Swn in tybio bydde'r enw'n aros mwy neu lai'r un peth gyda just teak bach i'r enw swyddogol llawn - o 'the United Kingdom of Great Britain and Northern Ireland' i 'the United Kingdom of England, Wales and Northern Ireland'. Mae'r enw UK yn rhy 'ingrained' iw newid. A beth bynnag, be fyddai'r pwynt dod fyny hefo enw hollol newydd gan mai stop gap cyn i Gymru dori ffowrdd fydd o hefyd!
Mae Wendy Alexander di gorfod cefnu ar ei syniad bellach gan daro hoelen pellach ym Mhlaid Lafur yr Alban fel plaid credadwy yno.
Roedd ne golofn difyr yn y Record (papur sy'n dueddol o fod yn gefnogol iawn i Lafur ac yn wrthwynebus iawn i'r SNP) yn dadlau dros gael Passport Albanaidd.