Pogo a ddywedodd:huwwaters a ddywedodd:
Ie, ond mae dal cosb yn erbyn rhai a oedd yn bwriadu lladd rhywun, er nad ydynt wedi cyffwrdd a nhw eto. Be am y Al Qaeda Terror Cells sy'n cael eu amharu a'r unigolion yn ffindio'u hunain o flaen ynadon y dydd Llun dilynol? Tydyn nhw heb neud dim eto.
Yr un peth efo dal ffrwydron, cemegion a deunyddiau ansefydlog (niwclear) mewn garej. Nid cymaint bod dwi efo nhw, ond beth yw fy mwriad. Os na fedrai roi esgus digon da, neu un gyda ategiad swyddogol mi fyddaf mewn llys mewn chwinciad, er fy mod heb neud dim.
Doedd dim bwriad.
Naethon nhw
gysidro rhywbeth, a wedyn newid eu meddyliau.
Does dim cosb am hynny o gwbl.
Y ffaith nath nhw feddwl am y peth am eiliad yn ddigon o fwriad yn ei hun. Efo pwnc fel paedophilia buasai neb yn dychmygu unrhywbeth byth, dim ots am feddwl am rywbeth a wedyn newid eu meddyliau.
Dwyt ti methu difa meddyliau o dy ben, unwaith mae o ene fydd o ene am byth fel atgof, sa ti'n colli dy gof mewn damwain, alzheimers etc. Dwi di neud ychydig o bethe dwi'n difaru a fedrai byth cael gwared o'r hyn wnes i na'r meddyliau sy'n gysylltiedig a'r gweithredoedd. Y peth yw yr oeddwn digon alluog i fynd lawr y trwydydd ene a gneud y gweithgareddau, fedri di ond cymyd fy ngair na wnaf ei wneud eto. Y peth pwysig yw nath o groesi fy meddwl.
Edycha di ar pobol a chafodd eu taflu i'r rhengoedd blaen yn Yr Ail Ryfel Byd - cafodd rhai eu saethu am fod yn
deserters achos doedden nhw byth yn gallu cael eu hunain i ladd person. Hyd yn oed pan oedd y dewis ar y bwrdd, lladd rhywun neu cael dy ladd dy hun. Cafodd nifer eu lladd gan ochor eu hunain gan nad oedd bwriad iddyn nhw ladd pobol. Doedd byth
intent yn eu pennau a doedd dim siawns o hynny'n digwydd chwaith.