Cardi Bach a ddywedodd:Dili Minllyn a ddywedodd:Os caf i roi 'ngheiniogwerth i mewn, taswn i yn sefyllfa Guto Harri - peth go anhebygol, rhaid cydnabod - mi faswn i wedi mynd am y swydd.
Cafodd e gyfle i fod yn rhan o lywodraeth un o ddinasoedd mwya'r byd, wrth ochr un o wleidyddion craffaf a ffraethaf ein cyfnod - ac un sy'n sicr o wrthdaro'n gyson efo'r llywodraeth genedlaethol. At hynny, beth bynnag yw label pleidiol Mr Johnson, alla' i ddim gweld y bydd e'n gallu rhoi stamp arbennig o Geidwadol ar y swydd. Os edrychwch chi ar ei ymgyrch etholiadol, Back Boris oedd y slogan, nid Vote Conservative. Dyw Llundeinwyr ar ei gilydd ddim o anian geidwadol, ac mae'n sicr bod Boris yn deall hynny i'r dim. Hefyd, mae nifer o'r pethau ddechreuodd Ken - fel y Taliadau Tagfeydd - wedi'u sefydlu'n rhy gadarn i'w symud, hyd yn oed tasai Boris eisiau gwneud rhywbeth amdanynt.
Odd Alun Shurmer, cyn swyddog y wasg Plaid Cymru yn San Steffan ac yn genedlaethol, yn gweithio i Ken Livingstone, a bellach yn gweithio i'r BBC.
Odd ffrind da i fi sydd yn genedlaetholwraig yn gweithio i un o wleidyddion Llafur amlyca Cymru.
Odd ffrind arall sydd yn genedlaetholwr yn gweithio i un o wleidyddion amlycaf y Ceidwadwyr yng Nghyrmu.
Swydd...gyrfa...prin fod gwleidyddiaeth bersonol yn dod i'r ystyriaeth.
Bu Shurmer yn ymgeisydd i Blaid Cymru unwaith do? Cynghorydd, os dwi'n cofio'n iawn. Ai yn Aber neu Gaerfyrddin?
Gyda llaw - a di hyn ddim yn feirniadaeth o unrhyw un uchod, jesd pwynt cyffredinol (dwi'n nabod Shurmer, gyda llaw) - o ddarllen dy 'restr' uchod, Cardi, mi fyddwn i'n gallu bod yn rel sinig a dweud mai dyma engraifft o'r salwch materol sy'n rhemp ymysg y dosbarth canol proffesiynol Cymraeg ei iaith. Cyn-ymgyrchwyr iaith yn ymuno â'r Sefydliad (fel y prif engraifft Rhodri Williams, y Journey Chairman i unrhyw Fwrdd sy'n barod i'w gymryd!)... Atgoffa fi o ddigwyddiad digri yn steddfod Yr Wyddgrug - protest Cymdeithas yn stondin y Cynulliad. Protestwraig yn protestio ac yn taflu pamffledi o gwmpas y llawr, a'i chwaer o gyn-brotestwraig yn gweithio i'r Cynulliad ac yn trio ei stopio hi!
ewgorralaff inew?