Cymedrolwr: Mr Gasyth
Griff-Waunfach a ddywedodd:Ydi David Davis ddim yn teimlo bod pleidlais ar y fater yn digon i ddiffinio ei farn?
Ray Diota a ddywedodd:Yn y bon, dyma dwi'n ei deimlo 'fyd. Ma tam bach fel rhedeg ffwr da'r bêl achos bo chi'n colli gêm o ffwtbol...
Dylan a ddywedodd:mae'n ddigon hawdd i'r Toriaid wrthwynebu'r ddeddf yma pan mai llywodraeth Lafur sy'n trio'i basio. Be mae Davis yn ei wneud yn y bôn cyn belled ag y galla' i weld ydi gorfodi Cameron i ddangos na fyddai'r Toriaid yn dilyn y fath drywydd hyd yn oed pe baent mewn grym eu hunain, ac i ail-ddiffinio'r blaid fel un sydd o blaid hawliau sifil. Gorfodi Cameron i ddangos mai nid cam gwag (neu'n wir, stynt) oedd gwrthwynebu 42 diwrnod. Alla' i ddim gweld sut mae modd peidio cymeradwyo Davis yn hynny o beth. Stynt yn wir, ond un digon clyfar ac urddasol yn fy marn i.
Griff-Waunfach a ddywedodd:Ydi David Davis ddim yn teimlo bod pleidlais ar y fater yn digon i ddiffinio ei farn? Hefyd pam nad oes mwy o doriaid wedi dilyn ei esiampl? Byddai hwna wedi gnweud datganiad cryf.
Ray Diota a ddywedodd:cwestiwn: beth fydde pobl yn dweud i'r syniad bod hyn oll yn ddiangen gan bod Ty'r Arglwyddi'n mynd i falu'r ddeddf yn rhacs ta beth?
Macsen a ddywedodd:Wel stynt sinigaidd ai peidio, os ydi Kelvin MacKenzie yn rhedeg yn ei erbyn o fyddai yna'n ymgyrchu dros David Davis ar y stryd.
Ray Diota a ddywedodd:os yw kelvin mckenzie'n sefyll, be fydde'r ods arno fe'n ennill?
Dylan a ddywedodd:Ray Diota a ddywedodd:Wy ti o ddifri moyn cymharu'r ddau beth, Guto??? Fe roddodd Gwynfor 'chydig mwy 'na sedd hollol ddiogel ar y lein, weden i! Nawrte, dwi'n sôn am arian y trethdalwyr o hyd er mwyn dangos pa mor hurt yw galw'r pwdryn yn arwr - does dim byd ar y lein ond arian ac amser ei etholwyr. Dyw e'n risgio dim! Os mai dyna yw arwr i ti, ti'n byw mewn byd diflas y diawl...
dw i heb fynd mor bell â galw'r boi'n arwr fy hun, ond mae'n sicr wedi ennill parch gen i
os ydi rhywun wir yn erbyn y 42 diwrnod, anodd gen i ddeall sut mae peidio cymeradwyo hyn. Mwy o sylw i'r anghyfiawnder, a mwy o drafodaeth = peth da, onid e?
wedi dweud hynny, swn i dal yn licio rhyw fath o esboniad i pam roedd fy argraff o Davis mor gyfeiliornus. Mae'n debyg mai nid fi oedd yr unig un o bell ffordd. Ers pryd mae o'n gymaint o libertarian?
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 21 gwestai