Dylanwad Eton ar wleidyddiaeth Prydain - teg 'ta be?

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Yr Etholiad Cyffredinol a phwy fydd yn ennill

Postiogan Muralitharan » Llun 12 Mai 2008 11:07 pm

Iawn - at ryw bwynt. Ond un o'r pethau gorau am brifysgolion ydi'r amrywiaeth o gefndiroedd cymdeithasol ac economaidd yn cyd-fyw, dadlau, caru, trafod, anghytuno ... ac yn y blaen. Er, mae'r amrywiaeth hwnnw o dan fygythiad o dan Lafur Newydd hefyd, yn eironig iawn! Ond nid yw'r amrywiaeth hwnnw i'w gael yn Eton, ac mae lle i ddadlau nad oes digon ohono yn Oxbridge wedyn - lle mae canran uchel ohonyn nhw'n mynd.
Ac os ydi dy ddehongliad o sylwadau Rhys yn gywir, yna mae'r pwynt yr un mor wir am ddisgyblion Eton.
Mi faswn i'n dadlau fod y 'teip' (term Rhys) o Gymro a Chymraes sy'n dewis mynd i Brifysgol Cymru yn gwneud hynny oherwydd teyrngarwch i'w cenedl, a bod cyn-ddisgyblion Eton, a myfyrwyr Oxbridge yn aml wedyn, yn dewis plaid sy'n ddigon parod i warchod buddiannau - cymdeithasol ac ariannol - dosbarth arbennig o bobl.
Muralitharan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 174
Ymunwyd: Gwe 21 Rhag 2007 1:55 pm

Re: Yr Etholiad Cyffredinol a phwy fydd yn ennill

Postiogan Rhys Llwyd » Maw 13 Mai 2008 12:02 pm

Muralitharan a ddywedodd:Mi faswn i'n dadlau fod y 'teip' (term Rhys) o Gymro a Chymraes sy'n dewis mynd i Brifysgol Cymru yn gwneud hynny oherwydd teyrngarwch i'w cenedl, a bod cyn-ddisgyblion Eton, a myfyrwyr Oxbridge yn aml wedyn, yn dewis plaid sy'n ddigon parod i warchod buddiannau - cymdeithasol ac ariannol - dosbarth arbennig o bobl.


Dyna fy union bwynt i. Dy gwestiwn cychwynol Muralitharan oedd: 'pam fod gan Eton gymaint o afael a dylanwad ar ei Blaid o hyd?' A fy ateb i oedd deud fod o, fel Plaid Cymru a Phrifysgol Cymru, oherwydd fod pobl yn troi mewn cylchoedd cymdeithasol sy'n debyg, yn y bôn, o un cenhedlaeth i'r llall ac eu bod nhw yn dewis plaid sy'n gweithio i gadw, cynnal a datblygu eu byd olwg nhw. O droi dy gwestiwn ar ei ben gad i mi holi felly: pam fod gan Brifysgol Cymru gymaint o afael a dylanwad ar Blaid Cymru o hyd? A diau bydd dy ateb yn medru cael ei gyfieithu i ateb dy gwestiwn cychwynol am Eton a'r Ceidwadwyr.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Yr Etholiad Cyffredinol a phwy fydd yn ennill

Postiogan Cardi Bach » Maw 13 Mai 2008 12:32 pm

wy ddim yn credu fod posib cymharu Prifysgol Cymru ag Eton.
Un ysgol yn unig yw Eton ar un campws, sydd yn derbyn rhan helaethaf o'u myfyrwyr o gefndir arianog, ethnig, a gwleidyddol cyffredin.
Ma bydolwg disgyblion Eton yn debygol o fod yn hynod gyffredin. Rhaid ond edrych ar y rhestr o gynddisgyblion i gadarnhau hyn.
Dyna sy'n beryg am yr hyn y mae Cameron yn ei wneud. Sut mae disgwyl i Lywodraeth Prydain gynrychioli holl bobl Prydain os yw rhan helaeth o'r cabinet oll yn rhanu yr un cefndir a'r un bydolwg?

Dyw hyn ddim yn wir am Brifysgol Cymru - prifysgol Ffederal sydd a champws yn y dinasoedd a threfi, mewn ardaloedd trefol a gwledig, gyda myfyrwyr o'r bob cefndir ac o ar draws y byd.

Yn bersonol dwi'n meddwl bod cwyno am y ffaith fod plaid asgell-dde draddodiadol foneddigaidd yn llawn pobl o gefndir breintiedig yn elitaidd a snobyddlyd ynddo'i hun. Mae'n hawdd bod yn inverted snob - os ydi'r bobl ora i redeg y wlad yn dod o gefndir ariannog wel so be it. (Nid bo fi'n awgrymu mai Toris Cameron ydi'r bobl ora, gas gen i nhw.) Fy hun swn i ddim yn meindio cael hanner y cabinet wedi bod yn Rhydychen.

Dwi jyst yn flin efo'r agwedd ma bod llwy aur yn golygu bod rhywun ddim yn gymwys i neud y job



Eto, alla i ddim cytuno a hwn, oblegid mae'n rhaid gofyn y cwestwin 'Pam?' Pam fod dynion yn dueddol o gael ei dewis i fod yn wleidyddion? Pam fod pobl gwyn yn dueddol o gael eu dewis i fod yn wleidyddion? Pam fod pobl o gefndiroedd mwy breintiedig yn dueddol o gael eu dewis i fod yn wleidyddion? Pam fod pobl abl eu cyrff yn dueddol o gael eu dewis i fod yn wleidyddion? Hynny yw, pam mae dynion gwyn gefndir breintiedig abl eu cyrff yw mwyafrif ein gwleidyddion?

Dwi'n sicr ddim yn dweud fod llwy aur yn golygu nad yw rhywun yn gymwys i wneud y job. Ond gellir troi hynny ar ei phen. Mae'r drefn bresenol yn golygu nad yw pobl sydd wedi eu genu a llwy bren, neb heb lwy o gwbl yn gymwys i wneud y job, am nad ydyn nhw yn cael eu cynrychioli, i raddau helaeth, o fewn y system wleidyddol, yn enwedig y Toriaid. Ond rwy'n adnabod niferoedd o bobl o bob cefndir fyddai yn wleidyddion arbennig, ond nad yw'r drefn yn caniatau iddyn nhw i gael eu dewis - pam? naill ai o achos siofenistiaeth o ryw fath, hiliaeth isymwybodol, neu ryw ragfarn neu gilydd.

Does gan Eton ddim rhyw fformiwla addysgiadol arbennig sy'n cynhyrchu gwell gwleidyddion na unrhyw ysgol arall. Ond mae gan Eton lwyth o ddisgyblion o gefndiroedd cyfoethog sydd a chysylltiadau.

Yn syml, dyw'r drefn yma ddim yn mynd i newid heblaw fod camau yn cael eu cymryd i roi cyfle cyfartal i bawb.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Re: Yr Etholiad Cyffredinol a phwy fydd yn ennill

Postiogan Darth Sgonsan » Maw 13 Mai 2008 12:40 pm

Muralitharan a ddywedodd:Mae mwyafrif y boblogaeth yn cael cau allan gan griw bach o bobl o'r un cefndir, yr un dosbarth a'r un agweddau cymdeithasol a ddigwyddodd fynd i'r un ysgol/ysgolion.
.


y bobol sy'n fotio'r gwleidyddion yma fewn - dydyn nhw ddim yn apwyntio'u hunain. a mae'n amlwg fod fotars yn gyfforddus efo cefndir addysgol y bobol hyn.
hwyrach mai Criw Cameron ydi'r mwyaf breintiedig, ond gad i ni eu barnu ar bolisi yn hytrach nag acen neu gyfrif banc Tada
He who makes a beast of himself gets rid of the pain of being a man
Darth Sgonsan
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 736
Ymunwyd: Llun 23 Mai 2005 9:43 am
Lleoliad: yn pesgi ar farwolaeth mamwlad dlawd

Re: Yr Etholiad Cyffredinol a phwy fydd yn ennill

Postiogan LLewMawr » Maw 13 Mai 2008 12:50 pm

mae'r tories yn hedfan fel Eryr tra bod Llafur yn disgyn fel carreg.
...pleidiol wyf i'm gwlad...
Rhithffurf defnyddiwr
LLewMawr
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 88
Ymunwyd: Maw 08 Ebr 2008 10:47 am
Lleoliad: Penybont, De Cymru

Re: Yr Etholiad Cyffredinol a phwy fydd yn ennill

Postiogan Darth Sgonsan » Maw 13 Mai 2008 12:56 pm

Cardi Bach a ddywedodd:Eto, alla i ddim cytuno a hwn, oblegid mae'n rhaid gofyn y cwestwin 'Pam?' Pam fod dynion yn dueddol o gael ei dewis i fod yn wleidyddion? Pam fod pobl gwyn yn dueddol o gael eu dewis i fod yn wleidyddion? Pam fod pobl o gefndiroedd mwy breintiedig yn dueddol o gael eu dewis i fod yn wleidyddion? Pam fod pobl abl eu cyrff yn dueddol o gael eu dewis i fod yn wleidyddion? Hynny yw, pam mae dynion gwyn gefndir breintiedig abl eu cyrff yw mwyafrif ein gwleidyddion?

Yn syml, dyw'r drefn yma ddim yn mynd i newid heblaw fod camau yn cael eu cymryd i roi cyfle cyfartal i bawb.


sentiment neis, ond pa fath o gamau?
ma'r Cynulliad yn profi na ddylid ffafrio ymgeiswyr ar sail rhyw na dim byd arall. mae cwotas yn tocenistaidd a ma'r bobol gyffredin jesd yn meddwl 'sut ar y ddaear gafodd honna'i hethol?' ma'r busnas gwleidyddol gywir yn difrodi gwleidyddiaeth

mae pobol breintiedig yn fwy tueddol o wleidydda achos bo nhw wedi cael gwell addysg
yr atab ydi gwella'r system addysg a rhoi cyfle teg i bawb gael ato, nid dweud 'chaiff ond 20% o wleidyddion fod efo cefndir addysg breifat'

o ran 'dynion gwyn abl eu cyrff yn fwyafrif' - os ydi'r gwleidydd ddigon da, ddoith o i'r top, fel David Blunket neu Magi Thatcher neu Paul Boatang
He who makes a beast of himself gets rid of the pain of being a man
Darth Sgonsan
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 736
Ymunwyd: Llun 23 Mai 2005 9:43 am
Lleoliad: yn pesgi ar farwolaeth mamwlad dlawd

Re: Yr Etholiad Cyffredinol a phwy fydd yn ennill

Postiogan Muralitharan » Maw 13 Mai 2008 1:58 pm

Iawn, Rhys. Ond, wyt ti ddim yn gweld y gwahaniaeth o hyd? Tydw i ddim yn gweld rhywun yn cael swydd yn Llywodraeth y Cynulliad am ei fod o neu hi wedi bod ym Mhrifysgol Cymru, tra ei bod hi'n amlwg i mi fod dylanwad un ysgol sydd a rhyw 1500 o ddisgyblion ymhell bell y tu hwnt i'r hyn y dylai fod o fewn y Blaid Doriaidd.
A does dim byd yn od yn y ffaith fod nifer fawr o Gymry yn dewis mynd i Brifygol eu gwlad eu hunain, yn yr un modd ag y mae hi'n naturiol i Ffrancwyr neu Swediaid neu Archentwyr wneud yr un modd. Efallai, wir, y byddai rhieni nifer fawr o'r Cymry hyn wedi hoffi gweld eu plant yn mynd i Eton - i gael 'gwell addysg' - ond tydi hynny ddim yn ymarferol bosib nac ydi? Mewn theori mae Prifysgol Cymru yn agored i unrhyw un sydd wedi cyrraedd rhyw safon academaidd.
Muralitharan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 174
Ymunwyd: Gwe 21 Rhag 2007 1:55 pm

Re: Dylanwad Eton ar wleidyddiaeth Prydain - teg 'ta be?

Postiogan LLewMawr » Maw 13 Mai 2008 2:34 pm

mae lot o saes yn mynd i brifysgol cymru- ydyn nhw'n teyrngar tuag at Cymru? I fod yn onest sa i cweit yn siwr lol
...pleidiol wyf i'm gwlad...
Rhithffurf defnyddiwr
LLewMawr
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 88
Ymunwyd: Maw 08 Ebr 2008 10:47 am
Lleoliad: Penybont, De Cymru

Re: Dylanwad Eton ar wleidyddiaeth Prydain - teg 'ta be?

Postiogan Muralitharan » Maw 13 Mai 2008 2:48 pm

Tydi hynna ddim yn gwneud unrhyw wahaniaeth i'r mater sydd o dan sylw.
Y cwestiwn ydi, pam fod gan Eton gymaint o afael a dylanwad ar y Blaid Doriaidd o hyd? Nid pam fod y Blaid Doriaidd yn apelio at y rhai sy'n mynd i Eton.
Muralitharan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 174
Ymunwyd: Gwe 21 Rhag 2007 1:55 pm

Re: Yr Etholiad Cyffredinol a phwy fydd yn ennill

Postiogan Cardi Bach » Maw 13 Mai 2008 2:51 pm

Darth Sgonsan a ddywedodd: sentiment neis, ond pa fath o gamau?


Odi, fi'n gwbod :winc:
Darth Sgonsan a ddywedodd:ma'r Cynulliad yn profi na ddylid ffafrio ymgeiswyr ar sail rhyw na dim byd arall. mae cwotas yn tocenistaidd a ma'r bobol gyffredin jesd yn meddwl 'sut ar y ddaear gafodd honna'i hethol?' ma'r busnas gwleidyddol gywir yn difrodi gwleidyddiaeth

mae pobol breintiedig yn fwy tueddol o wleidydda achos bo nhw wedi cael gwell addysg
yr atab ydi gwella'r system addysg a rhoi cyfle teg i bawb gael ato, nid dweud 'chaiff ond 20% o wleidyddion fod efo cefndir addysg breifat'

o ran 'dynion gwyn abl eu cyrff yn fwyafrif' - os ydi'r gwleidydd ddigon da, ddoith o i'r top, fel David Blunket neu Magi Thatcher neu Paul Boatang


Falle nad 'positive discrimination' yw'r ateb.
Cytuno fod gwella'r system addysg yn sicr yn ateb.
O ran gwleidyddion yn dod i'r top - eithriadau i'r rheol yw'r rhai wyt ti'n enwi yn anffodus.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 13 gwestai