aled g job a ddywedodd:Dydi hynny ddim i ddweud i sicrwydd y byddai'r Alban yn pleidleisio dros annibyniaeth, ond iesgob annwyl, allai'r amgylchiadau presennol ddim bod yn fwy ffafriol i'r SNP. Dwi jest yn gobeithio y cawn ninnau gyfle i wyntyllu'r pwnc yma yng Nghymru hefyd yn sgil datblygiadau yn yr Alban!
Dwi yn cytuno bod yr initative da'r SNP ar y foment, a ma nhw yn mynd trwy rhyw fath o honeymoon period (diolch yn rhannol i'r barnett formilwla le ma nhw di cael deal gwych a trethdalwyr Lloegr yn talu am y freebies neis ma nhw di gael - prescriptions am ddim, ffis myfrwyr yn cael ei talu, gofal catre am ddim etc etc
)...Falle bod y pleidiau Prydeinig yn ofni canlyniad refferendwm ac yn ofni crfyder yr SNP - ond os ma nhw yn dweud yn cyhoeddus bod nhw yn meddwl bydde pobl Alban yn gwrthod annibyniaeth, pam felly ofni refferendwm?
Ar dy bwynt ola, be wyt ti yn awgrymu - refferndwm ar annibyniaeth yng Nghymru?! Sori i ddweud hyn, ond tasa na un, fyddai yn 'na' syfrdannol tybiwn i - 75/80% yn dweud 'Na' - byddai hynny yn politcal suicide ir pro-annibynol lobi yng Nghymru. ond os am glywed llais y bobl, ffer enyff, ond tybiwn i na fyddai'r ymateb yn neis iawn.....