Wel dim ond canran bach o ferched sydd yn cael eu treisio synd myn at y heddlu beth bynnag, a mae llai fyth yn gweld y person mae nhw wedi ei gyhuddo yn cael ei ddedfrydu. Pe na bai merched yn cael gwneud yn ddi-enw byddai dynion yn cael getawe efo tresisio naw gwaith allan o ddeg.
Ond os ydi o'n gwenud i ti deimlo'n well mae unrhyw un sy'n dioddef o drosedd rhywiol yn ddi-enw, gan gynnwys dynion!
Dw i'n cytuno i raddau y dylai y person sy'n cael ei gyhuddo gael bod yn ddi-enw hefyd. Ond am wn i mae angen cymryd rhai rhagofalon gyda person sydd wedi ei gyhuddo hyd yn oed pe na bai'n euog yn y pen draw. Er engraifft petai ti'n cadw athro sydd wedi ei gyhuddo o drais rhywiol yn ei swydd heb ddweud wrth y rheini byddai yna goblyn o stwr os ydi o'n euog. Os wyt ti'n ei wahardd ond yn ei gadw'n ddi-enw byddai yna bob math o honiadau yn mynd o gwpas, er engraifft ei fod o wedi treisio plentyn, a dyw hynny'n deg ar neb.
Fel newyddiadurwr dw i wedi cael arholiadau ar ba wybodaeth wyt ti'n cael ei roi a be ti ddim mewn erthygl, a mae'n eitha cymhleth!