Prydeinig = Seisnig?

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Prydeinig = Seisnig?

Postiogan Sleepflower » Iau 12 Meh 2008 9:18 am

Prydain = Llundain.

Mae'r delwedd Bydeinig byd i ffwrdd i bywyd Newcastle, Carlilse, Gwlad yr Haf, Bradford, Hull ayb.
Rhithffurf defnyddiwr
Sleepflower
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1442
Ymunwyd: Iau 20 Tach 2003 6:23 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Prydeinig = Seisnig?

Postiogan Prysor » Iau 12 Meh 2008 9:35 am

Sleepflower a ddywedodd:Prydain = Llundain.

Mae'r delwedd Bydeinig byd i ffwrdd i bywyd Newcastle, Carlilse, Gwlad yr Haf, Bradford, Hull ayb.


Dwi efo chdi ar hyn i raddau. Ond, pan ti'n meddwl amdano, realiti'r sefyllfa ydi nad yw'r Cocnis yn cael eu cyfri yn y ddelwedd Llundeinio-Brydeinig chwaith. Yn y cyswllt yma, Cocnis = Newcastle, Lerpwl, etc.

Ac wrth gwrs, pan ti'n meddwl, eto, am y peth, Llundain = casgliad o ddiwylliannoedd o bob rhan o'r byd.

Felly lle mae Prydeindod? Beth yw Prydeindod?

Prydeindod yw Rhyfel/ymerodraeth a'r Roial Ffamli. Dim arall. Alli di feddwl am faes arall lle mae Prydeindod yn cyfri ym m ywyd a/neu hunaniaeth pobl yr ynysoedd 'ma?
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: Prydeinig = Seisnig?

Postiogan Muralitharan » Iau 12 Meh 2008 11:37 am

Sori am snwio fel tiwn-gron, ond dyna pam dwi'n gweld dylanwad ysgolion fel Eton fel rhywbeth cwbl, gwbl afiach ...
Muralitharan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 174
Ymunwyd: Gwe 21 Rhag 2007 1:55 pm

Re: Prydeinig = Seisnig?

Postiogan Hen Rech Flin » Gwe 13 Meh 2008 2:32 am

Muralitharan a ddywedodd:Sori am snwio fel tiwn-gron, ond dyna pam dwi'n gweld dylanwad ysgolion fel Eton fel rhywbeth cwbl, gwbl afiach ...


Pam? Mi gefais i fy magu i barchu'r fy Nghwin ac i bod yn falch o fy etifeddiaeth Prydeinig yn Ysgol y Gader, Dolgellau (1970-1978) :wps:
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Nôl

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron