Down by the glenside I met an old woman
A picking young nettles, nor saw I was coming.
I listened a while to the song she was humming -
"Glory o! Glory o! to the bold Fenian men!"
'Twas down by the glen one Easter morn to a city fair rode I.
There Ireland's lines of marching men in squadrons passed me by.
No pipe did hum, and no battle drum did sound it's loud tattoo,
But the Angelus bell o'er the Liffey's swell rang out though the foggy dew."
Wel, rydw i wedi perfformio'r caneuon 'ma yn bur aml dros y bynyddoedd - ac eraill o'r un fath. Yn ddiamau maen nhw'n "annog terfysgaeth". Mae mab i wedi dysgu - yn yr ysgol! - y gan "Flower of Scotland", sy'n annog, os na terfysgaeth, yna gwrth-Brydeindod o ryw fath. Oes na neb yma sy wedi canu pethau am "gwrol wladgarwyr, rhyfelwyr tra mad" sy wedi cael eu lladd oherwydd eu terfysgaeth yn erbyn Y Drefn?
Wrth gwrs, mae'r pethau 'ma yn hanesyddol, felly mae'n OK i son amdanyn nhw heb gael restio. Ond rhaid cofio, yr hwn/hon sy'n derfysgydd heddiw ddaw yn arweinydd gwlad yfory. Try terfysgyddion yn ferthyron ac yn arwyr. Hen drefn Ewrop - Yr Eglwys - wedi ei seilio mewn terfysgaeth yn erbyn y drefn hyn. Plus ca change ac ati.
Police state, yn waeth na'r Stasi. 'Swn i'n synnu onid waeth yr Almaen heddiw nac yr oedd cyn yr unoleiddio. Ond nid o ran be sy'n digwydd. Fel yn Mhrydain, 'does 'na ddim lot o garcharorion gwleidyddol (ar wahan i'r rhai sy'n ymaros allforio, o, ac efallai'r rhai sy'n methu fforddio byw heb ladrata, o, ac efallai'r rhai sy wedi bod yn godro'r sustem benefits...o wel, mae'n dibynnu ar sut dych chi'n disgrifio "carcharor gwleidyddol"). Ond o ran gwybodaeth. Rydym ni i gyd yn poblogeiddio lliaws bas-data swyddogol. Mae fel y Roeg Hynafol - os tisho gwybod rhywbeth am rywun, gofyn i'r Oracle...(sustem bas-data perthnasol anferth).
Faint o broblem sydd? Yn y "ddwylo anghywir", bydd problem. Ond rhaid cofio fod, i'r terfysgydd, y ddwylo bresennol sy "anghywir". O beli bychain, maen nhw'n dynesu nhy rwan - cyfrifiadur yffarn wedi cael ei hackio - diwedd ein cymdeithas, diwedd, diwedd pob da...NI-NO-NI-NO....wAwAwAwAw....na, 'sai hynny'n dwp iawn petasen nhw'n ei wneud.