David Davis - Arwr

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: David Davis - Arwr

Postiogan Ray Diota » Gwe 13 Meh 2008 3:47 pm

CapS a ddywedodd:
Yn ystod y 7 mlynedd diwethaf, mae David Davis wedi:
- gwrthwynebu caniatau i bobl hoyw fabwysiadu (yn groes i lein ei blaid)
- gwrthwynebu dileu adran 28 Deddf Llywodraeth Leol oedd yn gwahardd awdurdodau lleol (trwy ysgolion) i ddysgu am lenyddiaeth "hoyw"
- cefnogi ail-sefydlu'r gosb eithaf i rhai llofruddion
- datgan ei fod yn gwrthwynebu rhannau o Ddeddf Hawliau Dynol 1998 oherwydd ei fod wedi arwain at "compensation culture" a'i bod yn rhy anodd i alltudio ceiswyr lloches aflwyddiannus


co ti dy arwr di, Guto Bebb!
:rolio:


diolch am d'ymchwil CapS!
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: David Davis - Arwr

Postiogan Prysor » Gwe 13 Meh 2008 4:45 pm

dim bo finna, chwaith, wedi galw DD yn arwr... ond wir, rhaid cofio fod agweddau hyd yn oed arwr go iawn fel Mandela tuag at hoywon ac AIDS yn rhai dilornus, a bu i effaith hynny ar ddioddefwyr yr afiechyd yn ofnadwy...

Tydi pawb ddim yn mynd i gael eu ymoleuo (enlightenio) ar yr un raddfa. Mae 'na ffasiwn beth a generation gap, a mae na ffasiwn beth a meddylfryd y praidd, mae na grefydd a barn gyhoeddus hefyd - llawer o ffactorau sy'n gallu gwneud rhywun fethu a derbyn fod y rhagfarnau ingrained y mae'n berchen arnynt, yn rong. Fysa'n nhad byth yn derbyn addysg am hoywon ac ati yn yr ysgolion. Ond mae fy nhad yn ddyn da. Ac yn sosialydd.

Mae DD yn dod o asgell dde y blaid Geidwadol. Ma pawb yn gwbod hynny. Ac o'r pethau ti'n restru, agwedd ceidwadol, hen ffasiwn sydd wedi lliwio ei farn - nid rhyw eidioleg 'ffasgaidd'.

Ond beth bynnag, nid dyna, na'i gefndir, na'i orffennol, yd'r pwynt.

Y pwynt ydi fod ganddo'r ffycin gyts i sefyll yn erbyn be sy'n digwydd. A hynny yn erbyn y farn gyhoeddus a barn rhan fwyaf ei blaid (mentraf bod rhan fwyaf o Geidwadwyr isio'r 42 diwrnod). Mae'n gwestiwn cymleth iddyn nhw - mae nhw'n blaid minimal government, yn coleddu rhyddid oddiwrth y wladwriaeth, eto'n blaid cyfraith a threfn. Ers rhyddfrydiaeth Thatcher, mae nhw'n blaid unigolyddiaeth asgell dde, sy'n barod i ddefnyddio cyfraith a threfn i amddiffyn yr unigolyddiaeth hynny. Mentraf fod mwyafrif yn y blaid ar lawr gwlad yn dal i gredu yn yr eidioleg hynny. Mentraf hefyd fod rhywfaint o'r Hen Doriaeth paternalistaidd yn DD, a'i fod yn genedlaetholwr Prydeinig sy'n cyfrif rhyddid yr unigolyn (chi a fi) yn rhan annatod o hunaniaeth y Brydain y mae'n goleddu.

Dwi'm yn gwbod be ydi'r boi yn union. Dyfalu ydw i. Ond ydi o bwys o ba ongl mae'n gwrthwynebu'r gwasgu ar hawliau dynol dinasyddion y wladwriaeth 'ma?

Dwi'n bell o fod yn Dori, ond dwi efo nhw ar y mater o lai o wladwriaeth ym mywydau pobl (blaw bo fi hefyd isio llai o fusnesau mawrion ym mywydau pobol!). Mae cynlluniau'r llywodraeth, yn ogystal a'r datblygiadau diweddar efo CCTV a chasglu data personol, yn mynd â ymyrraeth y wladwriaeth i lefel police state. Dim arall.
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: David Davis - Arwr

Postiogan Mihangel Macintosh » Sad 14 Meh 2008 6:52 am

CapS a ddywedodd:Un diffiniad o "libertarianism" yw i gefnogi hawliau'r unigolyn i wneud beth fynno ymhob maes, gan gynnwys wneud beth bynnag a fynno i'w g/chorff ei hun ar yr amod nad yw hynny'n effeithio'n negyddol ar eraill. Hefyd bod gan bawb yr hawl i ddewis eu credoau a’u ffordd o fyw eu hunain yn rhydd o ymyrraeth y wladwriaeth.

Gret. Bydde lot o bobl yn cytuno ‘da hynny.


Dal dy ddwr CapS! Ma yna wahaniaeth enfawr mewn Rhyddewyllus (Libertarisim) asgell dde fel Davis a Rhyddewyllus asgell chwith. Dwi'n credu fod dy ddisgrifiad di o Rhyddewyllusiaeth yn agosach at yr agwedd asgell chwith fel Noam Chomsky.

Wiki a ddywedodd:Left-libertarianism is usually regarded as doctrine that has an egalitarian view concerning natural resources, believing that it is not legitimate for someone to claim private ownership of resources to the detriment of others. Most left libertarians support some form of income redistribution on the grounds of a claim by each individual to be entitled to an equal share of natural resources. Left libertarianism is defended by contemporary theorists such as Peter Vallentyne, Hillel Steiner, Michael Otsuka, and Noam Chomsky. Geolibertarians are considered left-libertarians. The term is sometimes used as a synonym for libertarian socialism.


Wiki a ddywedodd:Libertarian conservatives differ from some Christian-influenced conservatives in that they tend to favor the separation of church and state. They favor limitation of government involvement in any factors of life, in contrast to neo-conservatives.


Gweler: http://en.wikipedia.org/wiki/Libertarian
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Re: David Davis - Arwr

Postiogan CapS » Sad 14 Meh 2008 6:39 pm

Mihangel Macintosh a ddywedodd:Dal dy ddwr CapS! Ma yna wahaniaeth enfawr mewn Rhyddewyllus (Libertarisim) asgell dde fel Davis a Rhyddewyllus asgell chwith. Dwi'n credu fod dy ddisgrifiad di o Rhyddewyllusiaeth yn agosach at yr agwedd asgell chwith fel Noam Chomsky.

Wiki a ddywedodd:Left-libertarianism is usually regarded as doctrine that has an egalitarian view concerning natural resources, believing that it is not legitimate for someone to claim private ownership of resources to the detriment of others. Most left libertarians support some form of income redistribution on the grounds of a claim by each individual to be entitled to an equal share of natural resources. Left libertarianism is defended by contemporary theorists such as Peter Vallentyne, Hillel Steiner, Michael Otsuka, and Noam Chomsky. Geolibertarians are considered left-libertarians. The term is sometimes used as a synonym for libertarian socialism.


Wiki a ddywedodd:Libertarian conservatives differ from some Christian-influenced conservatives in that they tend to favor the separation of church and state. They favor limitation of government involvement in any factors of life, in contrast to neo-conservatives.


Gweler: http://en.wikipedia.org/wiki/Libertarian

Ym...ti'n dyfynnu o wiki fan'na. Af i draw i newid y diffiniad o libertarian conservatism nawr fel ei bod yn cyd-fynd a'n nehongliad i :)

Edrychwch bois, dwi ddim yn dilornu Davis am wneud beth mae e'n gwneud. Mae'n siwr ei fod yn teimlo'n gryf iawn bod y busnes 42 diwrnod 'ma'n un gam ymhellach wrth erydu rhyddid sylfaenol pobl ym Mhrydain - yr holl nonsens 'na am fod yn ddi-euog nes i ti cael dy brofi'n euog ayb - ac i raddau helaeth byddwn yn cytuno ag ef ar hynny. Dwi'n anesmwyth iawn iawn am y mesur a'r cynsail posib y gall hyn osod. A dwi'n cefnogi, i raddau helaeth, ei farn.

Ond dyw'r boi ddim yn libertarian dan unrhyw ddiffiniad. Os ydy Davis yn dilyn dy ddiffinad (o wiki) ac yn credu mewn "...limitation of government involvement in any factors of life...", pam fod ganddo gymaint o ddiddordeb mewn ymyrryd ym mywydau pobl hoyw, a cheiswyr lloches, a hyd yn oed pobl sydd wedi eu cael yn euog o lofruddiaeth (achos, fel ry'n ni'n gwybod, does dim pob un dedfryd yn gwbwl, gwbwl saff bob amser)? Hynny yw, gall libertarian ddim credu mewn cynnig yr un hawliau i berson hoyw ac i berson "straight" a pharhau i gael ei ddiffinio fel libertarian. Dyw hi jyst ddim yn bosib.

Prysor a ddywedodd:Ond beth bynnag, nid dyna, na'i gefndir, na'i orffennol, yd'r pwynt.
Os taw ymateb i fy mhwynt i wyt ti, dwi ddim yn cymhelliant Davis dros wneud hyn. Hynny yw, nid dyna oedd fy mhwynt i. Fy mhwynt i oedd i ddangos nad yw Davis yn libertarian, achos mae'r term libertarian yn hun na ti a fi a Davis ac unrhyw un arall sy'n fyw heddiw. Mandela, hyd yn oed, ac mae'n gwbwl amlwg nad yw Mandela, hyd yn oed - cystal arwr ag yw e mewn nifer o ffyrdd - yn libertarian chwaith. Does gan libertarianism ddim i'w wneud gyda gwrthod hawliau sylfaenol i rhai aelodau o'r cyhoedd oherwydd eu credoau neu eu ffordd o fyw.
CapS
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 90
Ymunwyd: Gwe 04 Awst 2006 9:04 am

Re: David Davis - Arwr

Postiogan Cardi Bach » Llun 16 Meh 2008 8:39 am

Beth bynnag fo cymhellion personol David Davies yn hyn o beth, wy'n ei gymeradwyo am wneud y safiad yma, ac i mi dyna ydyw.

Mae yna elfen o 'stynt' beron ym mhob digwyddiad o'r fath. Wrth gwrs mai stynt yw hwn, ond weithie ma'n rhaid wrth 'stynts' ermwyn tynnu sylw at anghyfiawnderau, ac ar ddiwedd y dydd rwy'n barod i gefnogi unrhyw unigolyn sy'n barod i sefyll i fyny yn erbyn yr awdurdodau i amddiffyn cyfiawnder.

Mae yna beryg go iawn i DD golli'r sedd.
Ystyriwch yr amgylchiadau y tu ol i hyn: yn ol y polau piniwn mae mwyafrif yr etholwyr o blaid y polisi o garcharu am 42 diwrnod heb ddwyn achos yn eu herbyn. Does dim dadl cyflawn gyhoeddus wedi bod ynghylch y peth - yn union fel Tony Blair gynta, ac fel pob llywodraeth llwgr a llwfr arall sydd wedi bod mae'n nhw'n cuddio y tu ol i ddadleuon emosiynol, hunanol, a ffals am fygythiad teroristiaeth. Pan fo'n dod i 'National Security' yna does dim limit ar pwy rai o'n hawliau sylfaenol y dylid eu gwaredu - gwaredwch ar bob un o'n hawliau a charcharwch bawb i fyny ermwyn sicrhau ein bod ni'n ddiogel!
Hefyd dim ond tair wythnos o ymgyrchu fydd yna - bydd yn rhaid i bawb sydd o blaid ein hawliau ni weithio'n galed a dadlau yn effeithiol yn yr adeg hynny, oherwydd os ffeindith Gordon Brown rhywun sydd wedi ei effeithio gan deroristiaeth ac sydd ag agosatrwydd personol at bolisi o'r fath i sefyll yn erbyn DD yna gall DD golli mewn etholiad wedi ei sylfeini ar emosiwn pur.

Wy'n amau os mai uchelgais personol ydyw, oherwydd ta waeth beth bynnag fydd canlyniad yr etholiad, byddai'r Blaid Geidwadol yn gyndyn iawn o roi arweinyddiaeth y Blaid (os mai dyna yw'r uchelgais) i rywun sydd yng ngolwg y mwyafrif yn eitha 'maverick'. Beth bynnag fo'r canlyniad mae cam o'r fath am niweidio unrhy uchelgais bersonol o arweinyddiaeth, felly rwy'n amheus iawn os mai dyna yw ei gymhelliad.

Wy'n malio taten beth yw cymhelliad DD - oe'n i hefyd yn meddwl ei fod e braidd yn hard-line ar y pethe hyn - wedi'r cyfan onid oedd e'n cefnogi 28 diwrnod? Beth yw'r gwahaniaeth fan hyn? Ond nid dyna'r pwynt yn hyn o beth - dyma gyfle go iawn i geisio argyhoeddi pobl fod ein hawliau ni yn cael eu erydu yn sylweddol, ac wedi bod yn gyson, ac fod angen cael dadl llawn am y peth ermwyn fod pawb yn deall ein bod yn cerdded yn araf bach tuag at byd Orwell.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Re: David Davis - Arwr

Postiogan Seonaidh/Sioni » Llun 16 Meh 2008 7:54 pm

Yr unig beth "arwrol" mod i'n gallu gweld ydy fod 'na siawns am y Toriaid golli sedd.
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: David Davis - Arwr

Postiogan Cwlcymro » Iau 19 Meh 2008 1:13 pm

Ma'n eitha trist gweld cymaint o bobol (ddim ond yn fama, yn y papura/ar y teledu hefyd) sydd mor sinigaidd am wleidyddion fel ei bod nhw methu meddwl am eiliad y bysa un ohonu nhw yn gwneud rhywbeth achos ei cydwybod - ma pawb yn mynnu chwylio am yr angle.

Chwara teg i David Davis - ella fod ei set o'n un saff (hyd yn oed cyn i bawb arall wrthod cystadlu) ond drwy ymdiswyddo fel yma mae o wedi colli'r cyfla i fod yn Ysgrifennydd Gwladol mewn blwyddyn a hannar. Fel ddudodd y Gath,os fysa Adam Price wedi gwneud be nath David David fysa na ddim lot yn fama yn ei ddilorni.

Ma na dwtsh o "redag i ffwr efo'r bel" yn yr ymddiwyddiad, ond o eld y prynnu a'r llwgrwobreuo roth Llafur mewn i ennill y bleidlais dwin shwr swni isho pwdu hefyd!

Chwara teg i Davis, mae o wedi llwyddo i greu lot o drafod ynglyn a'r torri ar ein hawliau ni yn enw terfysgaeth.

Prysor a ddywedodd:
Ray Diota a ddywedodd:cwestiwn: beth fydde pobl yn dweud i'r syniad bod hyn oll yn ddiangen gan bod Ty'r Arglwyddi'n mynd i falu'r ddeddf yn rhacs ta beth?


os byddai hynny'n digwydd, dod yn ôl fyddai'r cynnig eto, a byddai'n siwr o ddod i rym mewn un siap neu'i gilydd.


Ond digon posibma cario mlaen i wrthod hi neith yr Arglwyddi. Gan nad oedd 42 niwrnod yn faniffesto Llafur yn yr etholiad dwytha alla nhw ddim defnyddio'r Parliament Act i wthio'r peth dwy'r Arglwyddi.
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Re: David Davis - Arwr

Postiogan Prysor » Iau 19 Meh 2008 1:27 pm

Cwlcymro a ddywedodd:Gan nad oedd 42 niwrnod yn faniffesto Llafur yn yr etholiad dwytha alla nhw ddim defnyddio'r Parliament Act i wthio'r peth dwy'r Arglwyddi.


o'n i'n meddwl y gellid defnyddio'r Parliament Act efo achos o "ddiogelwch cenedlaethol" ???
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: David Davis - Arwr

Postiogan Mr Gasyth » Iau 19 Meh 2008 1:31 pm

Cwlcymro a ddywedodd:Ond digon posibma cario mlaen i wrthod hi neith yr Arglwyddi. Gan nad oedd 42 niwrnod yn faniffesto Llafur yn yr etholiad dwytha alla nhw ddim defnyddio'r Parliament Act i wthio'r peth dwy'r Arglwyddi.


O gallan mi allan nhw. Tydi'r Sailsbury Convention ddim odn yn gweithio ffordd arall rownd, h.y all Ty'r Arglwyddi ddim gwrthod pasio mesur oedd ym maniffestor llywodraeth. Does dim i sdopio'r llywodrateh rhag defnyddio'r Parliament Act i orfodi pasio mesur nad oedd yn ei maniffesto.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Re: David Davis - Arwr

Postiogan Cwlcymro » Iau 19 Meh 2008 1:38 pm

Mr Gasyth a ddywedodd:
Cwlcymro a ddywedodd:Ond digon posibma cario mlaen i wrthod hi neith yr Arglwyddi. Gan nad oedd 42 niwrnod yn faniffesto Llafur yn yr etholiad dwytha alla nhw ddim defnyddio'r Parliament Act i wthio'r peth dwy'r Arglwyddi.


O gallan mi allan nhw. Tydi'r Sailsbury Convention ddim odn yn gweithio ffordd arall rownd, h.y all Ty'r Arglwyddi ddim gwrthod pasio mesur oedd ym maniffestor llywodraeth. Does dim i sdopio'r llywodrateh rhag defnyddio'r Parliament Act i orfodi pasio mesur nad oedd yn ei maniffesto.


Ti'n iawn, fi gymysgodd Salisbury efo'r Parliament Act. ma angan 3 "sesiwn" o Dy'r Cyffredin cyn fod posib defnyddio'r gyfraith yma, unrhywun yn gwbo pa mor hir ydi sesiwn? Swn i'n feddwl fod na jusd abawt ddigon o amsar cyn etholiad 2010?

Gol: dwi'n meddwl fod na dri sesiwn mewn blwyddyn - cywir?
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 10 gwestai