth, ond iesgob annwyl, allai'r amgylchiadau presennol ddim bod yn fwy ffafriol i'r SNP. Dwi jest yn gobeithio y cawn ninnau gyfle i wyntyllu'r pwnc yma yng Nghymru hefyd yn sgil datblygiadau yn yr Alban!
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 49 gwestai