Refferendwm ar gyfer yr Alban

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Refferendwm ar gyfer yr Alban

Postiogan LLewMawr » Maw 13 Mai 2008 12:28 pm

Rwy'n edrych ymlaen am hyn i ddigwydd yn 2010. Mae'r blaid Lafur yn yr Alban wedi rhwygo ei hun yn ddarnau ac mae'r SNP yn martsio ymlaen yn ddi-baid. 'drycha Wendy Alexander fel ffwl twp sydd yn cael ei owt-manwfro pob tro can Alex Salmond.

Gobeithiaf bydd yr Alban yn pleidleisio ar gyfer adael y DU.
...pleidiol wyf i'm gwlad...
Rhithffurf defnyddiwr
LLewMawr
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 88
Ymunwyd: Maw 08 Ebr 2008 10:47 am
Lleoliad: Penybont, De Cymru

Re: Refferendwm ar gyfer yr Alban

Postiogan Hogyn o Rachub » Maw 13 Mai 2008 12:50 pm

Mae'n sefyllfa ddiddorol iawn. Os bydd Llafur, drwy ryfedd wyrth, dal yn llywodraethu yn 2010 (efallai mewn clymblaid) bydd cyfle go dda o ennill refferendwm o'r fath. Prin fod unrhyw lywodraeth mewn grym am y fath amser heb fod yn amhoblogaidd. Ar y llaw arall, mae'r Torïaid yn wan iawn yn yr Alban bellach, bydd llywodraeth Dorïaidd yn Llundain yn rhoi cyfiawnhad dros ddefnyddio'r ddadl o gael llywodraeth nas pleidleisiwyd amdani.

Sefyllfa gymysglyd byddai refferendwm ac etholiad San Steffan tua'r un adeg - am ryw rheswm dw i'n teimlo y byddai hynny'n ergyd i'r ymgyrch dros annibynniaeth yno, ond fedrai'm dadansoddi pam yn iawn.

Mae llawer yn gallu ennill mewn dwy flynedd ond mae'r arwyddion i yn dangos bod Alban annibynnol ar y gweill. Os dyna'r achos, bydd Cymru hefyd o fewn degawd.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Refferendwm ar gyfer yr Alban

Postiogan LLewMawr » Maw 13 Mai 2008 12:57 pm

bydd e'n anodd iawn i'r SNP ennill y refferendwm oherwydd mae pleidleisio dros annibyniaeth fel leap of ffaith tra bod pleidleisio dros y status quo yn rhywbeth hawdd i wneud.

serch hyn os bydd y Toriaid yn cipio rym yn LLundain- fydd hyn yn dieithrio y Sgotiaid a falle (os rwy'n sibrwd yn dawel gan croesi fy mysedd) bydd y sgotiaid yn bleidleisio i rhyddhau ei hun.

bydde arwyddocâd hyn ar gyfer Cymru yn bwysig iawn. achos bydd y unionists sydd wastad yn dweud 'I'm British not Welsh' neu 'im British & welsh' yn gorfod derbyn bod Prydain ddim yn bodoli unrhyw mwy.
...pleidiol wyf i'm gwlad...
Rhithffurf defnyddiwr
LLewMawr
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 88
Ymunwyd: Maw 08 Ebr 2008 10:47 am
Lleoliad: Penybont, De Cymru

Re: Refferendwm ar gyfer yr Alban

Postiogan Hogyn o Rachub » Maw 13 Mai 2008 1:26 pm

O ran dy bwynt olaf, dim cweit. Iawn, efallai na fydd yr Alban yn rhan o'r Deyrnas Unedig ond bydd y Deyrnas Unedig yn dal i fodoli gyda Chymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Er mai coron Lloegr a'r Alban yw'r Deyrnas Unedig, o ran enw, mewn ffordd :?

Actiwli mae'r enw ar y DU ôl-Alban yn bwnc ynddo'i hun!
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Refferendwm ar gyfer yr Alban

Postiogan LLewMawr » Maw 13 Mai 2008 1:36 pm

ystyriwch hi fel hun:

cyn 1707 roedd y Kingdom of England yn bodoli gan gynnwys Cymru wrthgwrs. ac roedd Kingdom of Scotland yn annibynol.

mae Iwerddon ychydig yn fwy gymleth- nid oedd yn rhan o Loegr ond nid oedd yn annibynnol- roedd Lloegr yn rheoli ac yn rhoi lawr unrhyw wrthryfela yn waedlyd.

ta waith- yn 1707 cyfunodd Lloegr a'r Ablan i greu 'the Kingdom of Great Britain'- ac mae'r term 'British' yn deillio o hyn- oherwydd enw yr ynys yw Great Britain/ neu Britain yn fyr.

yn 1801 ymunodd Iwerddon yn swyddogol gan creu- the United Kingdom of Great Britain and Ireland.

yn 1922 pan rhanwyd Iwerddon newidiodd enw'r wlad yn United Kingdom of Great Britain and Northern Ireland- sy'n bodoli hyd heddiw.

ond petai'r alban penderfynu i adael- wedyn beth fydd enw y wlad 'newydd'?
...pleidiol wyf i'm gwlad...
Rhithffurf defnyddiwr
LLewMawr
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 88
Ymunwyd: Maw 08 Ebr 2008 10:47 am
Lleoliad: Penybont, De Cymru

Re: Refferendwm ar gyfer yr Alban

Postiogan Macsen » Maw 13 Mai 2008 2:15 pm

LLewMawr a ddywedodd:ond petai'r alban penderfynu i adael- wedyn beth fydd enw y wlad 'newydd'?

The Kingdom of Wales and Environs
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: Refferendwm ar gyfer yr Alban

Postiogan S.W. » Maw 13 Mai 2008 2:20 pm

Swn in tybio bydde'r enw'n aros mwy neu lai'r un peth gyda just teak bach i'r enw swyddogol llawn - o 'the United Kingdom of Great Britain and Northern Ireland' i 'the United Kingdom of England, Wales and Northern Ireland'. Mae'r enw UK yn rhy 'ingrained' iw newid. A beth bynnag, be fyddai'r pwynt dod fyny hefo enw hollol newydd gan mai stop gap cyn i Gymru dori ffowrdd fydd o hefyd! 8)

Mae Wendy Alexander di gorfod cefnu ar ei syniad bellach gan daro hoelen pellach ym Mhlaid Lafur yr Alban fel plaid credadwy yno.

Roedd ne golofn difyr yn y Record (papur sy'n dueddol o fod yn gefnogol iawn i Lafur ac yn wrthwynebus iawn i'r SNP) yn dadlau dros gael Passport Albanaidd.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Re: Refferendwm ar gyfer yr Alban

Postiogan Seonaidh/Sioni » Maw 13 Mai 2008 8:57 pm

Pryd byddwn ni'n cael pasport Ewropeaidd? Neu'n well o lawer, byd-eang?
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Refferendwm ar gyfer yr Alban

Postiogan Macsen » Maw 13 Mai 2008 9:16 pm

S.W. a ddywedodd:Swn in tybio bydde'r enw'n aros mwy neu lai'r un peth gyda just teak bach i'r enw swyddogol llawn - o 'the United Kingdom of Great Britain and Northern Ireland' i 'the United Kingdom of England, Wales and Northern Ireland'.

Problem ydi, yn ol haeriad pwy bynnag sy'n penderfynu ar y petha ma'n y lle cyntaf, dyw Cymru ddim yn deyrnas, jesd yn 'principality', a cyfran o dalaith Ulster yw Gogledd Iwerddon. Felly 'The United Constituent Countries of the Kingdom of England, Principality of Wales and State of Norther Ireland' fyddai'n enw swyddogol llawn. Bydd angen passports dybl y seis!
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: Refferendwm ar gyfer yr Alban

Postiogan S.W. » Mer 14 Mai 2008 12:18 pm

Seonaidh/Sioni a ddywedodd:Pryd byddwn ni'n cael pasport Ewropeaidd? Neu'n well o lawer, byd-eang?


Ti byth yn mynd i gael pasport byd eang a roedd ne son am posiblrwydd o bassport Ewropeaidd yn y Record ddoe i ti ei ddarllen. Ond dwi'n edbyn y ddau.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Nesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 18 gwestai

cron