Yr Alban roddodd gychwyn i yrfa wleidyddol Gordon Brown. Mae'n ddigon posib mai'r Alban hefyd fydd yn rhoi terfyn ar yr yrfa wleidyddol honno. Mae is-etholiad i'w chynnal yn Nwyrain Glasgow ar Orffennaf 24 yn sgil ymddeoliad yr aelod seneddol Llafur presennol , ac mae'r SNP yn hogi ei harfau yn barod. Roedd gan Donald Marshall fwyafrif o 13,000 yn yr etholiad diwethaf, ac er ei bod yn etholaeth lle mae gan Lafur "client state" enfawr-(hyd at 50% o'r boblogaeth yn ddi-waith ac yn ddibynnol ar daliadau'r wladwriaeth), mae yna le i gredu y gall Llafur ei cholli.
Un o'r pethau sy'n gwneud yr is-etholiad hon yn hynod ddiddorol yw mai dyma'r is-etholiad cyntaf ers datganoli lle y bydd dwy lywodraeth wahanol yn cystadlu yn erbyn ei gilydd ( Llafur yn San Steffan a'r SNP yn Holyrood). Felly, fe welwn ni senario unigryw lle bydd pleidleiswyr yn yr etholaeth yn mynegi barn am ddwy lywodraeth wahanol. Dwi'n credu y gall yr SNP ennill ddwy ffordd yn fan hyn. Gallent elwa o'r bleidlais gwrth-Lafur enfawr sydd ar gerdded yn gyffredinol ar hyn o bryd, ond gallent hefyd elwa ar y "Salmond bounce" sydd wedi gweld cynnydd mawr ym mhoblogrwydd yr SNP yn yr Alban ers iddyn nhw ffurfio llywodraeth yr haf diwethaf. Tra gall Alex Salmond gyflwyno'i hun fel arweinydd poblogaidd carismataidd a llwyddiannus, bydd Llafur yr Alban yn ddi-arweiniad yn sgil ymadawiad Wendy Alexander, ddaw Gordon Brown ei hun ddim ar gyfyl y lle, ac mae'n anodd gweld pa rai o blith aelodau Llafur yn Llundain allai ysbrydoli eu cefnogwyr traddodiadol yn yr etholaeth bellach.
Y son ydi hefyd bod rhai o aelodau seneddol Llafur hwythau'n gobeithio gweld buddugoliaeth i'r SNP fan hyn, gan y byddai'n rhaid i Gordon Brown ildio'r awenau yn sgil hynny. Y ddadl fydd, fedar ddim o ennill mewn sedd draddodiadol Lafur yn Lloegr( Crewe), fedar o ddim ennill yn Middle England( Henley), ond fedar o chwaith ddim ennill mewn sedd draddodiadol Lafur yn un o'i gadarnleoedd ei hun! Pe bai Brown yn mynd,byddai'n rhaid galw etholiad cyffredinol, ac efallai'n wir y byddai hynny yn arbed Llafur rhag y chwalfa anorfod sy'n eu hwynebu os y gwnawn nhw rygnu mlaen tan 2010.
Wrth gwrs, byddai achosi cwymp Prif Weinidog hefyd yn goblyn o bluen yn het yr SNP, ac fe fyddai'n tanlinellu'r momentwm mawr sydd ganddynt yn yr Alban ar hyn o bryd.