David Davis - Arwr

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

David Davis - Arwr

Postiogan Cath Ddu » Iau 12 Meh 2008 12:16 pm

David Davis AS (wel ddim bellach) wedi ymddiswyddo fel AS er mwyn ymladd is-etholiad ar fater carcharu am 42 diwrnod + lleihau rhyddid ym Mhrydain dan arweiniad llywodraeth Lafur Blair a Brown.

Dwi'n edrych ymlaen i ymgyrchu ar ei ran - ymunwch a mi!

O'r diwedd, gwleidydd yn rhoi ei egwyddorion o flaen ei yrfa. Gwych.
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Re: David Davis - Arwr

Postiogan Macsen » Iau 12 Meh 2008 12:33 pm

Ydw i wedi methu rywbeth fan hyn? Mae'n ymddiswyddo o blaid oedd yn erbyn y ddeddf i redeg eto mewn sedd saff ar adeg pan mae'r ceidwadwyr yn bell ar y blaen i Lafur yn y polau, a gyda'r Lib Dems yn cytuno i beidio a rhedeg? Bydd o nol yn ei swydd mewn ryw fis.

Swnio fel mai darn o PR clyfar gan y Ceidwadwyr i godi cywilydd ar Llafur ydi hyn mwy na dim. Ta ydw i wedi methu rywbeth?
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: David Davis - Arwr

Postiogan Ray Diota » Iau 12 Meh 2008 12:36 pm

Arian trethdalwyr, ar ffurf cynnal etholiad dibwynt, yn mynd i gefnogi stynt gan y ceidwadwyr. Arwrol iawn.
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: David Davis - Arwr

Postiogan Hogyn o Rachub » Iau 12 Meh 2008 12:37 pm

Mae'n braf iawn gweld gwleidyddion yn gwneud safiad go iawn ar faterion, ond ar ôl dweud hynny mae gan Macsen bwynt ... ailsefyll mewn sedd lle cafodd y blaid lywodraethol 12% o'r bleidlais y tro diwethaf? Hm. Efallai ei fod yn ddiffuant, dwi'm mewn sefyllfa i ddweud, ond dw i'm yn gweld pwynt i hyn ond am godi cywilydd ar y Llywodraeth. Dio'm yn "risgio" ei yrfa yn y lleiaf.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: David Davis - Arwr

Postiogan Mihangel Macintosh » Iau 12 Meh 2008 12:46 pm

Onid oxymoron ydi tori egwyddorol?

C'mon dydi'r dde ddim byd i neud â gwleidyddiaeth go-iawn, dim ond economeg.
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Re: David Davis - Arwr

Postiogan Cath Ddu » Iau 12 Meh 2008 12:55 pm

Macsen a ddywedodd:Ydw i wedi methu rywbeth fan hyn? Mae'n ymddiswyddo o blaid oedd yn erbyn y ddeddf i redeg eto mewn sedd saff ar adeg pan mae'r ceidwadwyr yn bell ar y blaen i Lafur yn y polau, a gyda'r Lib Dems yn cytuno i beidio a rhedeg? Bydd o nol yn ei swydd mewn ryw fis.

Swnio fel mai darn o PR clyfar gan y Ceidwadwyr i godi cywilydd ar Llafur ydi hyn mwy na dim. Ta ydw i wedi methu rywbeth?


Do Macsen bach - ond ddim am y tro cyntaf.

Mae ploau piniwn yn gyson ddangos fod mwyafrif sylweddol o blaid cynlluniau Llafur Newydd yn achos carcharu am 42 diwrnod. Mae yna ddadsl fan yma sydd angen ei hennill. O ran PR clyfar gan y Ceidwadwyr - o'r cynic bach i ti. Ddaru ti glywed ymateb yr aelodau Ceidwadol dros ginio - hollol syfrdan. Doedd NEB yn disgwyl hyn.

Am unwaith mae modd cael trafodaeth ar egwyddor sylfaenol ac mae gwleidydd am arwain y ddadl. A'i cefnigenus ydi Macsen (fel cyw newyddiadurwr) fod agenda newyddion ddim yn nwylo y cyfryngau am unwaith?
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Re: David Davis - Arwr

Postiogan Cath Ddu » Iau 12 Meh 2008 12:57 pm

Ray Diota a ddywedodd:Arian trethdalwyr, ar ffurf cynnal etholiad dibwynt, yn mynd i gefnogi stynt gan y ceidwadwyr. Arwrol iawn.


O'r fath ffwlbri.

Neiwthiwr fe addawyd £200m er mwyn ennill 9 pleidlais y DUP. Fe fu i Lafur wario £2.7bn er mwyn adfer ffiasco y gyfradd dreth 10c a mae gen ti'r diffyg gweledigaeth i son am wastraffu arian yn yr achos hwn?
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Re: David Davis - Arwr

Postiogan Cath Ddu » Iau 12 Meh 2008 12:58 pm

Mihangel Macintosh a ddywedodd:Onid oxymoron ydi tori egwyddorol?

C'mon dydi'r dde ddim byd i neud â gwleidyddiaeth go-iawn, dim ond economeg.


O didyms. Ceidwadwyr yn arddel rhyddid a dy ffrindiau ar y chwith yn bagle mewn i'r lobiau er mwyn parhau i sarthu ar ryddid yr unigolyn. Onid oxymoron ydi sosialydd sy'n credu mewn rhyddid - ymddengys felly o edrych ar sosialwyr honedig Llafur Newydd.
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Re: David Davis - Arwr

Postiogan Macsen » Iau 12 Meh 2008 1:12 pm

Cath Ddu a ddywedodd:Mae ploau piniwn yn gyson ddangos fod mwyafrif sylweddol o blaid cynlluniau Llafur Newydd yn achos carcharu am 42 diwrnod. Mae yna ddadsl fan yma sydd angen ei hennill.

Tyrd nawr, dyn ni gyd yn gwybod bod Llafur mor debygol o ennill y sedd yma a mae Cymru o chwalu De Affrica o 20 pwynt dydd Sadwrn. Bydd David Davis yn ennill yr etholiad gyda rhwyddineb, ac yna honni mai llais y bobol yn erbyn carcharu 42 diwrnod oedd yn gyfrifol - yn hytrach na'r ffaith bod pawb yn casau Llafur ac yn ei nabod o.

Cath Ddu a ddywedodd:O ran PR clyfar gan y Ceidwadwyr - o'r cynic bach i ti. Ddaru ti glywed ymateb yr aelodau Ceidwadol dros ginio - hollol syfrdan. Doedd NEB yn disgwyl hyn.

Tyrd yn dy flaen. Roedd o wedi gofyn caniatad David Cameron ddoe, a roedd o wedi cytuno. Am rebal, de? Mae hyn ar dudalen blaen pob gwefan newyddion ar hyn o bryd - dyw'r ffaith nad oedd pob un tori yn gwybod am y cynllun ddim yn feddwl nad ydyn nhw wrth eu bodd gyda fo.

Cath Ddu a ddywedodd: A'i cefnigenus ydi Macsen (fel cyw newyddiadurwr) fod agenda newyddion ddim yn nwylo y cyfryngau am unwaith?

Ia, am mai fi sy'n rheoli'r agenda newyddion fel arfer. :rolio:
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: David Davis - Arwr

Postiogan Ray Diota » Iau 12 Meh 2008 1:14 pm

Cath Ddu a ddywedodd:
Ray Diota a ddywedodd:Arian trethdalwyr, ar ffurf cynnal etholiad dibwynt, yn mynd i gefnogi stynt gan y ceidwadwyr. Arwrol iawn.


O'r fath ffwlbri.

Neiwthiwr fe addawyd £200m er mwyn ennill 9 pleidlais y DUP. Fe fu i Lafur wario £2.7bn er mwyn adfer ffiasco y gyfradd dreth 10c a mae gen ti'r diffyg gweledigaeth i son am wastraffu arian yn yr achos hwn?


Y peth yw fod y broses ddemocrataidd wedi'i dilyn i'w therfyn pa bynnag mor anfoddhaol yw hynny. Mae'r bleidlais wedi'i cholli drwy'r drefn ddemocrataidd arferol - be ma fe'n mynd i neud, Guto? Ymddiswyddo bob tro dyw e ddim yn hapus?

Ta waeth, dadle ydw i, yn bennaf, yn erbyn dy ddefnydd chwerthinllyd di o'r gair 'arwr' i ddisgrifio rhywun sydd am orfodi gwario arian trethdalwyr i ailfrwydro sedd ddiogel er mwyn cael cyhoeddusrwydd... ma 'da ni syniadau gwahanol iawn am ddiffiniad arwr.
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Nesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 11 gwestai

cron