Carcharu heb achos am 42 diwrnod

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Carcharu heb achos am 42 diwrnod

Postiogan Cardi Bach » Maw 03 Meh 2008 8:35 pm

Arwyddwch y ddeiseb yn erbyn cynlluniau'r llywodraeth i garcharu pobl heb ddwyn achos yn eu herbyn am 42 diwrnod yma

Mwy o wybodaeth yma.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Re: Carcharu heb achos am 42 diwrnod

Postiogan Dylan » Iau 12 Meh 2008 12:48 am

on i'n hanner gobeithiol y byddai'r "na" yn ennill tan iddi ddod i'r amlwg fd Brown wedi llwyddo i brynu'r DUP. Siomedig.

dyma'r 36 aelod Llafur a bleidleisiodd "na":

Diane Abbott
Richard Burden
Katy Clark
Harry Cohen
Frank Cook
Jeremy Corbyn
Jim Cousins
Andrew Dismore
Frank Dobson
David Drew
Paul Farrelly
Mark Fisher
Paul Flynn
Neil Gerrard
Ian Gibson
Roger Godsiff
John Grogan
Dai Havard
Kate Hoey
Kelvin Hopkins
Glenda Jackson
Lynne Jones
Peter Kilfoyle
Andrew MacKinlay
Bob Marshall-Andrews
John McDonnell
Michael Meacher
Julie Morgan
Chris Mullin
Douglas Naysmith
Gordon Prentice
Linda Riordan
Alan Simpson
Emily Thornberry
David Winnick
Mike Wood

mae 'na brinder erchyll o aelodau Cymreig yn y rhestr yna. Ych a fi.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Re: Carcharu heb achos am 42 diwrnod

Postiogan Prysor » Iau 12 Meh 2008 9:45 am

enillwyd y bleidlais oherwydd prynwyd pleidleisiau'r 9 AS DUP.

Llusgwyd AS'au Llafur o'u gwyliau, o'u gwlau ysbyty, o'u galar (roedd un newydd golli'i wraig) i bleidleisio. Prynwyd pleidleisiau llawer trwy addo pob mathau o bethau, fel gwanhau sancsiynau yn erbyn Cuba, mwy o arian i achosion penodol y mae gwahanol AS'au yn ymgyrchu drostynt, ac ati... Dywedodd un AS y byddai, pe byddai isio, wedi gallu cael 2 bont newydd wedi'u hadeiladu dros y Thames, dim ond iddo glicio'i fysedd!!!

A'r cwbwl mewn ymgais i achub croen Gordon Brown.

Dyna i chi ddemocratiaeth wrth waith!

Ond yr hyn sy'n fy mhoeni fi ydi, os llwyddodd Llafur a'r prif wrth-bleidiau i lusgo'u haelodau i'r Tŷ i bleidleisio, be oedd hanes y pleidiau llai? Enillodd Gordon Shitboy ei bleidlais o 9 pleidlais. 615 i 606. Mae 647 o aelodau yn Nhŷ'r Cyffredin. Mae 26 ar goll. Pwy oeddan nhw? Cwpwl o fois Sinn Fein, sydd ddim yn eistedd, efallai, ond pwy oedd y lleill? Oes rhywun yn gwybod os cafodd aelodau Plaid Cymru eu chwipio?
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: Carcharu heb achos am 42 diwrnod

Postiogan Hogyn o Rachub » Iau 12 Meh 2008 9:55 am

Dwi'n gwybod ddaru aelodau Plaid Cymru (a'r SNP) bleidleisio yn erbyn de.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Carcharu heb achos am 42 diwrnod

Postiogan Prysor » Iau 12 Meh 2008 10:15 am

Hogyn o Rachub a ddywedodd:Dwi'n gwybod ddaru aelodau Plaid Cymru (a'r SNP) bleidleisio yn erbyn de.


oeddan nhw i gyd yn bresennol, ta?
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: Carcharu heb achos am 42 diwrnod

Postiogan Hogyn o Rachub » Iau 12 Meh 2008 10:25 am

Oeddan
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Carcharu heb achos am 42 diwrnod

Postiogan mabon-gwent » Iau 12 Meh 2008 8:01 pm

Ydy Mr Brown eisiau colli ei swydd? Mae'n neud uffern o gais.

Dylai plaid llafur bod ar asgell y dde, ond gwelwch chi esiampl Mussolini.

Pryd fydd yr Emergency Laws yn dod? Fel Eidal neu Almaen y Ffascistiaid?
Rhithffurf defnyddiwr
mabon-gwent
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 111
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2008 4:00 am

Re: Carcharu heb achos am 42 diwrnod

Postiogan Cwlcymro » Iau 19 Meh 2008 1:29 pm

Prysor a ddywedodd:Ond yr hyn sy'n fy mhoeni fi ydi, os llwyddodd Llafur a'r prif wrth-bleidiau i lusgo'u haelodau i'r Tŷ i bleidleisio, be oedd hanes y pleidiau llai? Enillodd Gordon Shitboy ei bleidlais o 9 pleidlais. 615 i 606. Mae 647 o aelodau yn Nhŷ'r Cyffredin. Mae 26 ar goll. Pwy oeddan nhw? Cwpwl o fois Sinn Fein, sydd ddim yn eistedd, efallai, ond pwy oedd y lleill? Oes rhywun yn gwybod os cafodd aelodau Plaid Cymru eu chwipio?


Dwi di ffendio 23 ohonu nhw, dwnim am y 3 arall...

Llafur heb bledleisio - 10

Charlotte Atkins
Karen Buck
Martin Caton
Bill Etherington
David Marshall
Edward O'Hara
Nick Raynsford
Mark Todd
Paul Truswell
Rudi Vis

Llafur cerded i'r ddau lobi (!) - 1 (David Taylor)

Toriaid heb bledleisio - 12

John Bercow
Michael Fallon


Sinn Fein ddim yn eistedd- 5

Y llefarydd a'i ddirprwyon ddim yn gallu pledleisio - 4

Sedd wag (Boris ia?) - 1

Mi bledleisiodd pob Dem Rhydd, pob Plaid, pob SNP, pob UUP, pob Annibynol, pob SDLP ac yr unigolion o UKIP, UU a Respect
Mi waneth Dai Davies Llais y Bobl bledleisio efo'r llywodraeth, a Ann Widdecombe o'r Toriaid
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon


Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron