Prydain Police State: cynlluniau diweddara'r wladwriaeth

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Prydain Police State: cynlluniau diweddara'r wladwriaeth

Postiogan Prysor » Iau 22 Mai 2008 1:47 pm

Mae'r wladwriaeth Brydeinig dan Lafur eisoes yn cadw mwy o wybodaeth personol am ei dinasyddion nag oedd y Stasi yn Nwyrain yr Almaen gomiwnyddol.

Nawr mae nhw am am wneud hyn.

Deffrwch pawb!
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: Prydain Police State: cynlluniau diweddara'r wladwriaeth

Postiogan huwwaters » Iau 22 Mai 2008 2:11 pm

Gwarth, ydi, o feddwl pam bod nhw angen y fath wybodaeth? Os am ddefnyddio "i ymladd yn erbyn terfysgwyr", be am ymladd gwraidd terfysgiaeth ac yn lle aros am gynlluniau o fomio rywle, beth am atal pobol rhag feddwl am y pethe'n y lle cyntaf? O ystyried llwyddiant y llywodraeth i golli manylion pobol gall hyn fod yn beth andros o beryglus. Ryw ffwl yn cael gafael ar transcript o'ch sgyrsiau ffôn ac ebost. Mae'r ffaith fod y Gymraeg yn iaith leiafrifol o fudd i ni.

Os fydd hyn yn digwydd fydd ne lwyth o 'hackers/crackers/geeks' yn siwr o weithio ar systemau encryption etc. felly fydd yn diddorol gweld ymateb nhw.

Fel darllenais yn rywle, y ffordd orau yw cadw'r llywodraeth mor fach a phosib, ene mae'n anodd i nhw neud unrhyw beth yn eich herbyn.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Re: Prydain Police State: cynlluniau diweddara'r wladwriaeth

Postiogan Hogyn o Rachub » Iau 22 Mai 2008 2:22 pm

P'un bynnag, pwy fath o derfysgwr sy'n ddigon thick i e-bostio'i blans i'w hotmail? :rolio:
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Prydain Police State: cynlluniau diweddara'r wladwriaeth

Postiogan Prysor » Iau 22 Mai 2008 2:34 pm

Esgus ydi'r 'terrorist threat'. Fel yn yr UDA.
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: Prydain Police State: cynlluniau diweddara'r wladwriaeth

Postiogan Hogyn o Rachub » Iau 22 Mai 2008 2:47 pm

Ia, dw i'n dallt hynny (licio dweud fy nweud dwi) ond be'n union ydi'r actiwal diben ond am fusnesu? A fyddan nhw'n gallu mynd drwy hotmail fi a gweld be dwi'n ddeud i Lowri Dwd pan dwi'n bôrd yn gwaith math o beth?

Be ydi'r pwynt? Dio jyst ddim yn neud fawr o synnwyr i fi pam y byddai'r Llywodraeth isio'r wybodaeth, na beth y byddai'n gallu gwneud efo hi.

(Ond, fel chdi dwi'n siwr, dwi'n teimlo'n ofnadwy o anesmwyth am y peth)
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Prydain Police State: cynlluniau diweddara'r wladwriaeth

Postiogan Prysor » Iau 22 Mai 2008 2:55 pm

Yn syml, cadw tabs. Fydd dim posib trefnu protest na digwyddiad heb iddyn nhw wybod. Bydd pob gweithredwr o bob mudiad a chymdeithas yn y wlad yn cael ei fonitro.

Ymhellach, os fydd dy ymgyrch yn datblygu'n boblogaidd ac yn bygwth gorfodi'r llywodraeth i bac-tracio ar rhyw gynlluniau arfaethedig, mi ddefnyddian nhw dy ddiddordebau personol, a dy gysylltiadau efo unigolion, i dy danseilio, dy smeario, dy flaclistio etc etc etc.
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: Prydain Police State: cynlluniau diweddara'r wladwriaeth

Postiogan Chickenfoot » Iau 22 Mai 2008 4:34 pm

Dw i'm yn meddwl bod gennym unrhyw beth i boenu amdano. Os nad ydych yn gwneud unrhyw beth o'i le, 'sgen ti ddim byd i'w ofnu. Wel, 'sgen i'm byd i'w ofnu beth bynnag; I'm a nothing felly dw i'm yn meddwl fydd Gordon Brown yn gwneud pethau drwg hefo'n wybodaeth personol. #

OR MAYBE THAT'S WHAT THEY WANT ME TO BELIEVE!

"Chubby, 28 year old geek from Wales posting stuff on Maes-e that practically no one of sound mind agreees with? TAKE 'IM DOWN, DEREK!"
Ra Ra Rasputin loved to play the slot machines! - Boney M
Rhithffurf defnyddiwr
Chickenfoot
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 754
Ymunwyd: Gwe 22 Chw 2008 5:38 am
Lleoliad: Morffer Buck-un

Re: Prydain Police State: cynlluniau diweddara'r wladwriaeth

Postiogan Prysor » Iau 22 Mai 2008 4:52 pm

Dyna'n union fydd eu dadl, a dim ond idiots sy'n mynd i'w llyncu.

Wyt ti'n meddwl fod o'n iawn, mewn gwlad rydd (a byd rhydd, i fod!), democrataidd, i lywodraeth wybod pob peth mae ei dinasyddion yn ei wneud, pob person ti'n ffonio ac ebostio, pob safle wê ti'n ymweld a, a gwybod be ydi dy symudiadau, diddordebau, dy ffrindiau, dy gydnebyd, pa ffilmiau ti'n watsiad, pa lyfrau ti'n ddarllan, pob man ti'n ymweld (camerau, CCTV), pa afiechydon sydd gennyt, pa ffordd ti'n bwriadu pleidleisio, pa sianeli teledu ti'n wylio, pa gar ti'n ddreifio, pa siopau ti'n siopa ynddynt?

A dim jesd gwybod hynny ar y funud, ond gallu cadw record o'r holl bethau hyn dros y blynyddoedd blaenorol? Darlun cyflawn o dy bersonoliaeth.

Mae miliynnau o bobol wedi marw oherwydd y math hyn o beth, a miliynnau wedi marw wrth ei ymladd, er mwyn i ti gael y rhyddid i ddod ar maes-e a taflu fflipant remarks am bob peth lici di.

More fool you.

(A dwi'n gwbo fod ti'n hanner jocian. Ond mae hwn yn fatar difrifol, os ti ddim yn mindio.)

(sori i swnio fel hedmastyr! :wps: )
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: Prydain Police State: cynlluniau diweddara'r wladwriaeth

Postiogan huwwaters » Iau 22 Mai 2008 6:21 pm

Un scenario oedd nath ryw wraig cael ei stopio'n ngogledd Cymru gan yr heddlu, gan eu bod yn mynnu ei bod hi ddim efo yswiriant na treth. Nath nhw cymyd ei char hi, a'i gadael yn yr un lle gan wneud iddi hi ffindio ffordd ei hun adre. Trodd allan fod y wraig ma WEDI talu am yswiriant a'i threth, a fod y cofnodion yn anghywir.

Rhaid cofio fod llywodraeth yn cael ei redeg gan bobol. Tydio ddim yn gorff goruwchnaturiol - mae'n cael ei redeg gan bobol sydd efo agendâu eu hunain.

Ysytriwch Boris Johnson rwan a'i griw o Etonians. Dweda os byse fo yn rhedeg y wlad, a bod ryw ffrind o Eton yn priof weithredwr dros gwmni. Y ffordd mae gwleidyddwyr yn ymddwyn, byse ddim lot yn atal y prif weithredwr ne ffindio allan dy hanes.

Be dwi'n ofni yw gan fod chi'n gallu cael eich carcharu am gyfnod heb brawf, a byse'r llywodraeth yn gweld bod chi'n neud rhywbeth tydyn nhw ddim yn licio, byddwch yn ffindio'ch hun wedi'ch carcharu am ddim rheswm.

Be os byse'r rheolau ma'n bodoli rwan, a Gordon Brown ddim yn hoff iawn o chi'n mynd o gwmpas yn deud wrth pawb am ei gynllun treth 10 ceiniog. Dim i stopio ei lywodraeth rhag neud rwbeth. Neu be am y teulu ne oedd o dan oruwchwyliad gan y cyngor lleol achos eu bod isio eu plentyn i fynd i'r ysgol lleol - oedd y cyngor isio profi os oedden nhw wirioneddol yn byw yn nalgyclh yr ysgol,ond eto roedd transcripts o sgyrsiau ffôn, dilyn mewn car etc.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Re: Prydain Police State: cynlluniau diweddara'r wladwriaeth

Postiogan Prysor » Iau 22 Mai 2008 9:16 pm

mae'n bwysig ystyried y pethau yma yng nghyd-destun deddfau eraill sydd/sy'n cael eu pasio/ystyried

Law yn llaw a'r cynllun yma, mae trosedd newydd o "annog terfysgaeth" wedi ei phasio, ac sydd yn gyfraith rwan. Mae hefyd yn gyfreithlon nawr i garcharu am 28 diwrnod heb gyhuddiad. Hynny yw, mae nhw'n gallu eich arestio ar amheuaeth, a'ch cadw i mewn tra mae nhw'n chwilio am dystiolaeth (ffordd dda o gael rhywun o'r ffordd am sbelan, dydi?). Os nad yw'r tystiolaeth yno yn y lle cyntaf, be di'r rheswm dros arestio? Hearsay? Sibrydion maleisus? Camgymeriad? Celwyddau gan y gwasanaethau cudd? Mae nhw'n pleidleisio cyn hir ar godi'r cyfnod yma i 42 diwrnod (methodd cynnig Tony Blair i'w godi i 3 mis tua dwy flynedd yn ôl).

O ystyried y tri datblygiad yma - carcharu heb gyhuddiad, trosedd 'annog terfysgaeth', a cadw record o bob galwad ffon ac ebost - cysidrwch y senario canlynol:-

Da chi'n cyfnewid ebyst efo ffrind sydd wedi symud i ochr arall y byd. Mae'r ffrind yn son am drio dod yn ol yma, efo'i deulu i fyw, ac yn holi am brisiau tai. Rydych yn adrodd eu bod tu hwnt i bob cyrraedd. Rydych yn mynd ymhellach a deud mai Saeson sy'n prynnu'r rhan fwyaf rownd lle chi. Mae'ch ffrind yn deud rwbath i'r perwyl fod hynny'n drist neu'n anheg.

Hyd yn hyn, rwyt wedi dangos dy fod yn berson sy'n credu fod Cymry'n cael bum deal, ond mae'r sgwrs yn mynd ymlaen. Mae'r ffrind yn son am rywbeth ddarllenodd o ar wefan Cymry'r Byd - Saeson mewn rhyw dref isio adeiladu marina ac yn diawlio polisi iaith cyngor Gwynedd. Ti wedi cael can o lager neu wydriad o win, a ti'n gyrru negas yn ôl, yn jocian "mae nhw'n uchal eu cloch y dyddia yma, fysan nhw'm yn dêrio deud y ffasiwn betha pan oedd y Meibion wrthi haha!"

Mae hynna'n ddigon. Ar y gorau, ti wedi dangos dy fod yn 'gefnogol i ddulliau tor-cyfraith' a dy fod yn credu fod 'Saeson yn haeddu eu targedu'. Ar y gwaethaf - a gall unrhyw fargyfreithiwr sbinio hon - ti wedi 'annog terfysgaeth' yn ôl y ddeddf. Os ti'n berson cyffredin, meindio'i fusnas, dim byd i guddio - ti rwan yn rywun y dylid ei wylio. Os ti'n berson mae nhw isio cael gwarad ohono (ti'n weithredwr gwrth-gyfalafiaeth neu'n ymgyrchydd iaith) mae hynna'n ddigon i dy roi yn y carchar tra mae'r heddlu yn 'chwilio am dystiolaeth'.

OK - senario cymharol eithafol yw hynna, efallai. Ond os ydi'r gyfraith yn caniatau i'r senario eithaf ddigwydd, yna mae'r gyfraith yn anghywir, anghyfiawn ac anfoesol. Ymhellach, os ydi'r llywodraeth yn pasio set o gyfreithiau sydd yn caniatau i'r senario eithaf i ddigwydd, yna mae nhw'n barod, ac yn bwriadu, ei ddefnyddio.
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Nesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron