gan aled g job » Iau 12 Meh 2008 3:46 pm
Dwi inna'n meddwl mai gor-liwio pethau ydi galw David Davis yn arwr yn hyn o beth. Mae hi'n etholaeth eitha saff i'r Ceidwadwyr beth bynnag, hyd yn oed cyn i'r Dem Rhydd gyhoeddi na fydden nhw am sefyll, felly dwi ddim yn gweld bod David Davis yn rhoi ei ben ar y bloc o ran mentro'i sedd ar gownt hyn. Wedi dweud hynny, dwi'n edmygu'r boi am wneud safiad, nid yn unig ar fater 42 diwrnod, ond hefyd ynghylch elfennau megis cardiau ID, hawliau cynyddol i lywodraeth ganol a llywodraeth leol gadw golwg ar bawb ohonom, camerau CCTV ac ati. Bellach mae'r elfen o "contro-freakery" llwyr sydd wedi bod mor amlwg o fewn rhengoedd Llafur newydd o'r cychwyn cyntaf, wedi ymledu i bob carfan yn ein cymdeithas: a diolch i'r drefn bod ffigwr cyhoeddus yn barod i dynnu sylw pawb ohonom at y colli rhyddid personol hwn sy'n digwydd mor frawychus o sydyn ar hyn o bryd.
Mae yna elfen o risg i Davis hefo'i ymgyrch, gan y gallai Llafur newydd wrthod rhoi ymgeisydd gerbron gan ddadlau mai gwastraff arian fyddai cynnal is-etholiad a hynny yn sgil y ffaith bod Ty''r Cyffredin wedi pasio 42 diwrnod yr wythnos hon. Ond tybed ai gamble Davies yw y bydd un neu ddau o aelodau seneddol eraill yn dilyn ei esiampl, yn enwedig o'r Blaid Lafur ei hun? Gallai wedyn arwain ymgyrch traws-bleidiol fyddai'n digwydd mewn 2/3 o etholaethau ar yr un pryd: byddai hynny'n goblyn o stroc. Fyddai Llafur ddim yn gallu anwybyddu'r peth yn yr un modd wedyn: byddai'n cynyddu'r pwysau ar Gordon Brown ac mae'n fwy na thebyg hefyd y byddai'n dod ag etholiad cyffredinol ei hun yn nes.
Aled G Job