Tudalen 2 o 2

Re: Tamsin Dunwoody yn ôl

PostioPostiwyd: Iau 15 Mai 2008 2:36 pm
gan Ray Diota
Barony Weaver
:lol:

Shavington! :lol: :lol:

Re: Tamsin Dunwoody yn ôl

PostioPostiwyd: Iau 15 Mai 2008 3:53 pm
gan Muralitharan
Diolch am ein hatgoffa Rhods fod bod yn Dori neu'n Llafurwr neu'n Ffib Dem yn golygu fod yn rhaid i chi boeni am is-etholiadau mewn llefydd fel Crewe ym mherfeddion Lloegr ...

Re: Tamsin Dunwoody yn ôl

PostioPostiwyd: Iau 15 Mai 2008 7:18 pm
gan krustysnaks
Dwi'n meddwl bod cynnwys gwefan Tamsin Dunwoody yn hen ddigon o dystiolaeth i'w galw hi'n dwat.

Nid fi'n unig sy'n meddwl ei bod hi / y Blaid Lafur yn exploitio enw da ei mam, e.e
John Harris yn y Guardian heddiw a ddywedodd:With all that in mind, the essential Labour strategy is clear enough: not to concentrate on anything progressive or inspiring but to run instead on a mixture of the Dunwoody bloodline, utterly witless class warfare, and the politics of fear.

Re: Tamsin Dunwoody yn ôl

PostioPostiwyd: Iau 15 Mai 2008 7:55 pm
gan Dili Minllyn
O safbwynt rhesymegol, mae nifer o'i datganiadau hi yn weddol ddisytyr: one of us; she's a Dunwoody. Os yw hi'n un "ohonom ni", pwy yn union ydym ni, a pwy syd tu fas i'r gorlan? Ydy, mae hi'n dod o'r teulu Dunwoody, ond mae cryn amrywiaeth mewn teuluoedd, ac mae eisiau barnu gwleidyddion yn ôl eu rhinweddau unigol. Er hynny, tasen ni'n gwahardd gwleidyddion rhag datagniadau disytyr, mi fasai ein bywyd cyhoeddus yn dawel iawn. Erbyn meddwl, efallai na fyddai'r fath waharddiad yn syniad mor wael wedi'r cyfan. :syniad: :winc:

John Harris yn y Guardian heddiw a ddywedodd:utterly witless class warfare, and the politics of fear.

Dyma wreiddyn y mater, dwi'n meddwl. Peth rhyfeddol i mi yw bod Llafur yn ceisio troi at rethreg y rhyfel dosbarth - a hynny mewn ffordd go amrwd - wedi blynyddoedd o geisio ymbellhau oddi wrth y fath syniadaeth.

Re: Tamsin Dunwoody yn ôl

PostioPostiwyd: Gwe 16 Mai 2008 5:12 pm
gan Cwlcymro
Dwi newydd sylwi mod i'n nabod Ed Timpson y Tori Toff. Oni di sbotio'r enw ond heb neud y cysylltiad. Ma'n foi digon neis chwara teg - er fod on Dori!

Re: Tamsin Dunwoody yn ôl

PostioPostiwyd: Sad 24 Mai 2008 5:45 pm
gan Dili Minllyn
Fel sy'n amlwg erbyn hyn, methiant llwyr oedd ymgyrch negyddol Llafur yn yr is-etholiad; er, mae'n debyg, mai penderfyniad y Canghellor i ddileu'r gyfradd dreth 10% a roddodd yr ergyd farwol i obeithion Ms Dunwoody.

Re: Tamsin Dunwoody yn ôl

PostioPostiwyd: Sul 25 Mai 2008 8:31 pm
gan LLewMawr
Mae'r Tories yn mynd i ennill yn 2010, sdim lot mae gall Llafur wneud. efallai bydd hyn yn cynyddu cefnogaeth ar gyfer datganoli yng Nghymru.