Dylanwad Eton ar wleidyddiaeth Prydain - teg 'ta be?

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Dylanwad Eton ar wleidyddiaeth Prydain - teg 'ta be?

Postiogan dawncyfarwydd » Sul 04 Mai 2008 11:43 pm

Gol: Yn yr edefyn "Yr Etholiad Cyffredinol a phwy fydd yn ennill", dywedodd Muralitharan:
muralitharan a ddywedodd:A gyda llaw, a oes unrhyw un arall ond y fi yn ffieiddio at y ffaith fod hanner neu ragor o Gabinet Cameron, gan gynnwys Cameron, ei hun wedi bod yn ddisgyblion yn Eton? A rwan mae Maer newydd Llundain, Boris Johnson, yn gyn-ddisgybl o'r ysgol honno hefyd? Plaid y bobl my arse ...


ac fe fu dawncyfarwydd mor ffôl ag ymateb.

be sy'n bod ar eton?

shit dwin pissed a ma hyn yn fistec...
Rhithffurf defnyddiwr
dawncyfarwydd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Iau 28 Ebr 2005 4:27 pm
Lleoliad: yn dal yma...

Re: Yr Etholiad Cyffredinol a phwy fydd yn ennill

Postiogan Muralitharan » Sul 04 Mai 2008 11:56 pm

Fuost ti yno ne' rwbath?
Muralitharan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 174
Ymunwyd: Gwe 21 Rhag 2007 1:55 pm

Re: Yr Etholiad Cyffredinol a phwy fydd yn ennill

Postiogan huwwaters » Llun 05 Mai 2008 1:24 am

Muralitharan a ddywedodd:Mae rhai ohonom ni'n dal i gofio'r Toriaid, ac mi roeddan nhw'n ffiaidd!
Ond cyn iddyn nhw fynd ati i glochdar yn ormodol, mae'n rhaid iddyn nhw ddeud wrth bobl Prydain beth yn union yw eu polisiau - os oes ganddyn nhw rai.

A gyda llaw, a oes unrhyw un arall ond y fi yn ffieiddio at y ffaith fod hanner neu ragor o Gabinet Cameron, gan gynnwys Cameron, ei hun wedi bod yn ddisgyblion yn Eton? A rwan mae Maer newydd Llundain, Boris Johnson, yn gyn-ddisgybl o'r ysgol honno hefyd? Plaid y bobl my arse ...


Yr un peth a Tony's cronies.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Re: Yr Etholiad Cyffredinol a phwy fydd yn ennill

Postiogan Tegwared ap Seion » Llun 05 Mai 2008 6:37 am

dawncyfarwydd a ddywedodd:be sy'n bod ar eton?


cwestiwn digon teg....ysgol breifat 'di ysgol breifat, ag os o's gan myddyr a ffaddyr mbach mwy o bres mi yrran nhw'r plant i'r ysgol breifat ddryta. Dafydd Wigli a'th i Rydal ia? :seiclops:
Aelwyd yr Ynys
Clera - Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru

Sdwff ni a dim rhyw sothach ail-law Seisnig
Rhithffurf defnyddiwr
Tegwared ap Seion
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3443
Ymunwyd: Maw 22 Chw 2005 5:26 pm
Lleoliad: Môn

Re: Yr Etholiad Cyffredinol a phwy fydd yn ennill

Postiogan sian » Llun 05 Mai 2008 7:59 am

Muralitharan a ddywedodd:Fuost ti yno ne' rwbath?

Naddo, jest rownd Pen Llŷn mewn bws ac roedd e mewn un o'u hwylie od.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Yr Etholiad Cyffredinol a phwy fydd yn ennill

Postiogan huwwaters » Llun 05 Mai 2008 11:33 am

Tegwared ap Seion a ddywedodd:
dawncyfarwydd a ddywedodd:be sy'n bod ar eton?


cwestiwn digon teg....ysgol breifat 'di ysgol breifat, ag os o's gan myddyr a ffaddyr mbach mwy o bres mi yrran nhw'r plant i'r ysgol breifat ddryta. Dafydd Wigli a'th i Rydal ia? :seiclops:


Tydi Rydal Penrhos ddim yn yr un gynghrair ag Eton!
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Re: Yr Etholiad Cyffredinol a phwy fydd yn ennill

Postiogan dawncyfarwydd » Llun 05 Mai 2008 12:33 pm

Tegwared ap Seion a ddywedodd:
dawncyfarwydd a ddywedodd:be sy'n bod ar eton?


cwestiwn digon teg....ysgol breifat 'di ysgol breifat, ag os o's gan myddyr a ffaddyr mbach mwy o bres mi yrran nhw'r plant i'r ysgol breifat ddryta.
Cweit.

Mae Stephen Fry yn trafod y cwestiwn o ysgol breifat yn ei hunan-gofiant - be mae o'n ddeud yn y bôn ydi mai dyna sy'n digwydd yn naturiol mewn teuluoedd dosbarth canol-uwch. Does na'm byd yn bod ar y peth.

Yn bersonol dwi'n meddwl bod cwyno am y ffaith fod plaid asgell-dde draddodiadol foneddigaidd yn llawn pobl o gefndir breintiedig yn elitaidd a snobyddlyd ynddo'i hun. Mae'n hawdd bod yn inverted snob - os ydi'r bobl ora i redeg y wlad yn dod o gefndir ariannog wel so be it. (Nid bo fi'n awgrymu mai Toris Cameron ydi'r bobl ora, gas gen i nhw.) Fy hun swn i ddim yn meindio cael hanner y cabinet wedi bod yn Rhydychen.

Dwi jyst yn flin efo'r agwedd ma bod llwy aur yn golygu bod rhywun ddim yn gymwys i neud y job. Wrth gwrs bod angen balans o bobol sy'n gallu teimlo poen y bobol ac ati...ond fuodd hannar y cabinet cysgod ddim yn Eton, yn naddo.
Rhithffurf defnyddiwr
dawncyfarwydd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Iau 28 Ebr 2005 4:27 pm
Lleoliad: yn dal yma...

Re: Yr Etholiad Cyffredinol a phwy fydd yn ennill

Postiogan krustysnaks » Llun 05 Mai 2008 12:58 pm

Fasen i'n poeni mwy bod 24 dyn a dim ond 7 dynes a dim un person nad ŷnt yn wyn yn y Shadow Cabinet nac i ba ysgol fuon nhw...
Rhithffurf defnyddiwr
krustysnaks
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2967
Ymunwyd: Mer 14 Ebr 2004 8:05 pm
Lleoliad: yng nghôl J M Keynes

Re: Yr Etholiad Cyffredinol a phwy fydd yn ennill

Postiogan murray hewitt » Llun 05 Mai 2008 7:27 pm

Y broblam efo 'ysgolion preifat fatha eton ydi pan ma Cameron yn trio meddwl am aelod newydd i'w cabinet yn aml maen mynd i droi at un o'i hen fets o Eton, ac felly mae hi ma, 15 o'i shadow cabinet on "etonians". Gall hyn ddim bod un beth da, bod nifer helaeth o bobl all fod yn rhedag y wlad yn ddynion gwyn, o gefndiroedd cyfoethog sydd wedi mynd i eton ac wedyn ymlaen i Rydychen - lle oedd y Bullingdon dining club, y clwb ecsliwsif i bobl gyfoethog yn unig, roedd Caemron yn aelod a gesiwch pwy arall dim ond ei hen fets o eton Geroge osbourne a borris johnosn.
murray hewitt
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 50
Ymunwyd: Sad 09 Chw 2008 11:12 pm

Re: Yr Etholiad Cyffredinol a phwy fydd yn ennill

Postiogan Muralitharan » Llun 05 Mai 2008 9:46 pm

huwwaters a ddywedodd:Mae Stephen Fry yn trafod y cwestiwn o ysgol breifat yn ei hunan-gofiant - be mae o'n ddeud yn y bôn ydi mai dyna sy'n digwydd yn naturiol mewn teuluoedd dosbarth canol-uwch. Does na'm byd yn bod ar y peth.

Yn bersonol dwi'n meddwl bod cwyno am y ffaith fod plaid asgell-dde draddodiadol foneddigaidd yn llawn pobl o gefndir breintiedig yn elitaidd a snobyddlyd ynddo'i hun. Mae'n hawdd bod yn inverted snob - os ydi'r bobl ora i redeg y wlad yn dod o gefndir ariannog wel so be it. (Nid bo fi'n awgrymu mai Toris Cameron ydi'r bobl ora, gas gen i nhw.) Fy hun swn i ddim yn meindio cael hanner y cabinet wedi bod yn Rhydychen.

Dwi jyst yn flin efo'r agwedd ma bod llwy aur yn golygu bod rhywun ddim yn gymwys i neud y job. Wrth gwrs bod angen balans o bobol sy'n gallu teimlo poen y bobol ac ati...ond fuodd hannar y cabinet cysgod ddim yn Eton, yn naddo.


Ac os ydi Stephen Fry yn deud hynna mae o'n iawn ydi o?!
Dadl y bobl o'r dosbarth sy'n gyrru eu plant i ysgolion fel Eton fel arfer ydi son am 'inverted snobbery' - tydi'r ddadl honno ddim yn gwneud unrhyw synnwyr yn y ddadl hon. Mae'r syniad fod y bobl orau i redeg y wlad yn dod o blith beth bynnag ydi'r canran sy'n mynychu ysgolion preifat Prydain, heb son am y 0.000000...% o bologaeth Prydain sy'n mynd i Eton yn boncyrs!! Does neb nad ydyn nhw'n "gymwys i neud y job" - a dyna'r pwynt. Mae mwyafrif y boblogaeth yn cael cau allan gan griw bach o bobl o'r un cefndir, yr un dosbarth a'r un agweddau cymdeithasol a ddigwyddodd fynd i'r un ysgol/ysgolion.
A pham, Krustysnaks, yr wyt ti'n meddwl fod 24 dyn a 7 dynes yng nghabinet Cameron?
Diolch am yr ystadegau cywir Murray Hewitt.
Muralitharan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 174
Ymunwyd: Gwe 21 Rhag 2007 1:55 pm

Nesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 15 gwestai

cron