wy ddim yn credu fod posib cymharu Prifysgol Cymru ag Eton.
Un ysgol yn unig yw Eton ar un campws, sydd yn derbyn rhan helaethaf o'u myfyrwyr o gefndir arianog, ethnig, a gwleidyddol cyffredin.
Ma bydolwg disgyblion Eton yn debygol o fod yn hynod gyffredin. Rhaid ond edrych ar y rhestr o gynddisgyblion i gadarnhau hyn.
Dyna sy'n beryg am yr hyn y mae Cameron yn ei wneud. Sut mae disgwyl i Lywodraeth Prydain gynrychioli holl bobl Prydain os yw rhan helaeth o'r cabinet oll yn rhanu yr un cefndir a'r un bydolwg?
Dyw hyn ddim yn wir am Brifysgol Cymru - prifysgol Ffederal sydd a champws yn y dinasoedd a threfi, mewn ardaloedd trefol a gwledig, gyda myfyrwyr o'r bob cefndir ac o ar draws y byd.
Yn bersonol dwi'n meddwl bod cwyno am y ffaith fod plaid asgell-dde draddodiadol foneddigaidd yn llawn pobl o gefndir breintiedig yn elitaidd a snobyddlyd ynddo'i hun. Mae'n hawdd bod yn inverted snob - os ydi'r bobl ora i redeg y wlad yn dod o gefndir ariannog wel so be it. (Nid bo fi'n awgrymu mai Toris Cameron ydi'r bobl ora, gas gen i nhw.) Fy hun swn i ddim yn meindio cael hanner y cabinet wedi bod yn Rhydychen.
Dwi jyst yn flin efo'r agwedd ma bod llwy aur yn golygu bod rhywun ddim yn gymwys i neud y job
Eto, alla i ddim cytuno a hwn, oblegid mae'n rhaid gofyn y cwestwin 'Pam?' Pam fod dynion yn dueddol o gael ei dewis i fod yn wleidyddion? Pam fod pobl gwyn yn dueddol o gael eu dewis i fod yn wleidyddion? Pam fod pobl o gefndiroedd mwy breintiedig yn dueddol o gael eu dewis i fod yn wleidyddion? Pam fod pobl abl eu cyrff yn dueddol o gael eu dewis i fod yn wleidyddion? Hynny yw, pam mae dynion gwyn gefndir breintiedig abl eu cyrff yw mwyafrif ein gwleidyddion?
Dwi'n sicr ddim yn dweud fod llwy aur yn golygu nad yw rhywun yn gymwys i wneud y job. Ond gellir troi hynny ar ei phen. Mae'r drefn bresenol yn golygu nad yw pobl sydd wedi eu genu a llwy bren, neb heb lwy o gwbl yn gymwys i wneud y job, am nad ydyn nhw yn cael eu cynrychioli, i raddau helaeth, o fewn y system wleidyddol, yn enwedig y Toriaid. Ond rwy'n adnabod niferoedd o bobl o bob cefndir fyddai yn wleidyddion arbennig, ond nad yw'r drefn yn caniatau iddyn nhw i gael eu dewis - pam? naill ai o achos siofenistiaeth o ryw fath, hiliaeth isymwybodol, neu ryw ragfarn neu gilydd.
Does gan Eton ddim rhyw fformiwla addysgiadol arbennig sy'n cynhyrchu gwell gwleidyddion na unrhyw ysgol arall. Ond mae gan Eton lwyth o ddisgyblion o gefndiroedd cyfoethog sydd a chysylltiadau.
Yn syml, dyw'r drefn yma ddim yn mynd i newid heblaw fod camau yn cael eu cymryd i roi cyfle cyfartal i bawb.