Tudalen 1 o 2

Tamsin Dunwoody yn ôl

PostioPostiwyd: Mer 14 Mai 2008 8:14 pm
gan Dili Minllyn
Oes rhywrai wedi sylwi bod Tamsin Dunwoody - a gollodd sedd Preseli Penfro yn y Cynulliad i'r Torïaid yn 2007 - bellach yn ymgeisydd Llafur ar gyfer hen sedd ei mam Gwyneth Dunwoody, yn Crewe a Nantwich?

Mae ei hymosodiad hi ar yr ymgeisydd Ceidwadol yn beth i ryfeddu ato. Yn ôl y sôn, mae'r Tori ysgeler yn byw "in a BIG mansion house on the other side of Tarporley", ac y gwrthwynebu gorfodi tramorwyr gario cardiau adnabod, rhag ei gywilydd.

Re: Tamsin Dunwoody yn ôl

PostioPostiwyd: Iau 15 Mai 2008 10:56 am
gan Rhods
Mae yn rhaid i fi ddweud bod gen i lot o barch tuag at Tamsin Dunwoody. Mae yn cymryd lot o gyts i be mae yn neud, sef ymladd hen sedd ei mam, yr aelod blaeonorol i'r ardal cyn iddi farw yn ddiweddar - p'run amser mae di cael i galaru ac ond wythnos diwethaf oedd yr angladd.

Ar y ru'n pryd, trueni a siomedig oedd darllen ei blog a gweld yr ymosodiadau personnol ar ei gwrthwynebydd o'r Blaid Geidwadol, mewn etholiad fydd y Blaid Lafur yn shwr o golli.

Re: Tamsin Dunwoody yn ôl

PostioPostiwyd: Iau 15 Mai 2008 12:35 pm
gan krustysnaks
Rhods a ddywedodd:Mae yn rhaid i fi ddweud bod gen i lot o barch tuag at Tamsin Dunwoody. Mae yn cymryd lot o gyts i be mae yn neud, sef ymladd hen sedd ei mam, yr aelod blaeonorol i'r ardal cyn iddi farw yn ddiweddar - p'run amser mae di cael i galaru ac ond wythnos diwethaf oedd yr angladd.

Dwi'n anghytuno.

Dwi'n meddwl bod Tamsin Dunwoody yn dwat ac yn exploitio enw da ei mam i ennill yr is-etholiad.

Re: Tamsin Dunwoody yn ôl

PostioPostiwyd: Iau 15 Mai 2008 1:15 pm
gan S.W.
Ers pryd mai di gollwng '-Kneefy' o'i chyfhenw?

Dwi'n credu gall hi gadw'r sedd yma drwy croen ei dannedd though.

Re: Tamsin Dunwoody yn ôl

PostioPostiwyd: Iau 15 Mai 2008 1:37 pm
gan Rhods
krustysnaks a ddywedodd:
Rhods a ddywedodd:Mae yn rhaid i fi ddweud bod gen i lot o barch tuag at Tamsin Dunwoody. Mae yn cymryd lot o gyts i be mae yn neud, sef ymladd hen sedd ei mam, yr aelod blaeonorol i'r ardal cyn iddi farw yn ddiweddar - p'run amser mae di cael i galaru ac ond wythnos diwethaf oedd yr angladd.

Dwi'n anghytuno.

Dwi'n meddwl bod Tamsin Dunwoody yn dwat ac yn exploitio enw da ei mam i ennill yr is-etholiad.


Wyt ti yn cymryd y piss neu beth? Ma hynny yn beth sic i ddweud. Ond be di pwynt trafod da ti os ti yn mynd i fod fel hyn? Cer i cymryd dy ddicter mas ar rhwybeth arall Krustysnacks

Re: Tamsin Dunwoody yn ôl

PostioPostiwyd: Iau 15 Mai 2008 2:09 pm
gan Ray Diota
S.W. a ddywedodd:Dwi'n credu gall hi gadw'r sedd yma drwy croen ei dannedd though.


digon o groen ar rheiny

Delwedd

erthygl yn G2 ddoe amdani, gyda llaw...

Re: Tamsin Dunwoody yn ôl

PostioPostiwyd: Iau 15 Mai 2008 2:23 pm
gan Griff-Waunfach
Rhods a ddywedodd:
krustysnaks a ddywedodd:
Rhods a ddywedodd:Mae yn rhaid i fi ddweud bod gen i lot o barch tuag at Tamsin Dunwoody. Mae yn cymryd lot o gyts i be mae yn neud, sef ymladd hen sedd ei mam, yr aelod blaeonorol i'r ardal cyn iddi farw yn ddiweddar - p'run amser mae di cael i galaru ac ond wythnos diwethaf oedd yr angladd.

Dwi'n anghytuno.

Dwi'n meddwl bod Tamsin Dunwoody yn dwat ac yn exploitio enw da ei mam i ennill yr is-etholiad.


Wyt ti yn cymryd y piss neu beth? Ma hynny yn beth sic i ddweud. Ond be di pwynt trafod da ti os ti yn mynd i fod fel hyn? Cer i cymryd dy ddicter mas ar rhwybeth arall Krustysnacks



Er tegwch rhods, dyna'n union beth mae Llafur yn ceisio wneud yna, defnyddio'i chyfenw (sy'n adnabyddus iawn yn yr ardal) er mwyn gwneud y gorau mas o'r sefyllfa. Duw a wyr pa rheswm arall bod Tamsin yn sefyll yn y sedd yna, siawns mae cyd-digwyddiad yw hyn!

Re: Tamsin Dunwoody yn ôl

PostioPostiwyd: Iau 15 Mai 2008 2:29 pm
gan Hogyn o Rachub
I fod yn deg dwi'n meddwl mai'r Blaid Lafur, yn hytrach na Tamsin Dunwoody ei hun, sy'n manteisio ar y ffaith ei bod yn ferch i'r cyn-AS, a'i fod braidd yn amlwg. Dwi'n siwr bod hi'n sefyll etholiad yn ddiffuant.

Re: Tamsin Dunwoody yn ôl

PostioPostiwyd: Iau 15 Mai 2008 2:33 pm
gan Rhods
Falle , ond ma galw hi yn 'twat' fel dywedodd Krusrtysnacks, er mwyn 'expolito'i' mam yn beth hollol warthus a ffiaidd i wneud. Falle bod llafur yn, ond yn sicr i ddweud bod Tamsin Dunwoody yn neud ni,(a galw hi yn 'twat') yn peth hollol outrageous i ddweud. Ma colli Mam (neu unrhyw bethynas agos)yn peth ofnadwy ac horrifying, ac i awgrymu bod Tamsin Dunwoody yn 'egsploito'' mam, yn hurt a does dim tystiolaeth o hwnna o gwbl - dim ond rhyw assumptions hollol lwdicrys.

Er, dwi dal yn anghytuno da be mae di neud ar ei blog o ran yn ymosod yn bersonnol ar ei gwrthwynebydd- ma hynny yn siomedig.

Byddai ennill y sedd yn dod a gwen i'n gwyneb ond tydi hwnna ddim yn mynd i feddwl bo fi yn mynd i ymosod ar Tasmin Dunwoody fel person, yn enwedig trwy son am marwolaeth ei mam - ma hynny yn out of order

Re: Tamsin Dunwoody yn ôl

PostioPostiwyd: Iau 15 Mai 2008 2:34 pm
gan Sleepflower
Mae enwau diflas ar bentrefi'r Etholaeth, yn wes e -

Crewe and Nantwich Constituency Labour Party - covering Acton, Alexandra, Audlem, Barony Weaver, Birchin, Coppenhall, Delamere, Englesea, Grosvenor, Haslington, Leighton, Maw Green, Shavington, St Barnabas, St Johns, St Marys, Valley, Waldron, Wellington, Wells Green, Willaston, Wistaston Green, Wybunbury

(Gweler fy ffefrits mewn bold)