Refferendwm ar gyfer yr Alban

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Refferendwm ar gyfer yr Alban

Postiogan Macsen » Mer 14 Mai 2008 12:25 pm

S.W. a ddywedodd:Ti byth yn mynd i gael pasport byd eang.

Sut dw i am fynd i'r Blaned Mawrth ar fy ngwyliau yn 2066 ta?
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: Refferendwm ar gyfer yr Alban

Postiogan S.W. » Mer 14 Mai 2008 1:22 pm

Macsen a ddywedodd:
S.W. a ddywedodd:Ti byth yn mynd i gael pasport byd eang.

Sut dw i am fynd i'r Blaned Mawrth ar fy ngwyliau yn 2066 ta?


Hedfan

<gwenogllyn smart arse>
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Re: Refferendwm ar gyfer yr Alban

Postiogan sanddef » Llun 19 Mai 2008 7:08 am

Datblygiadau diweddaraf: ymddengys roedd gan Llywodraeth San Steffan gynllun i gynnal refferendwm yn yr Alban eleni!
Meh
Rhithffurf defnyddiwr
sanddef
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1608
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 9:27 am

Re: Refferendwm ar gyfer yr Alban

Postiogan LLewMawr » Sul 25 Mai 2008 8:36 pm

pan fo moch yn hedfan...

dyw Llywodraeth Prydain ddim an awyddus ar gyfer refferendwm - oherwydd mae'n gosod rhagesiampl. falle by nhw'n ennill tro ma- ond yn 15-20mlynedd falle ddim. os ni'n cicio'r pwnc i fewn i'r glaswellt hir nhw'n gobeithio bod y pwnc yn mynd i ddiflannu.
...pleidiol wyf i'm gwlad...
Rhithffurf defnyddiwr
LLewMawr
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 88
Ymunwyd: Maw 08 Ebr 2008 10:47 am
Lleoliad: Penybont, De Cymru

Re: Refferendwm ar gyfer yr Alban

Postiogan sanddef » Sad 21 Meh 2008 11:41 am

Meh
Rhithffurf defnyddiwr
sanddef
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1608
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 9:27 am

Re: Refferendwm ar gyfer yr Alban

Postiogan Seonaidh/Sioni » Sad 21 Meh 2008 7:20 pm

Cafodd Deddf Uno ei phasio gan Senedd Loegr a Chymru a chan Senedd yr Alban - 'doedd 'na ddim refferendwm. Yn yr un ffordd, dylai'r cwestiwn o annibyniaeth gael ei benderfynu gan y ddau gorff hyn, heb refferendwm. Ond y broblem ydy fod 'na alwad am y fath refferendwm ym maniffesto'r SNP.

Be dyn ni wedi gweld ym Mhrydain dros y blynyddoedd? Ar un adeg, plaid yn cael ei hethol efo pholisi o ddatganoli, ond yn cynnwys rhyw rwtsh am refferendwm - a'r tro hynny darfu iddyn nhw golli'r blydi beth. Bu raid i Gymru a'r Alban yn aros dros flynyddoedd o lywodraeth eithafol yn Llundain er iddyn nhw gael cyfle arall am ddatganoli. Llwyddodd, y tro hynny - ond, fel y cofiaf, bu bron iddyn nhw golli eto yng Nghymru. Na, yn marn i, mae refferendwms yn ffordd o ddweud "does dim pwynt mewn ethol llywodraeth". Be nesa - refferendwm ar grogi?

A beth dyn ni'n ei weld heddiw? Rhyw blaid yn ceisio rheoli'r Alban heb fawr lwyddiant - a heb fwyafrif - yn ofni bod eu breuddwyd o Alban ar wahan yn mynd i gael ei wrthod gan yr pleidleiswyr; a phrif blaid yn eu herbyn yn ceisio gorfodi refferendwm rwan oherwydd yr union reswm. Mae'n amlwg, pryd bynnag y daw 'r refferendwm, bydd yn methu dangos gwir deimlad pobl yr Alban. Ar y naill law, mae'r Blaid eisiau refferendwm rwan gan eu bod yn credu bydd annibyniaeth yn cael ei gwrthod gan yr Alban ar hyn o bryd. Ar y llall, mae'r SNP eisiau aros nes bydd Dewi Camshron yn Nowning Street gan eu bod yn credu bydd yr Alban yn cefnogi annibyniaeth os bydd llywodraeth Geidwadol ym Mhrydain.

Dyna, mewn cnewyllyn, y wleidyddiaeth tu ol i'r holl posturing 'ma rhwng Alecsander a Salmond yng Nghroes Sant (Holyrood). Dim byd i'w wneud a dyheuad gwirioneddol y bobl. Fel a ddywedais o'r blaen, dylai'r amryw wleidyddion benderfynu'r cwestiwn, yn sgil gael eu hethol (neu beidio).
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Refferendwm ar gyfer yr Alban

Postiogan celt86 » Sul 22 Meh 2008 5:53 pm

I'r rhai sydd yn ffantasio dros refferendwm i Gymru yn sgil llwyddiant yr Alban yn ei refferendwm nhw, mae genai hyn yw ddweud. Mae'r DU yn mynd i orffen, gyda Alban yn gadael ac yn dod yn wlad annibynnol. Mi fydd G. Iwerddon yn ymuno gyda gweddil yr ynys (Gyda trais yn dod yn sgil mae'n siwr, ond yn gadael yr DU beth bynnag). Mae hyn yn gadael Lloegr a Cymru (Y ci bach ffyddlon i'r goron a Lloegr.) Yn anffodus England & Wales fydd hi am amser hir, hir iawn. Dwi ddim yn dallt sut mae rhai yn medru ffantaseisio am Cymru annibynol, tra bod y bleidlais am gael y Senedd ma (Sydd efo just digon o bwer i allu penderfynu ar y pethau mwy bach a tila) wedi cael ei ennill o drwch blewin yn unig. Mae annibyniaeth i Gymru yn hollol unrealistic, ac os mi fydd patrwm demographic Cymru yn cario ymlaen fel mae o nawr, wel, mae 'devolution revolution' Cymru ar ben cyn iddo ddechrau.
Rhithffurf defnyddiwr
celt86
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 71
Ymunwyd: Llun 24 Rhag 2007 8:30 pm
Lleoliad: Cymru...Ta Solihull ydi o?

Re: Refferendwm ar gyfer yr Alban

Postiogan Doctor Sanchez » Sul 22 Meh 2008 6:18 pm

celt86 a ddywedodd:I'r rhai sydd yn ffantasio dros refferendwm i Gymru yn sgil llwyddiant yr Alban yn ei refferendwm nhw, mae genai hyn yw ddweud. Mae'r DU yn mynd i orffen, gyda Alban yn gadael ac yn dod yn wlad annibynnol. Mi fydd G. Iwerddon yn ymuno gyda gweddil yr ynys (Gyda trais yn dod yn sgil mae'n siwr, ond yn gadael yr DU beth bynnag). Mae hyn yn gadael Lloegr a Cymru (Y ci bach ffyddlon i'r goron a Lloegr.) Yn anffodus England & Wales fydd hi am amser hir, hir iawn. Dwi ddim yn dallt sut mae rhai yn medru ffantaseisio am Cymru annibynol, tra bod y bleidlais am gael y Senedd ma (Sydd efo just digon o bwer i allu penderfynu ar y pethau mwy bach a tila) wedi cael ei ennill o drwch blewin yn unig. Mae annibyniaeth i Gymru yn hollol unrealistic, ac os mi fydd patrwm demographic Cymru yn cario ymlaen fel mae o nawr, wel, mae 'devolution revolution' Cymru ar ben cyn iddo ddechrau.


Cytuno efo Celt, mae rhywun sy'n coelio bydd Cymru yn dilyn siwt os dewisith yr Albanwyr annibyniaeth yn dioddef o ddos o 'Wishful thinking' yn fama. Dwim yn gwybod be di'r ystadegau, ond swn i'n feddwl bod mwy o bobl yn yr Alban o blaid aros yn y Deyrnas Unedig na ddim. Mi fysa fo'n gret os bysa'r Alban yn cael annibyniaeth ond hyd yn oed os byddai hyn yn digwydd, fedrai ddim gweld Cymru'n cael un am amser hir oherwydd nad ydy Plaid Cymru wedi gwneud digon o swn yn ei gylch yn y Cynulliad, a fedrai ddim gwel un o'r pleidiau eraill o'i blaid. Ystyriwch hefyd be fysai'r cyfle, os y buasem yn cael refferendwm ohonan ni gael annibyniaeth. Fus i lawr yng nghymoedd De Cymru am dair blynedd a mae'r rhan helaeth yn brydeinllyd ar y naw, ac yn gweld dim byd yn bod ar yr Union Jac. Mae'r canolbarth lle ges i'n magu yn ddigon tebyg, a mi fyswn i'n dadlau yr un peth pan ei di heibio Bangor yn y gogledd.

Mi fysa annibyniaeth y peth gorau posib allai ddigwydd i Gymru yn fy marn i, ond mae'r ganran o boblogaeth Cymru sy'n cytuno a fi yn llai na 15% swn i'n ddeud, a dwi'm yn credu weliwn i annibyniaeth yn y 50 mlynedd nesa os byth :crio:

Ac er gymaint dwi o blaid Iwerddon unedig di hynna ddim yn mynd i ddigwydd heb colli llawer iawn o waed.
Not my fault. Monkey bastard hands!

WHAT!? Am I holding a crock of shit!? Tell me something. Is this hospital called "St. Crock of Shit"!?
Rhithffurf defnyddiwr
Doctor Sanchez
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 160
Ymunwyd: Llun 10 Maw 2008 1:02 pm
Lleoliad: Ysbyty ManTywyll

Re: Refferendwm ar gyfer yr Alban

Postiogan sanddef » Sul 22 Meh 2008 10:08 pm

Yng Nghymru mae'r refferendwm ar gael pŵerau deddfwriaethol cynradd, nid annibyniaeth!
Meh
Rhithffurf defnyddiwr
sanddef
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1608
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 9:27 am

Re: Refferendwm ar gyfer yr Alban

Postiogan Prysor » Llun 23 Meh 2008 1:06 pm

mi ddaw Cymru'n 'annibynnol' o fewn 20 mlynedd... ond yn eironig, dim oherwydd ewyllys y bobl, ond oherwydd y broses wleidyddol...

mae gan yr Alban oblygiadau i Gymru, gan y bydd annibyniaeth i'r Alban yn codi cwestiynnau cyfansoddiadol sylfaenol i'r DU.

o ran Werddon, mewn cenhedlaeth bydd mwyafrif cenedlaetholgar/pabyddol yn chwe sir gogledd Iwerddon. Byddai posib ennill refferendwm ar Uno efo'r weriniaeth. Yn y cyfamser, bydd cenhedlaeth (gobeithio) wedi byw heb drais, gyda'r holl bres sy'n cael ei wario yn y dalaith ar y funud yn dod â ffyniant economaidd fydd yn creu cenhedlaeth o bobl fydd wedi cael y cyfle i anghofio am y bigotri crefyddol a (gobeithio) bydd pobl ifanc wedi dechrau cymysgu efo'i gilydd (mewn tua 20 mlynedd???)... Faint o ffeit fydd ar ôl gan y loialists???... (ydw dwi'n or-optimistaidd, falla)

OND - nid trais gan y loialists ydi'r prif rwystr i Werddon unedig, ond yn hytrach gwrthwynebiad Gwyddelod y de - a chan fod y Weriniaeth wedi cael gwared o'i claim i diriogaeth y chwe sir, bydd rhaid rhoi refferendwm i'r ynys i gyd. Er gwaetha prysurdeb cynyddol Sinn Fein yn y Weriniaeth, mi fydd yn anodd cael y Gwyddelod i fotio dros adael y chwe sir i mewn. Dydi'r rhan fwya o'nyn nhw ddim isio gwbod.
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 20 gwestai