Thatcher isio "Cromwellian solution" yng ngogledd Iwerddon

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Thatcher isio "Cromwellian solution" yng ngogledd Iwerddon

Postiogan Pogo » Llun 28 Gor 2008 7:46 pm

Blewyn a ddywedodd:Mi wahanodd Thatcher y wlad yn ddarnau, dinistriodd bywydau nifer fawr iawn o bobl, a mi roddodd holl rym economaidd a gwleidyddol y wlad yn ol yn nwylo y rhai sydd biau'r wlad, yn hytrach na'r rhai sy'n gwneud y gwaith. Cywilydd fysa rhoi cynhebrwng stad i'r fath berson.

Roedd y Deyrnas Unedig yn gryfach o lawer ar ol ei harweinydd na cyn iddi fynd yn brif weinidog.

Delwedd
Pogo
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 74
Ymunwyd: Sad 10 Maw 2007 5:42 pm

Re: Thatcher isio "Cromwellian solution" yng ngogledd Iwerddon

Postiogan johnkeynes » Llun 28 Gor 2008 8:25 pm

Magi, arwr i nifer o bobl tlawd, pam benderfynnodd gwerthu tai cyngor i bobl oedd yn byw ynddynt a oedd yn methu fforddio tai ar y pryd. Fe newidiodd hi ni a rhoi gobaith i filiynau o bobl.
Ac eto mae Magi ar y llaw arall yn wyneb o gasineb i nifer gollodd eu swyddi, yn enwedig yn y diwydiant glo..Mae lot yn y brigad gwrth-Thatcher yn mynd ymlaen am y pyllau glo, sydd yn ffer enyff, achos mi effeithiwyd nifer o bobl, ond eto be ma pobl yn anghofio yw nath llywodraeth Llafur dan Wilson gau mwy o byllau na hi...dyw'r cyfryngau byth yn son am hyn....heb os mae'r cyfryngau gwrth-ceidwadol, asgell chwith yn dylanwadu yn fawr ar fel ma'r cyhoedd yn edrych ar bethe....do, mi oedd y papurau dyddiol yn pro-thatcher yn gyffredinol ond y sianeli teledu yn anti-thatcher.

Yn syml gyda Magi, odd hi fath o love/hate figure....

Dwi yn teimlo tho, tra bod hanes yn bwysig, bo ni yn dwelo gormod yn y gorffennol...angen i ni symud mlaen....

Ond hei, nath hi ypsetio rhai ohonnoch chi, ond odd e 20 mlynedd...life's too short guys....chill 8)
johnkeynes
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 34
Ymunwyd: Maw 24 Meh 2008 10:19 am

Re: Thatcher isio "Cromwellian solution" yng ngogledd Iwerddon

Postiogan Kez » Llun 28 Gor 2008 9:04 pm

johnkeynes a ddywedodd:Magi, arwr i nifer o bobl tlawd, pam benderfynnodd gwerthu tai cyngor i bobl oedd yn byw ynddynt a oedd yn methu fforddio tai ar y pryd. Fe newidiodd hi ni a rhoi gobaith i filiynau o bobl.

Do, fe nath Maggie Thatcher benderfynu gwerthu tai cyngor i bobol dlawd oedd yn byw ynddynt a rhoi gobaith iddynt - ond be nath y bobol 'na wedyn (yn Llundain o leia) ond eu gwerthu nhw am grocbris a phrynu tai gwell o lawer yng Nghefn gwlad Cymru a llefydd eraill gan achosi problemau di-rif o ran diwylliant y brodorion a'u gallu i gystadlu gyda nhw yn y farchnad dai - lladd gobaith miloedd ar filoedd o bobl.

Be' ddigwydd i'r werin dlawd yn Llundain nawrte a nhwythau heb le i fyw yndo. Erbyn hyn, eu hunig ddewis yw gorffod talu rhenti uchel y diawl am gartref - am i'r cyfoethogion brynu'r tai cownsil 'na a'u rhentu nhw nol iddynt ar bris uchel.

Maggie Thatcher yn arwres, meddat ti - my fucking arse - ac ma'r boen a'r ing yn dal yno wedi ugain mlynedd, gyfaill!
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: Thatcher isio "Cromwellian solution" yng ngogledd Iwerddon

Postiogan Madrwyddygryf » Llun 28 Gor 2008 9:22 pm

Wel dwi’n gwybod bydd dadlau dros bolisïau'r llywodraeth geidwadol 1979-1990 ar Maes-E fel cicio arth fawr yn y ceilliau, oherwydd mi fyddaf yn derbyn ymateb go ffyrnig. Dwi’m yn dweud ar y llawr arall na wnaeth hi gamgymeriadau, niweidiodd rhai o’i pholisïau y wlad (roedd eu hagwedd tuag yr Undeb Ewropeaidd yn gywilyddus).

Credaf bod y genhedlaeth a chafodd ei geni gydol neu ar ôl y saithdegau wedi anghofio pa mor gyth-gafn o wael oedd stad y wlad ma’. Winter of discontent, stagflation, streics dirybudd etc. Roedd llawer o byllau glo a diwydiannau a chafodd ei breifateiddio neu gau lawr yn colli arian fel dwnim be (rhai o’r pyllau glo neu British Steel). Tanseilwyd effeitholrwydd rhai o’r cwmniau gan yr undebau a gan gwleidyddiaeth , fe anghofiwyd am y cwsmeriaid neu’r farchnad (unrhyw un a brynodd ceir British Leyland yn y saithdegau yn gallu tystio i hyn). Roedd undebau yn gallu torri pŵer trydan ar draws y wlad. Fe ymgeisiodd Llafur a’r Ceidwadwyr yn Saithdegau delio gyda’r problemau (in Place of strife etc) felly roedd rhaid i rywun delio gyda’r broblem yn y diwedd.

Wrth gwrs erbyn 1984, roedd y llywodraeth yn barod i wthio drwadd diwygiadau angenrheidiol yn y diwydiannau cyhoeddus a hefyd i wynebu'r undebau. Yn anffodus i’r NUM, roedd nhw yn wynebu llywodraeth llawer mwy didostur ac wedi paratoi yn drylwyr o flaen llaw.
Clwb Rhedeg Caerdydd. Clwb Rhedeg ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
Bob nos Lun 6:00pm tu allan i Athronfa Chwareon, Gerddi Sofia.|
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Thatcher isio "Cromwellian solution" yng ngogledd Iwerddon

Postiogan johnkeynes » Llun 28 Gor 2008 9:44 pm

Kez a ddywedodd:
johnkeynes a ddywedodd:Magi, arwr i nifer o bobl tlawd, pam benderfynnodd gwerthu tai cyngor i bobl oedd yn byw ynddynt a oedd yn methu fforddio tai ar y pryd. Fe newidiodd hi ni a rhoi gobaith i filiynau o bobl.
Ac eto mae Magi ar y llaw arall yn wyneb o gasineb i nifer gollodd eu swyddi, yn enwedig yn y diwydiant glo..Mae lot yn y brigad gwrth-Thatcher yn mynd ymlaen am y pyllau glo, sydd yn ffer enyff, achos mi effeithiwyd nifer o bobl, ond eto be ma pobl yn anghofio yw nath llywodraeth Llafur dan Wilson gau mwy o byllau na hi...dyw'r cyfryngau byth yn son am hyn....heb os mae'r cyfryngau gwrth-ceidwadol, asgell chwith yn dylanwadu yn fawr ar fel ma'r cyhoedd yn edrych ar bethe....do, mi oedd y papurau dyddiol yn pro-thatcher yn gyffredinol ond y sianeli teledu yn anti-thatcher.

Yn syml gyda Magi, odd hi fath o love/hate figure....

Dwi yn teimlo tho, tra bod hanes yn bwysig, bo ni yn dwelo gormod yn y gorffennol...angen i ni symud mlaen....

Ond hei, nath hi ypsetio rhai ohonnoch chi, ond odd e 20 mlynedd...life's too short guys....chill 8)

Do, fe nath Maggie Thatcher benderfynu gwerthu tai cyngor i bobol dlawd oedd yn byw ynddynt a rhoi gobaith iddynt - ond be nath y bobol 'na wedyn (yn Llundain o leia) ond eu gwerthu nhw am grocbris a phrynu tai gwell o lawer yng Nghefn gwlad Cymru a llefydd eraill gan achosi problemau di-rif o ran diwylliant y brodorion a'u gallu i gystadlu gyda nhw yn y farchnad dai - lladd gobaith miloedd ar filoedd o bobl.

Be' ddigwydd i'r werin dlawd yn Llundain nawrte a nhwythau heb le i fyw yndo. Erbyn hyn, eu hunig ddewis yw gorffod talu rhenti uchel y diawl am gartref - am i'r cyfoethogion brynu'r tai cownsil 'na a'u rhentu nhw nol iddynt ar bris uchel.

Maggie Thatcher yn arwres, meddat ti - my fucking arse - ac ma'r boen a'r ing yn dal yno wedi ugain mlynedd, gyfaill!

Kez, fe werthwyd tai cyngor dros Brydain gyfan , nid jyst yn Cymru....Ond hei erbyn hyn, y bobl sydd yn symud i Gymru bellach o Loegr yw'r rhai sydd yn scroungo arian o ran budd-daliadau. Mae'r dosbarth canol bellach yn mynd lawr i fyw yn Sbaen...deall dy bwynt tho, a o le ti yn dod..

O ran arwres, dweud ydw i ei bod yn arwres i filiynau o bobl ac eto fi hefyd yn dweud bod hi yn wyneb o gasineb i nifer...bydd yn deg da fi nawr Kez... :winc:
(a sdim rhegi tho yn dos e,a rhai dy hunain lawr? :rolio: )
O ran y sylwad diwetha (Madrwyddgryf), cytuno da lot ti yn dweud...odd angen sorto mas yr undebau, achos mi oeddynt yn dictietio beth oedd yn digwydd yn y wlad ac yn creu problemau enfawr i bobl...mi roedd rhaid delio a hwy , a chware teg i Magi, mi wnath hi.....ond eto mi oedd treth y pen, a oedd yn dreth hollol anheg...Ma drwg a da yn popeth/pob un ar diwedd dydd....
johnkeynes
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 34
Ymunwyd: Maw 24 Meh 2008 10:19 am

Re: Thatcher isio "Cromwellian solution" yng ngogledd Iwerddon

Postiogan Kez » Llun 28 Gor 2008 10:23 pm

Johnkeyes - byswn i'n ei ffindo hi'n rhwyddach i siarad yn gall gyda thi 'tasat ti ddim yn wilia dwli/ malu cachu neu jwst yn siarad trwy dy ffycin din.

Da ti - paid a lladd ar bob un dim person sydd ar fudd-daliadau; does 'da ti ddim syniad beth yw eu hamgylchiadau. Ti'n swno'n rel hen blydi dori - ac o ran rhegi; does ffwc all o ots gen i!
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: Thatcher isio "Cromwellian solution" yng ngogledd Iwerddon

Postiogan ceribethlem » Maw 29 Gor 2008 12:23 am

johnkeynes a ddywedodd:Magi, arwr i nifer o bobl tlawd, pam benderfynnodd gwerthu tai cyngor i bobl oedd yn byw ynddynt a oedd yn methu fforddio tai ar y pryd.
Fi'n nabod tipyn o bobl odd yn aros ar y rhestr am dai cyngor. a phan dechreuodd hi werthu'r tai cyngor i'r rhai oedd yn gallu fforddio nhw, odd hyd yn oed llai o obaith gyda nhw i gael rhywle i fyw. A dweud y gwir, odd ambell un yn fy mhentre yn son am y "bobl posh" sef y rhai odd wedi prynru ty cyngor. Wrth gwrs na gyd odd yn y prntre odd ffermydd a tai cyngor, pethe 'di newid erbyn hyn.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Thatcher isio "Cromwellian solution" yng ngogledd Iwerddon

Postiogan HuwJones » Maw 29 Gor 2008 7:56 am

O beth dwi'n coifio WNAETH Thatcher gweithredu "Cromwellian solution" yng ngogledd Iwerddon.. y ffxxxxing ast.
Bydd uffern o barti y diwrnod pan wnaeth hi cicio'r bwced
Tiocfaidh ár lá!
HuwJones
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 196
Ymunwyd: Gwe 23 Maw 2007 2:39 pm
Lleoliad: Ynys Môn

Re: Thatcher isio "Cromwellian solution" yng ngogledd Iwerddon

Postiogan Pogo » Maw 29 Gor 2008 8:08 am

HuwJones a ddywedodd:Bydd uffern o barti y diwrnod pan wnaeth hi cicio'r bwced
Tiocfaidh ár lá!

Gobeithio yn fawr dy fod yn marw yn gyntaf.
Pogo
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 74
Ymunwyd: Sad 10 Maw 2007 5:42 pm

Re: Thatcher isio "Cromwellian solution" yng ngogledd Iwerddon

Postiogan johnkeynes » Maw 29 Gor 2008 8:19 am

Kez a ddywedodd:Johnkeyes - byswn i'n ei ffindo hi'n rhwyddach i siarad yn gall gyda thi 'tasat ti ddim yn wilia dwli/ malu cachu neu jwst yn siarad trwy dy ffycin din.

Da ti - paid a lladd ar bob un dim person sydd ar fudd-daliadau; does 'da ti ddim syniad beth yw eu hamgylchiadau. Ti'n swno'n rel hen blydi dori - ac o ran rhegi; does ffwc all o ots gen i!

Ond mae yna lot ar fudd-daliadau sydd yn manteiso ar y system big time.. Kez, tho paid mor chwerw ychan, life's too short.....chill 8)

O ran yr hyn dywedodd Ceribethlem, dwi ddim yn amau be ddywedodd e... fel da pob polisi newydd, ma na gryfderon a gwendidau iddo...mi wnath llawer elwa ac eto, mi roedd yna sefyllfaoedd ble oedd pobl yn colli allan.
johnkeynes
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 34
Ymunwyd: Maw 24 Meh 2008 10:19 am

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron