Ai dyma fydd diwedd Gordon Brown?

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Ai dyma fydd diwedd Gordon Brown?

Postiogan aled g job » Maw 01 Gor 2008 9:34 am

Yr Alban roddodd gychwyn i yrfa wleidyddol Gordon Brown. Mae'n ddigon posib mai'r Alban hefyd fydd yn rhoi terfyn ar yr yrfa wleidyddol honno. Mae is-etholiad i'w chynnal yn Nwyrain Glasgow ar Orffennaf 24 yn sgil ymddeoliad yr aelod seneddol Llafur presennol , ac mae'r SNP yn hogi ei harfau yn barod. Roedd gan Donald Marshall fwyafrif o 13,000 yn yr etholiad diwethaf, ac er ei bod yn etholaeth lle mae gan Lafur "client state" enfawr-(hyd at 50% o'r boblogaeth yn ddi-waith ac yn ddibynnol ar daliadau'r wladwriaeth), mae yna le i gredu y gall Llafur ei cholli.

Un o'r pethau sy'n gwneud yr is-etholiad hon yn hynod ddiddorol yw mai dyma'r is-etholiad cyntaf ers datganoli lle y bydd dwy lywodraeth wahanol yn cystadlu yn erbyn ei gilydd ( Llafur yn San Steffan a'r SNP yn Holyrood). Felly, fe welwn ni senario unigryw lle bydd pleidleiswyr yn yr etholaeth yn mynegi barn am ddwy lywodraeth wahanol. Dwi'n credu y gall yr SNP ennill ddwy ffordd yn fan hyn. Gallent elwa o'r bleidlais gwrth-Lafur enfawr sydd ar gerdded yn gyffredinol ar hyn o bryd, ond gallent hefyd elwa ar y "Salmond bounce" sydd wedi gweld cynnydd mawr ym mhoblogrwydd yr SNP yn yr Alban ers iddyn nhw ffurfio llywodraeth yr haf diwethaf. Tra gall Alex Salmond gyflwyno'i hun fel arweinydd poblogaidd carismataidd a llwyddiannus, bydd Llafur yr Alban yn ddi-arweiniad yn sgil ymadawiad Wendy Alexander, ddaw Gordon Brown ei hun ddim ar gyfyl y lle, ac mae'n anodd gweld pa rai o blith aelodau Llafur yn Llundain allai ysbrydoli eu cefnogwyr traddodiadol yn yr etholaeth bellach.

Y son ydi hefyd bod rhai o aelodau seneddol Llafur hwythau'n gobeithio gweld buddugoliaeth i'r SNP fan hyn, gan y byddai'n rhaid i Gordon Brown ildio'r awenau yn sgil hynny. Y ddadl fydd, fedar ddim o ennill mewn sedd draddodiadol Lafur yn Lloegr( Crewe), fedar o ddim ennill yn Middle England( Henley), ond fedar o chwaith ddim ennill mewn sedd draddodiadol Lafur yn un o'i gadarnleoedd ei hun! Pe bai Brown yn mynd,byddai'n rhaid galw etholiad cyffredinol, ac efallai'n wir y byddai hynny yn arbed Llafur rhag y chwalfa anorfod sy'n eu hwynebu os y gwnawn nhw rygnu mlaen tan 2010.

Wrth gwrs, byddai achosi cwymp Prif Weinidog hefyd yn goblyn o bluen yn het yr SNP, ac fe fyddai'n tanlinellu'r momentwm mawr sydd ganddynt yn yr Alban ar hyn o bryd.
Aled G Job
aled g job
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 102
Ymunwyd: Llun 26 Medi 2005 8:33 am

Re: Ai dyma fydd diwedd Gordon Brown?

Postiogan Macsen » Maw 01 Gor 2008 10:44 am

aled g job a ddywedodd:ac er ei bod yn etholaeth lle mae gan Lafur "client state" enfawr-(hyd at 50% o'r boblogaeth yn ddi-waith ac yn ddibynnol ar daliadau'r wladwriaeth), mae yna le i gredu y gall Llafur ei cholli.

Ydyn nhw wedi trefnu'r is-etholiad ynghanol gwyliau fel bod y 50% arall mewn gwlad bell a methu pledleisio?
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: Ai dyma fydd diwedd Gordon Brown?

Postiogan Seonaidh/Sioni » Sul 06 Gor 2008 2:30 pm

Dydy'r SNP ddim yn boblogaidd yn yr Alban erbyn hyn. Mae pobl yn dechrau gweld a theimlo effeithiau'r toriadau enfawr ym meysydd iechyd ac addysg. Dydw i ddim yn credu bydd yr SNP yn cael lot o bleidlais yn y sedd yma, gan ei fod yn amlwg erbyn hyn mai toriaid rhonc ydyn nhw (lot o stwff yn cael ei basio gan Holyrood efo SNP+Ceidwadwyr yn pleidleisio drosto). Oni cheidw Llafur y sedd, bydd yn mynd i ryw blaid ar wahan i'r SNP, efallai SSP.
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Ai dyma fydd diwedd Gordon Brown?

Postiogan Macsen » Sul 06 Gor 2008 3:01 pm

Seonaidh/Sioni a ddywedodd:Dydy'r SNP ddim yn boblogaidd yn yr Alban erbyn hyn.

Wir? Dw i ddim yn byw yn yr Alban, ond yr argraff reddwn i'n ei gael gan bobol a'r polau piniwn oedd bod yr SNP wedi bod yn llwyddiant mawr yn ei blwyddyn gyntaf ac yn mwynhau poblogrwydd uwch nag unrhyw lywodraeth arall yn y DU ers tro.

Efallai bod angen y toriaid arnyn nhw i basio pethau yn Holyrood, ond sut arall mae nhw'n mynd i basio pethau?

Dw i ddim yn credu wneith yr SNP ennill Glasgow East ond dyle nhw wneud tolc reit helaeth yn mwyafrif Llafur.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: Ai dyma fydd diwedd Gordon Brown?

Postiogan S.W. » Llun 07 Gor 2008 10:25 am

Seonaidh/Sioni a ddywedodd:Dydy'r SNP ddim yn boblogaidd yn yr Alban erbyn hyn. Mae pobl yn dechrau gweld a theimlo effeithiau'r toriadau enfawr ym meysydd iechyd ac addysg. Dydw i ddim yn credu bydd yr SNP yn cael lot o bleidlais yn y sedd yma, gan ei fod yn amlwg erbyn hyn mai toriaid rhonc ydyn nhw (lot o stwff yn cael ei basio gan Holyrood efo SNP+Ceidwadwyr yn pleidleisio drosto). Oni cheidw Llafur y sedd, bydd yn mynd i ryw blaid ar wahan i'r SNP, efallai SSP.


Sori Sioni er dy fod yn byw yn yr Alban, yn wahanol iawn i mi dwi'n credu dy fod yn hollol anghywir yma. Dwi'n credu bod gan Llafur ormod o fwyafrif yma i'r SNP allu eu trechu ond dwi'n credu bod yr SNP yn mynd i fwyta'n sylweddol i fewn iw mwyafrif. Mae'r SNP wedi derbyn gryn feirniadaeth yn y wasg yn ddiweddar ond dydy hynny ddim yn adlewyrchu o gwbl yn y Polau Piniwn. Does ond angen darllen y Daily Record, papur newydd mwyaf yr Alban dwi'n credu, a papur sy'n hynod gefnogol i'r Blaid Lafur i weld y pryder enbyd sy'n bodoli ymhlith eu cefnogaeth i gynydd parhanol yr SNP yn eu cefnogaeth.

Mae'r SNP yn parhau i dori tir newydd. Wrth gwrs mae nhw'n gorfod cael help gan y Ceidwadwyr a'r Demi Rhydd a Plaid Werdd yr Alban. Llywodraeth leiafrifol ydyn nhw. Neith Llafur ddim cefnogi'r SNP ar bron ddim gan bod Llafur isio brwydro'n nol yn erbyn yr SNP. Byddai pleidleisio dros fesur yr SNP fel cydnabod eu bod yn iawn. Dydy hynny ddim o bell ffordd yn dweud felly mae Ceidwadwyr ydy'r SNP. Yr unig blaid mae'r SNP yn Holyrood wedi dod i gytundeb ffurfiol a nhw ydy Plaid Werdd yr Alban, plaid sydd os rhywbeth yn fwy asgell chwaith na mae'r SNP erioed wedi honi i fod.

Brwydr rhwng Llafur a'r SNP fydd hon, does gan yr SSP na Solidarity ddim gobaith mul o ennill yma, byddan nhw'n lwcus i gadw eu blaendal. Mae'r ffraeo yn y ddwy blaid hon yn neud i Llafur yr Alban edrych fel plaid unedig!
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Re: Ai dyma fydd diwedd Gordon Brown?

Postiogan Cwlcymro » Llun 07 Gor 2008 12:53 pm

Ma ladbrokes wedi rhoi yr SNP a Llafur yn 5/5 i ennill y set. Ma hyd yn oed y ffaith fod pobl yn sharad am yr SNP yn curo y fath set yn dweud lot!

Sioni, ai sharad o be tin glwad "ar y stryd" wti ta osna bol diweddar dwi heb ei weld?

Yr unig bol opiniwn dwi di weld ydi un y Sunday Herald ddoe yn rhoi cefnogaeth am annibyniaeth ar 39% efo 41% yn erbyn.
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Re: Ai dyma fydd diwedd Gordon Brown?

Postiogan GT » Maw 08 Gor 2008 10:38 pm

Seonaidh/Sioni a ddywedodd:Dydy'r SNP ddim yn boblogaidd yn yr Alban erbyn hyn. Mae pobl yn dechrau gweld a theimlo effeithiau'r toriadau enfawr ym meysydd iechyd ac addysg. Dydw i ddim yn credu bydd yr SNP yn cael lot o bleidlais yn y sedd yma, gan ei fod yn amlwg erbyn hyn mai toriaid rhonc ydyn nhw (lot o stwff yn cael ei basio gan Holyrood efo SNP+Ceidwadwyr yn pleidleisio drosto). Oni cheidw Llafur y sedd, bydd yn mynd i ryw blaid ar wahan i'r SNP, efallai SSP.


Ond mae'r polau piniwn yn dweud yn gwahanol wrth gwrs - 45% o bleidlais i'r SNP mewn etholiad Holyrood oedd yr un olaf i mi weld.

Mae hyd yn oed yr SSP yn cyfaddef nad oes ganddynt obaith o ennill y sedd. Doedden nhw byth yn dod yn agos at ennill sedd uniongyrchol, hyd yn oed yn y dyddiau da.

Mae'r syniad bod yr SNP yn Doriaid mor chwerthinllyd nad yw werth ei ateb, yn enwedig o gofio Toriaith di ymddiheuriad New Labour.

'Dwi'n gwybod dy fod yn byw yn yr Alban - ond wir Dduw mae lefel dy ddealltwriaeth o wleidyddiaeth y wlad yn chwerthinllyd o isel.

Wedi dweud hynny byddwn yn betio ar i Lafur guro'r SNP o drwch blewyn - gyda phawb arall ymhell o dan 10%.
A great man. He could have been Pope!
Blog Menai
Gwasanaeth i'r Gymuned
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

Re: Ai dyma fydd diwedd Gordon Brown?

Postiogan Hen Rech Flin » Mer 09 Gor 2008 12:46 am

Rwy'n proffwydo bydd ail-gyfrif yn y cownt a bydd yr enillydd yn ennill o lai na 500 pleidlais.

Iawn, rwy'n gwybod bod fy mhroffwydoliaethau etholiadol eraill ar y Maes wedi bod ym mhell ohoni, felly byddwch yn garedig wrth ymateb ar ôl clywed y canlyniad go iawn!
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Re: Ai dyma fydd diwedd Gordon Brown?

Postiogan Macsen » Gwe 11 Gor 2008 6:12 pm

Mae'r pol piniwn diweddara yn awgrymu y byddai'r SNP yn trechu Llafur yn yr Alban mewn etholiad cyffredinol:

SNP: 33% (+15)
Lab: 29% (-11)
Con: 20% (+4)
Lib Dem: 14% (-9)

Mae'n debyg felly y byddai cefnogaeth y blaid mewn etholiad i senedd yr Alban yn uwch byth.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: Ai dyma fydd diwedd Gordon Brown?

Postiogan Hen Rech Flin » Sad 12 Gor 2008 11:13 pm

Mae Pôl yn y Sunday Telegraph yn awgrymu mae'r canlyniad yng Nglasgow bydd
Llafur 47%, SNP 33% LD 9% Ceid 7%.

Sylw difyr am y pôl yn cael ei gynnig gan Iain dale:
Iain Dale a ddywedodd:Those who are as long in the tooth as me will remember the last time the SNP won a by election in Glasgow - back in 1988 when Jim Sillars won Glasgow Govan. A poll was taken the Monday before polling showing Labour on 51% and the SNP on 33%. For that reason, the SNP won't be downhearted by the ICM poll tonight, and nor should they be. By election campaigns are all about momentum, and there's no doubt that it is the SNP which has the Big Mo at the moment.
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Nesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 27 gwestai

cron