huwwaters a ddywedodd:Mae Stephen Fry yn trafod y cwestiwn o ysgol breifat yn ei hunan-gofiant - be mae o'n ddeud yn y bôn ydi mai dyna sy'n digwydd yn naturiol mewn teuluoedd dosbarth canol-uwch. Does na'm byd yn bod ar y peth.
Yn bersonol dwi'n meddwl bod cwyno am y ffaith fod plaid asgell-dde draddodiadol foneddigaidd yn llawn pobl o gefndir breintiedig yn elitaidd a snobyddlyd ynddo'i hun. Mae'n hawdd bod yn inverted snob - os ydi'r bobl ora i redeg y wlad yn dod o gefndir ariannog wel so be it. (Nid bo fi'n awgrymu mai Toris Cameron ydi'r bobl ora, gas gen i nhw.) Fy hun swn i ddim yn meindio cael hanner y cabinet wedi bod yn Rhydychen.
Dwi jyst yn flin efo'r agwedd ma bod llwy aur yn golygu bod rhywun ddim yn gymwys i neud y job. Wrth gwrs bod angen balans o bobol sy'n gallu teimlo poen y bobol ac ati...ond fuodd hannar y cabinet cysgod ddim yn Eton, yn naddo.
Ac os ydi Stephen Fry yn deud hynna mae o'n iawn ydi o?!
Dadl y bobl o'r dosbarth sy'n gyrru eu plant i ysgolion fel Eton fel arfer ydi son am 'inverted snobbery' - tydi'r ddadl honno ddim yn gwneud unrhyw synnwyr yn y ddadl hon. Mae'r syniad fod y bobl orau i redeg y wlad yn dod o blith beth bynnag ydi'r canran sy'n mynychu ysgolion preifat Prydain, heb son am y 0.000000...% o bologaeth Prydain sy'n mynd i Eton yn boncyrs!! Does neb nad ydyn nhw'n "gymwys i neud y job" - a dyna'r pwynt. Mae mwyafrif y boblogaeth yn cael cau allan gan griw bach o bobl o'r un cefndir, yr un dosbarth a'r un agweddau cymdeithasol a ddigwyddodd fynd i'r un ysgol/ysgolion.
A pham, Krustysnaks, yr wyt ti'n meddwl fod 24 dyn a 7 dynes yng nghabinet Cameron?
Diolch am yr ystadegau cywir Murray Hewitt.