Guto Harri wedi gadael y BBC a mynd i weithio i BORIS!

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Guto Harri wedi gadael y BBC a mynd i weithio i BORIS!

Postiogan Ray Diota » Iau 15 Mai 2008 9:04 am

Garnet Bowen a ddywedodd:Mae'n dweud cyfrolau am wleidyddiaeth Cymru bod penodiad Guto Harri yn ennyn y fath ymateb ymhlith y Cymry Cymraeg. Petai wedi cyhoeddi ei fod yn mynd i weithio i Rhodri Morgan fyddai neb wedi cymeryd rhyw lawer o sylw.

:?: Nonsens, fydde fe 'di cael lot MWY o sylw, os unrhywbeth...

Ond mae'r syniad bod mab un o hoelion wyth y diwylliant Cymraeg yn DORI wedi rhoi haint i bobl.

sai'n gweld neb yn cael haint 'ma - odd hyn ar y cards ers sbel ta beth on'd oedd? Dwi'n meddwl mai'r syndod yw pa dori, a shwt fath o dori ma fe'n gweithio i yn hytrach na'r ffaith bod e'n gweithio i'r toriaid.

Yn bersonol, dwi'n falch fod 'na rhywun sydd yn gefnogol i'n hiaith a'n diwylliant yn gweithio ar lefel uchaf un o'r pleidiau gwleidyddol Prydeinig. Efallai y caiff ddylanwad positif ar agwedd y Ceidwadwyr at Gymru. Rhywsut, fedra i ddim dychmygu Ken Livingstone (nac unrhyw Lafurwr Prydeinig arall) yn penodi mab i nashi i swydd mor bwysig.

Ma'r paragraff 'ma mor llawn bolocs, sai'n gwbod lle i ddechre... Sai'n gweld unrhyw fudd o gael "rhywun sy'n gefnogol i'n hiaith a'n diwylliant" yn cael ei gyflogi gan sais rhonc yng nghynulliad Llundain o gwbl.

Chware teg iddo fe am gael swydd mor uchel ei pharch, weda i, ond peidied neb a esgus am funud bod e'n mynd 'na fel cenhadwr dros ein hiaith a'n diwylliant!! A ma clodfori Boris Johnson, fel wyt ti'n neud yn dy frawddeg ola' am benodi "mab i nashi" jyst yn chwerthinllyd!!
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: Guto Harri wedi gadael y BBC a mynd i weithio i BORIS!

Postiogan Mr Gasyth » Iau 15 Mai 2008 9:51 am

Garnet Bowen a ddywedodd:Ond mae'r syniad bod mab un o hoelion wyth y diwylliant Cymraeg yn DORI wedi rhoi haint i bobl.

1. Pwy ydi tad Guto Harri a pam cymryd yn ganiataol fod pawb yn gwybod pwy ydi o?
2. Be ffwc sydd gan ei dad i neud efo dewis Guto o swydd beth bynnag?
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Re: Guto Harri wedi gadael y BBC a mynd i weithio i BORIS!

Postiogan sian » Iau 15 Mai 2008 9:56 am

Mr Gasyth a ddywedodd:
Garnet Bowen a ddywedodd:Ond mae'r syniad bod mab un o hoelion wyth y diwylliant Cymraeg yn DORI wedi rhoi haint i bobl.

1. Pwy ydi tad Guto Harri a pam cymryd yn ganiataol fod pawb yn gwybod pwy ydi o?
2. Be ffwc sydd gan ei dad i neud efo dewis Guto o swydd beth bynnag?

Cweit!
Dw i erioed wedi clywed tad Guto Harri'n sôn am wleidyddiaeth plaid a hyd yn oed tyse fe, so what?
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Guto Harri wedi gadael y BBC a mynd i weithio i BORIS!

Postiogan Rhys Llwyd » Iau 15 Mai 2008 12:05 pm

sian a ddywedodd:
Mr Gasyth a ddywedodd:
Garnet Bowen a ddywedodd:Ond mae'r syniad bod mab un o hoelion wyth y diwylliant Cymraeg yn DORI wedi rhoi haint i bobl.

1. Pwy ydi tad Guto Harri a pam cymryd yn ganiataol fod pawb yn gwybod pwy ydi o?
2. Be ffwc sydd gan ei dad i neud efo dewis Guto o swydd beth bynnag?

Cweit!
Dw i erioed wedi clywed tad Guto Harri'n sôn am wleidyddiaeth plaid a hyd yn oed tyse fe, so what?

Pwy yw ei Dad ta beth?
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Guto Harri wedi gadael y BBC a mynd i weithio i BORIS!

Postiogan Gwen » Iau 15 Mai 2008 12:07 pm

Rhys Llwyd a ddywedodd:

Oes na fwy a mwy yn mynd i ofyn hyn tan bydd rhywun wedi atab? Os felly, mi wna i. Harri Pritchard Jones.
Mwy no thân mewn eithinen.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1825
Ymunwyd: Llun 14 Ebr 2003 2:40 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Guto Harri wedi gadael y BBC a mynd i weithio i BORIS!

Postiogan sian » Iau 15 Mai 2008 12:14 pm

Gwen a ddywedodd:
Rhys Llwyd a ddywedodd:
sian a ddywedodd:
Mr Gasyth a ddywedodd:
Garnet Bowen a ddywedodd:Ond mae'r syniad bod mab un o hoelion wyth y diwylliant Cymraeg yn DORI wedi rhoi haint i bobl.

1. Pwy ydi tad Guto Harri a pam cymryd yn ganiataol fod pawb yn gwybod pwy ydi o?
2. Be ffwc sydd gan ei dad i neud efo dewis Guto o swydd beth bynnag?

Cweit!
Dw i erioed wedi clywed tad Guto Harri'n sôn am wleidyddiaeth plaid a hyd yn oed tyse fe, so what?

Pwy yw ei Dad ta beth?

Oes na fwy a mwy yn mynd i ofyn hyn tan bydd rhywun wedi atab? Os felly, mi wna i. Harri Pritchard Jones.

Siarad yn aml ar y cyfryngau am Babyddiaeth a seiciatreg a llenyddiaeth ond does gen i ddim syniad am ei wleidyddiaeth.
Go brin y byse Boris wedi clywed amdano fel rampant nashi.
Dydi'r ffaith fod tad Huw Edwards yn genedlaetholwr 'amlwg' ddim wedi rhwystro gyrfa hwnnw mewn maes 'di-duedd'.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Guto Harri wedi gadael y BBC a mynd i weithio i BORIS!

Postiogan Dili Minllyn » Iau 15 Mai 2008 8:06 pm

Os caf i roi 'ngheiniogwerth i mewn, taswn i yn sefyllfa Guto Harri - peth go anhebygol, rhaid cydnabod - mi faswn i wedi mynd am y swydd.

Cafodd e gyfle i fod yn rhan o lywodraeth un o ddinasoedd mwya'r byd, wrth ochr un o wleidyddion craffaf a ffraethaf ein cyfnod - ac un sy'n sicr o wrthdaro'n gyson efo'r llywodraeth genedlaethol. At hynny, beth bynnag yw label pleidiol Mr Johnson, alla' i ddim gweld y bydd e'n gallu rhoi stamp arbennig o Geidwadol ar y swydd. Os edrychwch chi ar ei ymgyrch etholiadol, Back Boris oedd y slogan, nid Vote Conservative. Dyw Llundeinwyr ar ei gilydd ddim o anian geidwadol, ac mae'n sicr bod Boris yn deall hynny i'r dim. Hefyd, mae nifer o'r pethau ddechreuodd Ken - fel y Taliadau Tagfeydd - wedi'u sefydlu'n rhy gadarn i'w symud, hyd yn oed tasai Boris eisiau gwneud rhywbeth amdanynt.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Re: Guto Harri wedi gadael y BBC a mynd i weithio i BORIS!

Postiogan Wylit, wylit Lywelyn » Iau 15 Mai 2008 8:23 pm

Dili Minllyn a ddywedodd:un o wleidyddion craffaf a ffraethaf ein cyfnod

Efallai fod hyn yn wir- dwn im. Byddai cyfweliad awran hefo fo a Jeremy Paxman yn uffernol o ddifyr (efallai fy mod wedi colli un-damia)!
Dwi jesd yn hoff iawn o'r geiriau mae'n ei defnyddio fel: boldyrdash (dim mynadd ffendio allan y sillafiad cywir Saesneg).
Mae ganddo eirfa eitha mawr. Gresyn nad oes yna wleidydd Cymraeg sy'n gallu perfformio gymnasteg difyr hefo'r heniaith. Wel, dwi'n trio meddwl am rywun....nid yw neb yn llamu i flaen y meddwl.
Pob lwc i GH. Swydd gyffrous.
Rhithffurf defnyddiwr
Wylit, wylit Lywelyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 400
Ymunwyd: Maw 29 Ion 2008 8:49 pm
Lleoliad: Un o bwerdai ein diwylliant

Re: Guto Harri wedi gadael y BBC a mynd i weithio i BORIS!

Postiogan Cardi Bach » Iau 15 Mai 2008 11:34 pm

Dili Minllyn a ddywedodd:Os caf i roi 'ngheiniogwerth i mewn, taswn i yn sefyllfa Guto Harri - peth go anhebygol, rhaid cydnabod - mi faswn i wedi mynd am y swydd.

Cafodd e gyfle i fod yn rhan o lywodraeth un o ddinasoedd mwya'r byd, wrth ochr un o wleidyddion craffaf a ffraethaf ein cyfnod - ac un sy'n sicr o wrthdaro'n gyson efo'r llywodraeth genedlaethol. At hynny, beth bynnag yw label pleidiol Mr Johnson, alla' i ddim gweld y bydd e'n gallu rhoi stamp arbennig o Geidwadol ar y swydd. Os edrychwch chi ar ei ymgyrch etholiadol, Back Boris oedd y slogan, nid Vote Conservative. Dyw Llundeinwyr ar ei gilydd ddim o anian geidwadol, ac mae'n sicr bod Boris yn deall hynny i'r dim. Hefyd, mae nifer o'r pethau ddechreuodd Ken - fel y Taliadau Tagfeydd - wedi'u sefydlu'n rhy gadarn i'w symud, hyd yn oed tasai Boris eisiau gwneud rhywbeth amdanynt.

Odd Alun Shurmer, cyn swyddog y wasg Plaid Cymru yn San Steffan ac yn genedlaethol, yn gweithio i Ken Livingstone, a bellach yn gweithio i'r BBC.
Odd ffrind da i fi sydd yn genedlaetholwraig yn gweithio i un o wleidyddion Llafur amlyca Cymru.
Odd ffrind arall sydd yn genedlaetholwr yn gweithio i un o wleidyddion amlycaf y Ceidwadwyr yng Nghyrmu.

Swydd...gyrfa...prin fod gwleidyddiaeth bersonol yn dod i'r ystyriaeth.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Re: Guto Harri wedi gadael y BBC a mynd i weithio i BORIS!

Postiogan Rhys Llwyd » Gwe 16 Mai 2008 9:13 am

sian a ddywedodd:
Gwen a ddywedodd: Harri Pritchard Jones.

Siarad yn aml ar y cyfryngau am Babyddiaeth a seiciatreg a llenyddiaeth ond does gen i ddim syniad am ei wleidyddiaeth.

Mae e'n genedlaetholwr mawr ac hefyd yn dilyn safiad Rhufain a'r y rhan-fwyaf o'r so called 'moral issues' megis erthylu, asiantaethau mabwysiadu etc... Er dwi'n amau y byddai'n labelu ei hun yn fwy fel orthadox nag adain-dde os dy chi'n deall beth sgena i. Er mod i'n Brotestant dwi'n edmygu safiad dewr cyhoeddus HPJ dros lawer o werthoedd Cristnogol. Oherwydd y cefndir Pabyddol yma gellid deall, o bosib, pam bod Guto wedi eu ddenu i gorlan y Ceidwadwyr yn hytrach na chorlan political correctness "we don't do God" Llafur-newydd. Rooney?... 8)
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 15 gwestai