Garnet Bowen a ddywedodd:Mae'n dweud cyfrolau am wleidyddiaeth Cymru bod penodiad Guto Harri yn ennyn y fath ymateb ymhlith y Cymry Cymraeg. Petai wedi cyhoeddi ei fod yn mynd i weithio i Rhodri Morgan fyddai neb wedi cymeryd rhyw lawer o sylw.
Nonsens, fydde fe 'di cael lot MWY o sylw, os unrhywbeth...
Ond mae'r syniad bod mab un o hoelion wyth y diwylliant Cymraeg yn DORI wedi rhoi haint i bobl.
sai'n gweld neb yn cael haint 'ma - odd hyn ar y cards ers sbel ta beth on'd oedd? Dwi'n meddwl mai'r syndod yw pa dori, a shwt fath o dori ma fe'n gweithio i yn hytrach na'r ffaith bod e'n gweithio i'r toriaid.
Yn bersonol, dwi'n falch fod 'na rhywun sydd yn gefnogol i'n hiaith a'n diwylliant yn gweithio ar lefel uchaf un o'r pleidiau gwleidyddol Prydeinig. Efallai y caiff ddylanwad positif ar agwedd y Ceidwadwyr at Gymru. Rhywsut, fedra i ddim dychmygu Ken Livingstone (nac unrhyw Lafurwr Prydeinig arall) yn penodi mab i nashi i swydd mor bwysig.
Ma'r paragraff 'ma mor llawn bolocs, sai'n gwbod lle i ddechre... Sai'n gweld unrhyw fudd o gael "rhywun sy'n gefnogol i'n hiaith a'n diwylliant" yn cael ei gyflogi gan sais rhonc yng nghynulliad Llundain o gwbl.
Chware teg iddo fe am gael swydd mor uchel ei pharch, weda i, ond peidied neb a esgus am funud bod e'n mynd 'na fel cenhadwr dros ein hiaith a'n diwylliant!! A ma clodfori Boris Johnson, fel wyt ti'n neud yn dy frawddeg ola' am benodi "mab i nashi" jyst yn chwerthinllyd!!