Oes rhywrai wedi sylwi bod Tamsin Dunwoody - a gollodd sedd Preseli Penfro yn y Cynulliad i'r Torïaid yn 2007 - bellach yn ymgeisydd Llafur ar gyfer hen sedd ei mam Gwyneth Dunwoody, yn Crewe a Nantwich?
Mae ei hymosodiad hi ar yr ymgeisydd Ceidwadol yn beth i ryfeddu ato. Yn ôl y sôn, mae'r Tori ysgeler yn byw "in a BIG mansion house on the other side of Tarporley", ac y gwrthwynebu gorfodi tramorwyr gario cardiau adnabod, rhag ei gywilydd.