Cath Ddu a ddywedodd:Mae ploau piniwn yn gyson ddangos fod mwyafrif sylweddol o blaid cynlluniau Llafur Newydd yn achos carcharu am 42 diwrnod. Mae yna ddadsl fan yma sydd angen ei hennill.
Tyrd nawr, dyn ni gyd yn gwybod bod Llafur mor debygol o ennill y sedd yma a mae Cymru o chwalu De Affrica o 20 pwynt dydd Sadwrn. Bydd David Davis yn ennill yr etholiad gyda rhwyddineb, ac yna honni mai llais y bobol yn erbyn carcharu 42 diwrnod oedd yn gyfrifol - yn hytrach na'r ffaith bod pawb yn casau Llafur ac yn ei nabod o.
Cath Ddu a ddywedodd:O ran PR clyfar gan y Ceidwadwyr - o'r cynic bach i ti. Ddaru ti glywed ymateb yr aelodau Ceidwadol dros ginio - hollol syfrdan. Doedd NEB yn disgwyl hyn.
Tyrd yn dy flaen. Roedd o wedi gofyn caniatad David Cameron ddoe, a roedd o wedi cytuno. Am rebal, de? Mae hyn ar dudalen blaen pob gwefan newyddion ar hyn o bryd - dyw'r ffaith nad oedd pob un tori yn gwybod am y cynllun ddim yn feddwl nad ydyn nhw wrth eu bodd gyda fo.
Cath Ddu a ddywedodd: A'i cefnigenus ydi Macsen (fel cyw newyddiadurwr) fod agenda newyddion ddim yn nwylo y cyfryngau am unwaith?
Ia, am mai fi sy'n rheoli'r agenda newyddion fel arfer.