Muralitharan a ddywedodd:Sori, ond a oes unrhyw un yn deall y gosodiad uchod?
Rwy’n ddeall yn iawn be mae Huw yn ceisio dweud.
I nifer does dim gwahaniaeth rhwng ystyr y gair Prydain ag ystyr y gair Lloegr.
Lle mae'r Amgueddfa Genedlaethol? Yr Oriel Genedlaethol, a'r Gerddi Botaneg Genedlaethol? Os wyt yn ateb yng Nghaerdydd, Bodelwyddan a Llanarthne, yr wyt yn anghywir! Pethau Cenedlaethol Cymru yw'r rhain, nid cenedlaethol heb angen enw'r genedl ar eu hol.
Mae 'na gerddi botaneg cenedlaethol yng Nghymru, yr Alban a Lloegr. Ond gan fod yr un yn Lloegr yn un "Cenedlaethol Prydeinig", mae ei gostau yn cael ei gynnal trwy Brydain oll, dydy'r costau ddim yn cael ei weithio i mewn i fformiwla Barnett. Felly mae talu'r gost am ardd fotaneg "Cenedlaethol" yn syrthio ddwywaith ar y Cymro rydym yn talu am ardd Cymru ac am ardd Lloegr (sori Prydain).
A dyma wendid nifer o'r cwynion syrffedus sydd ar sylwadau ar lein erthyglau sy'n ymddangos ym mhapurau Llundain sy'n cwyno am y Cymry a'r Sgotiaid yn godro Lloegr. Dydy'r Saeson ddim yn deall faint da ni ar ein colled o orfod talu am bethau "Cenedlaethol Prydeinig " sydd, mewn gwirionedd yn genedlaethol Seisnig!