Guto Harri wedi gadael y BBC a mynd i weithio i BORIS!

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Guto Harri wedi gadael y BBC a mynd i weithio i BORIS!

Postiogan Un Ohonynt / Malwen » Gwe 16 Mai 2008 10:19 am

Rhys Llwyd a ddywedodd:
sian a ddywedodd:
Gwen a ddywedodd: Harri Pritchard Jones.


Siarad yn aml ar y cyfryngau am Babyddiaeth a seiciatreg a llenyddiaeth ond does gen i ddim syniad am ei wleidyddiaeth.


Mae e'n genedlaetholwr mawr ac hefyd yn dilyn safiad Rhufain a'r y rhan-fwyaf o'r so called 'moral issues' megis erthylu, asiantaethau mabwysiadu etc... Er dwi'n amau y byddai'n labelu ei hun yn fwy fel orthadox nag adain-dde os dy chi'n deall beth sgena i. Er mod i'n Brotestant dwi'n edmygu safiad dewr cyhoeddus HPJ dros lawer o werthoedd Cristnogol. Oherwydd y cefndir Pabyddol yma gellid deall, o bosib, pam bod Guto wedi eu ddenu i gorlan y Ceidwadwyr yn hytrach na chorlan political correctness "we don't do God" Llafur-newydd. Rooney?... 8)


Pwy felly oedd (?) tad HPJ? Un o 'sefydlwyr Plaid Cymru' yn ol Golwg.
Wyt ti'n hapus, 'y ngwash i?
Rhithffurf defnyddiwr
Un Ohonynt / Malwen
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 5
Ymunwyd: Llun 17 Maw 2008 11:48 am

Re: Guto Harri wedi gadael y BBC a mynd i weithio i BORIS!

Postiogan r w jones » Sul 18 Mai 2008 5:08 pm

O am lun, yna ewch i:

http://www.owainowain.net/ygwleidydd/ygwleidydd.htm

H.P.J (tad Guto) ydy'r un ar y chwith - yn gyfrifol gydag Owain Owain am un o brotestiadau cynharaf Cymdeithas yr Iaith yn ol y wefan.
r w jones
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 8
Ymunwyd: Maw 14 Chw 2006 10:06 am

Re: Guto Harri wedi gadael y BBC a mynd i weithio i BORIS!

Postiogan Dylan » Iau 12 Meh 2008 2:50 pm

stori ddigri iawn am Guto Harri yn y Private Eye cyfredol, os ydi hi'n wir

debyg y diwrnod cyn cyhoeddi'r swydd â Boris roedd o fyny yn Holyrood yn rhinwedd ei swydd â'i gyn-gyflogwyr am rhyw noson ddigon anffurfiol. Ond mae'n debyg bu iddo feddwi braidd: dychryn merchaid, sarhau cefnogwyr Llafur a deud tipyn o bethau od. Yn ôl y stori bu'n rhaid iddyn nhw'i anfon nôl i Lundain ar y sleeper train. Bellach efo'i job newydd mae'n hyrwyddo ymgyrch neywdd Boris i daclo anhrefn a meddwdod cyhoeddus!
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Re: Guto Harri wedi gadael y BBC a mynd i weithio i BORIS!

Postiogan Prysor » Gwe 13 Meh 2008 3:18 pm

Cardi Bach a ddywedodd:
Dili Minllyn a ddywedodd:Os caf i roi 'ngheiniogwerth i mewn, taswn i yn sefyllfa Guto Harri - peth go anhebygol, rhaid cydnabod - mi faswn i wedi mynd am y swydd.

Cafodd e gyfle i fod yn rhan o lywodraeth un o ddinasoedd mwya'r byd, wrth ochr un o wleidyddion craffaf a ffraethaf ein cyfnod - ac un sy'n sicr o wrthdaro'n gyson efo'r llywodraeth genedlaethol. At hynny, beth bynnag yw label pleidiol Mr Johnson, alla' i ddim gweld y bydd e'n gallu rhoi stamp arbennig o Geidwadol ar y swydd. Os edrychwch chi ar ei ymgyrch etholiadol, Back Boris oedd y slogan, nid Vote Conservative. Dyw Llundeinwyr ar ei gilydd ddim o anian geidwadol, ac mae'n sicr bod Boris yn deall hynny i'r dim. Hefyd, mae nifer o'r pethau ddechreuodd Ken - fel y Taliadau Tagfeydd - wedi'u sefydlu'n rhy gadarn i'w symud, hyd yn oed tasai Boris eisiau gwneud rhywbeth amdanynt.


Odd Alun Shurmer, cyn swyddog y wasg Plaid Cymru yn San Steffan ac yn genedlaethol, yn gweithio i Ken Livingstone, a bellach yn gweithio i'r BBC.
Odd ffrind da i fi sydd yn genedlaetholwraig yn gweithio i un o wleidyddion Llafur amlyca Cymru.
Odd ffrind arall sydd yn genedlaetholwr yn gweithio i un o wleidyddion amlycaf y Ceidwadwyr yng Nghyrmu.

Swydd...gyrfa...prin fod gwleidyddiaeth bersonol yn dod i'r ystyriaeth.


Bu Shurmer yn ymgeisydd i Blaid Cymru unwaith do? Cynghorydd, os dwi'n cofio'n iawn. Ai yn Aber neu Gaerfyrddin?

Gyda llaw - a di hyn ddim yn feirniadaeth o unrhyw un uchod, jesd pwynt cyffredinol (dwi'n nabod Shurmer, gyda llaw) - o ddarllen dy 'restr' uchod, Cardi, mi fyddwn i'n gallu bod yn rel sinig a dweud mai dyma engraifft o'r salwch materol sy'n rhemp ymysg y dosbarth canol proffesiynol Cymraeg ei iaith. Cyn-ymgyrchwyr iaith yn ymuno â'r Sefydliad (fel y prif engraifft Rhodri Williams, y Journey Chairman i unrhyw Fwrdd sy'n barod i'w gymryd!)... Atgoffa fi o ddigwyddiad digri yn steddfod Yr Wyddgrug - protest Cymdeithas yn stondin y Cynulliad. Protestwraig yn protestio ac yn taflu pamffledi o gwmpas y llawr, a'i chwaer o gyn-brotestwraig yn gweithio i'r Cynulliad ac yn trio ei stopio hi! :lol:

ewgorralaff inew?
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: Guto Harri wedi gadael y BBC a mynd i weithio i BORIS!

Postiogan Kez » Sul 22 Meh 2008 2:23 pm

Bydd gan Guto ddigon o waith ar ei blat fel cyfarwyddwr cyfathrebu i Boris Johnson.

Dyma farn Arnold Schwarzenneger ar alluoedd cyfathrebol Boris:

Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Nôl

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron