Prydeinig = Seisnig?

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Prydeinig = Seisnig?

Postiogan huwwaters » Sul 08 Meh 2008 4:22 pm

Un peth dwi di meddwl amdano, a mewn dull profi trwy gwrthddweud (proof through contradiction) yw nad yw'r sefydliad Prydeinig na Gordon Brown wedi meiddio ceisio tynnu unrhyw bethau Cymraeg o dan yr ymarel "Prydain". Trwy wneud hyn mae'n sefydlu, Prydeinllyd = Seisnig.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Re: Prydeinig = Seisnig?

Postiogan Muralitharan » Sul 08 Meh 2008 5:49 pm

Sori, ond a oes unrhyw un yn deall y gosodiad uchod?
Muralitharan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 174
Ymunwyd: Gwe 21 Rhag 2007 1:55 pm

Re: Prydeinig = Seisnig?

Postiogan dawncyfarwydd » Sul 08 Meh 2008 6:00 pm

Wel am fod [Gwledydd] Prydain fod yn uniad o wledydd, mae Prydeindod yn uniad o ddiwylliannau ac felly sa chdi'n disgwl i draddodiadau pob rhan o'r wlad gael sylw. Ond dim ond at ddiwylliant Seisnigaidd y mae cyfeirio mewn gwirionedd. Ar y mwyaf mae Cymru'n dod hefo'r ethnicities y mae Prydeindod yn eu croesawu ac yn eu dathlu, syposedli. So dwi'n meddwl bod Huw yn iawn. Dwi'n gyffredinol hoff o Gordon, ond mae o'n siarad bwlshit pan mae o'n son am hyn. Mae o'n gwthio darlun ffals o rywbeth sy'n hanfodol ffals.
Rhithffurf defnyddiwr
dawncyfarwydd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Iau 28 Ebr 2005 4:27 pm
Lleoliad: yn dal yma...

Re: Prydeinig = Seisnig?

Postiogan Mr Gasyth » Sul 08 Meh 2008 7:12 pm

Muralitharan a ddywedodd:Sori, ond a oes unrhyw un yn deall y gosodiad uchod?


dwi ddim
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Re: Prydeinig = Seisnig?

Postiogan huwwaters » Llun 09 Meh 2008 12:27 am

Mr Gasyth a ddywedodd:
Muralitharan a ddywedodd:Sori, ond a oes unrhyw un yn deall y gosodiad uchod?


dwi ddim


Y ffaith nad yw'r ymbarel "Prydeinig" yn ystyried digwyddiadau fel yr Eisteddfod Genedlaethol, yr Urdd, Merched y Wawr a be bynnag arall fel pethau Prydeinig, felly mae ond un dewis ar ôl. Gan nad yw pethau Cymraeg yn bethau Prydeinig, a'r un peth am bethau Goideleg (Yr Alban), felly dim ond pethau Saesneg sydd ar ôl, a rheiny yn bethau Seisnig.

Pryd wnes di clywed am Great Britons fel O. M. Edwards, neu great British Culture fel yr Eisteddfod gan y Daily Mail?

Felly:

Prydeinig = Seisnig
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Re: Prydeinig = Seisnig?

Postiogan Seonaidh/Sioni » Llun 09 Meh 2008 8:48 pm

Dych chi'n gweld hyn mewn sbort. Er enghraifft, pan fydd rhywun o'r Alban, neu o Gymru, yn gwneud yn dda mewn rhyw gystadleuaeth ryngwladol, dych chi'n clywed am "so-and-so for Britain...". Ond os bydd iddyn nhw fethu, dych chi'n clywed am "so-and-so from Scotland/Wales". Hyd yn oed os byddan nhw o Loegr, bydd rhyw gais am eu portreadu fel "from Manchester", "from Birmingham", beth bynnag. Dw i ddim yn credu mai Lloegr ydy'r broblem, neu hyd yn oed y Lloegrwys sy'n byw yno. Canoleiddio'r ydy'r broblem - ac mae hynny yn golygu pethau fel "wogs begin at Watford" (hen ddihareb D-DDn. Lloegr).
Y Daily Mail? Fel arfer, os bydd y rag'na yn cefnogi rhywbeth, mae'n werth ei wrthsefyll.
Am yr Eisteddfod ac ati, dydw i ddim yn cofio (efallai mod i heb gofio...) dim gwyl lenyddol/ieithegol sy'n digwydd yn Lloegr sy o dan yr "ymbarel Prydeinig" chwaith. Mewn gwirionedd, roeddwn i'n meddwl bod "Prydeindod" yn golygu chwarae teg, pawb yn gwneud beth maen nhw eisiau, croeso i'r estron, heb fod yn or-falch am eich gwlad na'i sumbolau ac ati. Ond rwan beth sy'n bod? Mae na ryw prats yn ceisio seilio "Prydeindod" ar "US-dod", efo'r holl chwifio baneri, canu anthemau, cymryd llu - dyna'n union y pethau sydd, i finnau, yn cynrychioli gwrth-Brydeindod. Mae'n hollol groes i bopeth sy'n dda yn yr ynysoedd hynny. A fydd rhaid i ninnau golli gwaed dros ryddid?
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Prydeinig = Seisnig?

Postiogan Hen Rech Flin » Maw 10 Meh 2008 4:09 am

Muralitharan a ddywedodd:Sori, ond a oes unrhyw un yn deall y gosodiad uchod?



Rwy’n ddeall yn iawn be mae Huw yn ceisio dweud.

I nifer does dim gwahaniaeth rhwng ystyr y gair Prydain ag ystyr y gair Lloegr.

Lle mae'r Amgueddfa Genedlaethol? Yr Oriel Genedlaethol, a'r Gerddi Botaneg Genedlaethol? Os wyt yn ateb yng Nghaerdydd, Bodelwyddan a Llanarthne, yr wyt yn anghywir! Pethau Cenedlaethol Cymru yw'r rhain, nid cenedlaethol heb angen enw'r genedl ar eu hol.

Mae 'na gerddi botaneg cenedlaethol yng Nghymru, yr Alban a Lloegr. Ond gan fod yr un yn Lloegr yn un "Cenedlaethol Prydeinig", mae ei gostau yn cael ei gynnal trwy Brydain oll, dydy'r costau ddim yn cael ei weithio i mewn i fformiwla Barnett. Felly mae talu'r gost am ardd fotaneg "Cenedlaethol" yn syrthio ddwywaith ar y Cymro rydym yn talu am ardd Cymru ac am ardd Lloegr (sori Prydain).

A dyma wendid nifer o'r cwynion syrffedus sydd ar sylwadau ar lein erthyglau sy'n ymddangos ym mhapurau Llundain sy'n cwyno am y Cymry a'r Sgotiaid yn godro Lloegr. Dydy'r Saeson ddim yn deall faint da ni ar ein colled o orfod talu am bethau "Cenedlaethol Prydeinig " sydd, mewn gwirionedd yn genedlaethol Seisnig!
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Re: Prydeinig = Seisnig?

Postiogan Cwlcymro » Maw 10 Meh 2008 9:18 am

Dyma be ma huwaters yn feddwl (dwi'n meddwl!)

Mi wnaeth YoGov bol rhyw ddeufis nol am be ma Saeson yn ei weld fel petha sy'n diffinio Lloegr. Y deg uchaf oedd...

Y Frenhines
Fish 'N Chips
Shakespere
Roast Beef
Cricket
Bitter (peint lly!)
Red Rose
Cream Teas
Stately Homes
Imperial Past

Os fysa nhw'n neud pol am be ma Prydeinwyr yn ei weld fel pethau sy'n diffinio Prydain, mi fysa fo bron yr union rhyn rhestr (heb y Rhosyn).
Ma diwilliant Cymru yn cael ei weld fel diwilliant Cymru (e.e. eisteddfod, cerdd dant), ma diwilliant Alban yn cael ei weld fel diwilliant Alban (kilt, haggis), diwilliant gogledd werddon fel diwilliant gogledd iwerddon/iwerddon.

Ond pan ma pobl yn medwl am ddiwilliant Prydain, mond diwilliant Lleogr ma nhw yn ei feddwl am.
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Re: Prydeinig = Seisnig?

Postiogan Muralitharan » Maw 10 Meh 2008 10:05 am

Tydw i ddim yn siwr a ydi hyn yn gwbl fwriadol cofiwch - tydi eiconau Cymraeg/Cymreig fel y Steddfod ddim hyd yn oed yn ymddangos ar radar (y Sgotyn)Gordon Brown na'i gyfeillion.

Oes rhywun wedi sylwi sut mae Steve Rider yn cyfeirio at Loegr (nad ydyn nhw yn ym Mhencampwriaeth Ewrop) fel 'we' yn gwbl ddigywilydd?
Muralitharan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 174
Ymunwyd: Gwe 21 Rhag 2007 1:55 pm

Re: Prydeinig = Seisnig?

Postiogan mabon-gwent » Maw 10 Meh 2008 7:26 pm

Ond mae'r cwestiwn yn eitha amlwg ond yw e?

Pan ti'n meddwl o'r "British Empire", wyt ti'n meddwl o'r bobl Pwnjabi, neu Affrig?

Na, ti'n meddwl o ddyn gwyn, yn siarad saesneg.

Prydein, fel gwlad yw dim ond yr "English Empire", a ddechreodd amser maith yn ôl, llawer cyn "Britishness".
Rhithffurf defnyddiwr
mabon-gwent
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 111
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2008 4:00 am

Nesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 14 gwestai