Carcharu heb achos am 42 diwrnod
Postiwyd: Maw 03 Meh 2008 8:35 pm
Hogyn o Rachub a ddywedodd:Dwi'n gwybod ddaru aelodau Plaid Cymru (a'r SNP) bleidleisio yn erbyn de.
Prysor a ddywedodd:Ond yr hyn sy'n fy mhoeni fi ydi, os llwyddodd Llafur a'r prif wrth-bleidiau i lusgo'u haelodau i'r Tŷ i bleidleisio, be oedd hanes y pleidiau llai? Enillodd Gordon Shitboy ei bleidlais o 9 pleidlais. 615 i 606. Mae 647 o aelodau yn Nhŷ'r Cyffredin. Mae 26 ar goll. Pwy oeddan nhw? Cwpwl o fois Sinn Fein, sydd ddim yn eistedd, efallai, ond pwy oedd y lleill? Oes rhywun yn gwybod os cafodd aelodau Plaid Cymru eu chwipio?